Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Datganiad Prifysgol Caerdydd ar Asesiad Ymchwil Cyfrifol

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Datganiad Polisi Prifysgol Caerdydd ar Asesiad Ymchwil Cyfrifol yw hwn. Mae’n darparu cyfres o egwyddorion ar ddefnyddio metrigau ymchwil feintiol yn briodol. Fel cymuned Prifysgol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau rhyddid i ymchwilio drwy adolygiad gan gymheiriaid yn yr ystyr ehangaf. Rhyddid i ymchwilio yw un o saith gwerth craidd sy’n sail i strategaeth Ffordd Ymlaen 2018-2023 Ail-lunio COVID-19 y Brifysgol.

Mae’r Datganiad Polisi hwn yn ychwanegu at ein hymrwymiad i Ddatganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), a llofnodwyd y datganiad gennym ni ym mis Tachwedd 2019, sy’n dangos ein haliniad â mentrau blaenllaw eraill yn yr ardal hon, gan gynnwys y Maniffesto Leiden ar gyfer Metrigau Ymchwil ac adroddiad The Metric Tide, a gomisiynwyd gan HEFE (sef Research England bellach).

Anogodd The Metric Tide sefydliadau’r DU i ddatblygu datganiad o egwyddorion ar ddefnyddio dangosyddion meintiol ym maes rheoli ac asesu ymchwil. Mae’n argymell y dylid ystyried metrigau o ran

  • cadernid (gan ddefnyddio’r data orau sydd ar gael);
  • gostyngeiddrwydd (gan gydnabod y gall gwerthuso meintiol ategu asesiad arbenigol, ond nid yw’n cymryd ei le);
  • tryloywder (cadw’r broses o gasglu data a’i ddadansoddi yn agored i’w craffu);
  • amrywiaeth (adlewyrchu llu o lwybrau gyrfa ymchwil ac ymchwilydd); ac
  • ymatblygaeth (diweddaru ein defnydd o fetrigau i ystyried yr effeithiau y mae mesurau o’r fath wedi’u cael).

Mae’r mentrau hyn a’r datblygiad o bolisïau sefydliadol hefyd yn cael eu cefnogi neu maen nhw’n ofynnol gan gyllidwyr ymchwil yn y DU (e.e. Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), yr Ymddiriedolaeth Wellcome a’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF)).

Mae’r egwyddorion a amlinellir isod yn adlewyrchu ein hymrwymiad i asesu ymchwil yn gyfrifol. Er mwyn ein helpu i roi hyn ar waith, byddwn yn cynnig canllawiau ychwanegol ar fetrigau ymchwil penodol, a fydd yn cael eu hailystyried yn aml a’u llywio drwy ymgynghori â staff y Brifysgol ac arferion gorau yn y maes.

Egwyddorion

Rydym wedi ymrwymo i gymhwyso’r egwyddorion arweiniol canlynol lle y bo’n berthnasol (e.e. o ran recriwtio, hyrwyddo ac ariannu penderfyniadau):

1. Adolygiad ansoddol gan gymheiriaid yw’r prif ddull o werthuso ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd o hyd. Gall metrigau ymchwil a ddewisir yn ofalus, megis metrigau ar lefel erthygl (yn seiliedig ar ddyfyniadau a metrigau amgen (altmetreg)), fod yn ddangosyddion defnyddiol o ddylanwad ysgolheigaidd os cânt eu defnyddio i ategu (nid disodli) barn arbenigol ansoddol.

2. Fel arfer, mae ansawdd, dylanwad ac effaith ymchwil yn gysyniadau haniaethol sy’n eich rhwystro rhag eu mesur yn uniongyrchol. Nid oes ffordd seml o fesur ansawdd ymchwil, a gellir dehongli dulliau ansoddol fel dirprwyon anuniongyrchol ar gyfer ansawdd yn unig.

3. Mae gan feysydd disgyblu safbwyntiau gwahanol o’r hyn sy’n nodweddu ansawdd ymchwil a dulliau gwahanol ar gyfer penderfynu beth sy’n cyfateb i allbwn ymchwil penodol (er enghraifft, pwysigrwydd penodau llyfrau o gymharu ag erthyglau cyfnodolion). Fel llofnodwr i DORA, rydym yn gwerthfawrogi ystod amrywiol o allbynnau ymchwil, a chaiff pob allbwn ei ystyried ar sail ei hun, mewn cyd-destun priodol sy’n adlewyrchu anghenion ac amrywiaeth meysydd a chanlyniadau ymchwil.

4. Mae gan ffurfiau meintiol ac ansoddol asesiadau ymchwil eu manteision a’u cyfyngiadau. Yn dibynnu ar y cyd-destun, rhaid ystyried a chydbwyso gwerth gwahanol ddulliau. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ddelio â’r arferion cyhoeddi penodol a’r normau dyfynnu a welir ar draws y disgyblaethau.

5. Wrth wneud asesiadau ansoddol, dylem ni osgoi gwneud dyfarniadau yn seiliedig ar ffactorau allanol megis enw da awduron, na chyfnodolyn na chyhoeddwr y gwaith; mae’r gwaith ei hun yn bwysicach a rhaid ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.

6. Nid yw pob dangosydd yn ddefnyddiol, yn addysgiadol, nac yn addas i bawb; ar ben hynny, gall metrigau sy’n ystyrlon mewn rhai cyd-destunau fod yn gamarweiniol neu’n ddiystyr mewn cyd-destunau eraill. Er enghraifft, mewn rhai meysydd neu is-feysydd, gall cyfrifiadau dyfynnu helpu i amcangyfrif elfennau ar ddefnydd, ond nid ydynt yn ddefnyddiol mewn meysydd eraill o gwbl.

7. Ceisiwch osgoi cymhwyso metrigau i ymchwilwyr unigol, yn enwedig y rhai nad ydynt yn cyfrif am amrywiad neu amgylchiadau unigol. Er enghraifft, ni ddylid defnyddio’r mynegai-h i gymharu unigolion yn uniongyrchol, oherwydd mae nifer y papurau a’r dyfyniadau yn wahanol iawn ymhlith meysydd ac ar wahanol adegau mewn gyrfa.

8. Sicrhewch fod metrigau priodol yn cael eu dewis ar gyfer y cwestiwn sy’n cael ei ymchwilio, ac nad ydynt yn cymhwyso metrigau lefel agreg i bynciau unigol, nac i’r gwrthwyneb (e.e., peidiwch ag asesu ansawdd papur unigol yn seiliedig ar ffactor effaith y cyfnodolyn na’r cyfnodolyn y cafodd ei gyhoeddi ynddo).

9. Rhaid i unrhyw ddefnydd o ddangosyddion ystyried ffynonellau tuedd posibl a cheisio eu lleihau: mae ystyriaeth o’r fath yn berthnasol, er enghraifft, i wahaniaethau rhwng disgyblaethau, camau gyrfa a statws cyfwerth ag amser llawn (CALl) yr unigolyn sy’n cael ei asesu, a chydraddoldeb , ystyriaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Rhaid cydnabod unrhyw duedd mewn dadansoddiad yn benodol a dylid normaleiddio dangosyddion gan y ddisgyblaeth, lle y bo’n berthnasol.

10. Dylid dewis dangosyddion meintiol o’r rhai a ddefnyddir yn helaeth ac sy’n hawdd eu deall i sicrhau bod y broses yn dryloyw a’u bod yn cael eu defnyddio’n briodol. Yn yr un modd, mae’n rhaid i unrhyw nodau meintiol neu feincnodau fod yn agored i feirniadaeth.

11. Mae metrigau newydd ac amgen yn cael eu datblygu’n barhaus i lywio’r broses o dderbyn, defnyddio a gwerth pob math o allbwn ymchwil. Rhaid defnyddio a dehongli unrhyw fetrig neu ddangosydd newydd neu ansafonol yn unol â’r egwyddorion yn y Datganiad Polisi hwn. Yn ogystal, rydym yn ymrwymedig i ystyried y ffynonellau a’r dulliau sy’n gyfrifol am fetrigau o’r fath ac a oes modd eu twyllo, eu camddefnyddio neu eu ffabrigo.

12. Mae metrigau (yn enwedig bibliometreg) ar gael gan amrywiaeth o wasanaethau, gyda lefelau gwahanol o sylw, ansawdd a chywirdeb. Dylid ystyried yr agweddau hyn wrth ddewis ffynhonnell ar gyfer data neu fetrigau.

Mae’r datganiad hwn wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Priodoledd Comin Creu 4.0. Priodolwch e fel ‘Datblygwyd o Ddatganiad UCL am Ddefnyddio Metrigau’n Gyfrifol’.