Ewch i’r prif gynnwys

Cwestiynau cyffredin

Faint o weithdrefnau rydych chi'n eu cynnal ar anifeiliaid bob blwyddyn?

Yn 2022, gwnaethom gynnal 34,740 o weithdrefnau. Mae hyn yn cynnwys bridio anifeiliaid a newidiwyd yn enetig yn naturiol, ac rydyn ni’n ystyried genedigaeth pob anifail yn un weithdrefn.

AnifailNifer y gweithdrefnau
Llygod28,643
Llygod Mawr2,691
Cwningod0
Xenopus60
Pysgod eraill3,346

Fyddwch chi'n profi cosmetigau neu gynnyrch cartref ar anifeiliaid?

Na fyddwn, byth Mae hyn wedi bod yn anghyfreithlon yn yr Undeb Ewropeaidd ers 2009. Mae'n anghyfreithlon yn y DU ac Ewrop i ddefnyddio anifeiliaid i brofi cosmetigau neu eu cynnwys.

Pa anifeiliaid sy'n cael eu cadw yn eich cyfleusterau ymchwil?

Mae ein hymchwil bron yn gyfan gwbl yn canolbwyntio ar gnofilod a physgod a fridir mewn labordai a’r diben yw lliniaru clefydau dynol a milfeddygol drwy ddatblygu dealltwriaeth feddygol, ddeintyddol, fiolegol a milfeddygol.

A yw anifeiliaid yn elwa o ymchwil anifeiliaid?

Diolch i ymchwil anifeiliaid, gall milfeddygon ddefnyddio meddyginiaethau megis fel tabledi llyngyr a brechlynnau ar gyfer y gynddaredd, clefyd y cŵn a pheswch cytiau cŵn. Ymhell o beidio â bod yn gysylltiedig ag ymchwil ar anifeiliaid, mae anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm ac anifeiliaid yn y gwyllt i gyd yn elwa o ymchwil sy'n defnyddio anifeiliaid. Mae'r holl feddyginiaethau milfeddygol sydd ar gael inni heddiw wedi cael eu datblygu a'u profi gan ddefnyddio anifeiliaid. Mae'r ymchwil hon hefyd wedi bod yn allweddol wrth ddod o hyd i feddyginiaethau at ddefnydd dynol, a gellir eu defnyddio wedyn at ddibenion anifeiliaid hefyd. (Ffynhonnell: Understanding Animal Research).

Ydych chi'n cynnal ymchwil gan ddefnyddio cathod?

Nac ydyn. Nid yw cathod wedi cael eu defnyddio yn ein hymchwil ers 2012. Cyn hynny, cawson nhw eu defnyddio i ymchwilio i amblyopia (llygad ddiog).