Ewch i’r prif gynnwys

Simon Moore

Professor Simon Moore

Mae trais yn gostus. Mae'n faich ar y GIG, y gwasanaethau ambiwlans a’r heddlu, ac mae'n peri trallod anfesuradwy i'w ddioddefwyr.

Rwyf i’n rhan o Grŵp Ymchwilio i Drais y Brifysgol, sy'n ceisio deall gwreiddiau trais er mwyn adeiladu cymdeithas well. Mae un o'n prosiectau diweddaraf yn dod â gwyddonwyr cyfrifiadurol y Brifysgol, technolegwyr Grŵp Airbus a Llywodraeth Cymru at ei gilydd i ddatblygu camerâu sy'n canfod trais ar y strydoedd.

Gall ffyrdd mwy clyfar o ddatgelu troseddau helpu'r heddlu a chynghorau i dargedu adnoddau. Mae costau staffio a chynnal teledu cylch cyfyng yn sylweddol, ac mewn rhai achosion caiff camerâu eu diffodd yn llwyr.

Canfu ein gwaith cynnar fod teledu cylch cyfyng yn gallu lleihau'r nifer o anafiadau drwy ymosodiadau. Unwaith y bydd y camerâu wedi eu gosod, mae troseddau a gofnodir gan yr heddlu'n tueddu i gynyddu (gwelir mwy o drais) ond caiff llai o anafiadau'n codi o ymosodiadau eu cofnodi yn adrannau brys yr ysbytai. Un rheswm tebygol yw bod teledu cylch cyfyng yn caniatáu i'r heddlu ymateb yn gynt ac atal digwyddiadau rhag gwaethygu.

Canfu gwaith gyda'r Ysgol Cyfrifiadureg ar leihau trais yn gysylltiedig ag alcohol dystiolaeth y gallai'r seilwaith teledu cylch cyfyng presennol chwarae rhan allweddol yn lleihau trais. Mewn sgyrsiau diweddarach gyda Grŵp Airbus sylweddolon ni fod cyfleoedd ar gael i symud i feysydd eraill fel diogelwch cenedlaethol.

Er i ni gael llwyddiant cynnar yn gwella ein dealltwriaeth o dorfeydd a symudiadau torfeydd mewn amgylcheddau nos, cafwyd sawl rhwystr sylweddol. Roedd un rhwystr cynnar yn dechnegol, ond mae camerâu digidol HD wedi disodli tapiau VHS, gan wneud ein hymchwil yn haws. Roedd amgylchedd y nos - gyda'i dywyllwch, grwpiau clos, bysiau a cheir - yn fwy o rwystr. Er bod digon o ymchwil byd-eang ar gael sy'n tracio symudiadau unigol mewn efelychiadau, sylweddolon ni’n gyflym pam nad oedd neb yn edrych ar luniau teledu cylch cyfyng 'byd real'.

Yn ffodus, cawsom gyllid i recriwtio myfyrwyr drwy Gymdeithas Ryngwladol Cyfnewid Myfyrwyr ar gyfer Profiad Technegol. Gan ennill profiad yn gweithio yn y DU, helpon nhw ni i weithio ar y problemau roedden ni'n eu hwynebu. Parhaom ni i sgwrsio, gan sicrhau bod Airbus yn dal yn rhan o'r drafodaeth, ac yna digwyddodd cwpwl o bethau pwysig.

Yn gyntaf, yn sgil gwaith yr Athro Dave Marshall gydag Undeb Rygbi Cymru, cawsom ddealltwriaeth bwysig o'n problem teledu cylch cyfyng. Roedd ganddo ddiddordeb mewn adnabod cyfnodau chwarae yn awtomatig: sgrym, ryc, llinell ac yn y blaen. Gwelwyd bod modd trosi hyn i'n prosiect ni; hyd yn oed gyda lluniau teledu llwydaidd a thywyll, roedd yn bosib y gallen ni adnabod cyfnodau mewn ymddygiad torfeydd wrth i drais ymddangos ar y stryd.

Yn ail, galluogodd Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd ni i weithio gyda Kaelon Lloyd, myfyriwr cyfrifiadureg israddedig arbennig o dalentog. Gyda Kaelon yn rhan o'r gwaith, sylweddolon ni'n fuan ein bod wedi cyflawni carreg filltir bwysig. Roedd modd i ni adnabod trais yn awtomatig wrth iddo ddatblygu mewn lluniau teledu cylch cyfyng.

Datblygodd y sgyrsiau gyda rhanddeiliaid yn gyflym yn brosiect £1m gydag Airbus. Derbyniodd Kaelon ein cynnig o ysgoloriaeth PhD a chadrnhaodd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu botensial ein gwaith.