Ewch i’r prif gynnwys

Rachel Errington

Professor Rachel Errington

Dechreuodd fy ngyrfa academaidd ar adeg hynod ffafriol. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen ddechrau'r 1990au, lle'r oedd cyffro go iawn ynghylch ymddangosiad microsgopeg sganio laser cydffocal.

Roeddwn ymhlith grŵp o ymchwilwyr ifanc a oedd yn defnyddio'r offer i astudio celloedd ac isadrannau celloedd, mewn tri-dimensiwn a thros amser. Mae'n siŵr nad oedd ein llawenydd, a'n taith ddarganfod ar y cyd, yn rhy annhebyg i deimladau Robert Hooke a'i gyfoedion 325 mlynedd yn gynharach. Newidiodd y profiad fy mywyd, ac effeithiodd ar fy syniadau am y parch sydd ei angen rhwng y byd academaidd a byd diwydiant.

"...gyda chymorth Microsgopau, nid oes dim byd yn rhy fach i ni ymchwilio iddo; felly mae dealltwriaeth yn darganfod Byd newydd gweladwy."

Robert Hooke Micrographia (1665)

Fel biolegydd canser, mae fy ngwaith wedi symud ymlaen o astudio celloedd at ddatblygu technoleg, gan roi cyfle i mi gydweithio â mathemategwyr a pheirianwyr i adeiladu modelau sy'n ein helpu i ddeall strwythurau celloedd ac ymatebion celloedd tiwmor pan fyddant o dan straen.

Mae'r technolegau yn ein galluogi i olrhain celloedd sengl mewn cyfres-amser, ac i astudio nodweddion celloedd ar sail delwedd, yn ôl eu cyfansoddiad genetig a'r amgylchedd o'u cwmpas. Y weledigaeth yw dadansoddi data er mwyn nodi ymddygiad celloedd cydlynol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ymddangosiad, esblygiad a chanlyniadau ymwrthiant i gyffuriau mewn poblogaethau heterogenaidd.

"Mae pob arloeswr da yn croesawu heriau, ac yn dod o hyd i ffyrdd o drosglwyddo syniadau da a thechnolegau cysylltiedig i bobl eraill."

Yr Athro Rachel Errington Professor

Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, rwyf wedi bod yn weithgar wrth ddatblygu casgliad o liwiau fflworolau pell-goch newydd sy'n rhwymo i DNA celloedd. Yn syml, mae'r lliwiau hyn yn labelu adran niwclear cell. Mae'r gwaith wedi dwyn ynghyd amrywiaeth o arbenigwyr mewn cemeg feddyginiaethol, bioffotoneg a cytometreg llif a delwedd.

Mae'r chwiliedyddion DRAQ™ bellach yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o brofion labordy, gan drawsnewid arferion yn y sectorau clinigol, masnachol ac ymchwil drwy'r is-gwmni Biostatus Ltd. Ymunais â bwrdd Biostatus Ltd yn 2005 i oruchwylio rhaglen ymchwil a datblygu'r chwiliedyddion. Ers hynny, rydym wedi datblygu technoleg cyflwyno cyffuriau a chwiliedyddion newydd, ynghyd â chyffur gwrth-ganser newydd, sy'n seiliedig ar arbenigedd y cwmni cyfan ym maes cemeg chwiliedyddion moleciwlaidd.

Mae'n wych gweithio ar wyddoniaeth a thechnoleg sy'n cael effaith go iawn ar gymdeithas, er nad yw wedi cyrraedd ei llawn botensial eto. Pan gaiff ei gwireddu, bydd ganddi'r grym i newid bywydau.