Paul Harper
Yn haf 1996, cefais fy hun mewn clinig HIV ac AIDS anhrefnus yr olwg yng nghanol dinas Mumbai.
Roedd yn 07:00. Roedd cleifion eisoes yn ciwio ar feinciau ar hyd y coridorau. Roedd yn agoriad llygad ar ddechrau fy nghyfnod o dri mis yn India yn gweithio ar draethawd hir fy ngradd Meistr.
Yr hyn a wnaeth fy nharo fwyaf oedd yr adnoddau annigonol. Roedd clinigwyr (neu o leiaf y rhai a fyddai'n cyffwrdd â chleifion y credid bod ganddynt HIV) yn anghyfarwydd â'r firws, a gwadodd Llywodraeth India ei bod yn broblem o gwbl. Fy nhasg i oedd cymhwyso Ymchwil Gweithredol a thechnegau modelu mathemategol i asesu hyd a lled yr haint, a'r adnoddau oedd eu hangen i fynd i'r afael ag ef.
Mae gen i atgofion melys o'r haf hwnnw. Nid oedd neb erioed wedi dweud wrthyf y gallai mathemateg fod o ddefnydd ar gyfer gofal iechyd, heb sôn am arbed bywydau. Mae'r angerdd hwn ynof o hyd, ac rwyf wrth fy modd yn arwain tîm talentog o ymchwilwyr cydweithredol a ariennir gan amryw bartneriaid gofal iechyd.
Ar hyn o bryd, rhaid i'r GIG ymdopi â galw a chymhlethdodau cynyddol o fewn cyllidebau cyfyngedig. Mae cynllunio a chyflwyno gwasanaethau sy'n manteisio i'r eithaf ar adnoddau yn hanfodol. Yn nodweddiadol, mae systemau gofal iechyd yn gweithredu mewn amgylchedd ansicr. Bob dydd, bydd cannoedd o gleifion gydag anghenion amrywiol yn derbyn mathau gwahanol o ofal. Mae angen cymorth i ragweld y galw, trefnu clinigau, lleihau amseroedd aros ac ati.
Rydym yn adeiladu modelau mathemategol o brosesau cyfredol ac yn eu defnyddio i asesu gwahanol ffyrdd o weithio. Mae hyn yn llawer mwy diogel nag arbrofi gyda newidiadau 'go iawn'. Mae'n dechneg sy'n achub bywydau.
Mewn un ysbyty mawr, cafodd gofal ar gyfer cleifion strôc ei ail-gynllunio’n llwyr, a gostyngodd cyfraddau marwolaethau 60% yn sgil hynny. Mewn adran damweiniau ac achosion brys mewn ysbyty arall, helpodd ein gwaith y Bwrdd Iechyd i arbed £1.6m y flwyddyn.
Ond dim ond un rhan o'r system yw ysbyty. Mae'r hyn sy'n digwydd yno yn dibynnu ar benderfyniadau polisi mewn gofal sylfaenol, ac yn dylanwadu arnynt. Mae cynllunio'n hanfodol er mwyn cydbwyso'r system. Gall helpu i oresgyn ffactorau daearyddol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cyrraedd cleifion o fewn amser critigol, yn ogystal â chyflwyno polisïau yn gost-effeithiol.
Mae ein gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ymdrin â hyn. Mae uned modelu sydd wedi'i gosod yno'n cyflogi tîm o ymchwilwyr gweithredol, sy'n golygu bod modd i holl adrannau'r Bwrdd Iechyd fanteisio ar yr arbenigedd.
Mae dulliau'r tîm yn creu astudiaethau achos o allbynnau ac effaith, ac felly yn gatalydd ar gyfer rhagor o geisiadau am grantiau ac arian, gan gynnwys ysgoloriaethau PhD. Mae gweithgareddau ymchwil hefyd yn gwella profiad ein myfyrwyr, felly mae gwybodaeth yn gwella.
Nid ydym yn ymwybodol o uned debyg ar y raddfa hon yn y DU, nac o bosibl ledled y byd. Mae ein gwaith yn rhoi'r Brifysgol, y Bwrdd a GIG Cymru ar y map fel canolfan arloesedd o ran cynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd.
Gwylio'r Athro Paul Harper yn trafod prosiect 'Maths yn Achub Bywydau.'
Mae ein hymchwil wedi cael effaith wirioneddol ar sawl maes gan gynnwys lleihau amseroedd aros mewn ysbytai.