Ewch i’r prif gynnwys

Jacqui Mulville

Doeddwn i erioed wedi bwriadu bod yn archeolegydd. Fy ngradd gyntaf oedd Bioleg.

Mentrais i fyd archeoleg trwy wneud, yn hytrach na meddwl, ar ôl gweithio ar gloddiad fel myfyriwr un haf. Gallaf gofio o hyd pa mor anhygoel oedd meddwl bod adeiladau, offer, llestri a phobl wedi eu claddu dan ein troed.

Roedd cloddio'n hwyl dros ben; gweithio gyda phobl wych, darganfod y gorffennol, y teimlad o gyffro wrth ddod o hyd i bethau, ac yna ceisio darganfod beth oeddent. Ar ôl hynny datblygais fy ngyrfa ym myd archeoleg, ac yn ddiweddarach, fel darlithydd mewn prifysgol. Mae'r teimlad o gyffro erioed wedi diflannu, a dyma beth hoffwn i rannu â phobl eraill.

Mae archeoleg yn hynod ddemocrataidd; mae eitemau pob dydd pobl gyffredin yr un mor werthfawr â thrysorau pobl gyfoethog. Mae'n cynnig modd o weld bywydau pobl nad ydynt yn aml yn cael eu cynnwys mewn hanes. Rydw i am weld pobl yn cymryd rhan yn y gwahanol fersiynau hyn o'r gorffennol, i brofi archeoleg drwy wneud, drwy gyfrannu a thrwy helpu i ddeall yr hyn yr ydym yn ei ddarganfod.

Mae archeoleg bob amser yn fater o ddehongli, a thrwy gynnwys y cyhoedd, rwy'n credu bod modd i ni greu stori ddynol sy'n adlewyrchu amrywiaeth y gorffennol.