Ewch i’r prif gynnwys

David Wyatt

David Wyatt

Gadewais yr ysgol yn 16 oed gyda llond llaw o gymwysterau lefel O.

Ar ôl treulio ychydig flynyddoedd mewn swyddi heb ddyfodol, fe benderfynais astudio Hanes Safon Uwch mewn coleg lleol. Ar y pryd, roedd mynd i'r brifysgol ymhell o fy meddwl. Doedd neb o fy nheulu wedi bod erioed a doedd gen i ddim dealltwriaeth o’r ffordd y gall addysg uwch drawsnewid bywydau.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe roddais y gorau i fy swydd a mynd i deithio'r byd. Ar ôl dod yn ôl, penderfynais newid gyrfa, felly fe wnes i gyflwyno cais i astudio gradd mewn hanes ac archeoleg ym Mhrifysgol Bangor. Roedd blwyddyn gyntaf fy ngradd yn agoriad llygad; roedd fel crwydro i fyd newydd - y gorffennol! Wedi hynny, roeddwn i'n gwybod mai dyma beth oeddwn i am ei wneud.

Yn fy ail flwyddyn, fe wnes i drosglwyddo i Brifysgol Caerdydd ac ennill gradd dda ym 1997. Dilynwyd hyn gydag MA mewn Astudiaethau Prydeinig Canoloesol ac yna PhD mewn ymchwilio i gaethwasiaeth ganoloesol, a drowyd yn llyfr yn ddiweddarach.

Yn 2009, ymgymerais â fy rôl bresennol fel darlithydd mewn hanes canoloesol cynnar a chydlynydd ymgysylltu cymunedol ac allgymorth. Roedd yn swydd na allwn ond wedi breuddwydio amdani 25 mlynedd ynghynt.

Rydw i'n credu bod fy llwybr gyrfa anarferol yn dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid cyfeiriad a chael addysg. Yn sicr mae wedi rhoi angerdd i mi i wneud yn siŵr bod addysg uwch ar gael i bawb yn haws.

Rhagor am Brosiect Treftadaeth CAER.

Mae gan brifysgolion botensial sylweddol i gydweithio â'r cymunedau o’u cwmpas, yn ogystal â chael budd a dysgu ganddyn nhw.

Dr David Wyatt Reader in Early Medieval History

“Mae gan brifysgolion botensial sylweddol i gydweithio â'r cymunedau o’u cwmpas, yn ogystal â chael budd a dysgu ganddyn nhw

Rydw i'n falch o weithio gyda chydweithwyr gwych a chyfrannu at brosiectau anhygoel. Mae'r rhain yn cynnwys Ymchwilio'r Gorffennol, llwybr mynediad agored i raddau ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion a ysbrydolwyd gan fy mhrofiadau i fy hun.

Rydw i hefyd yn rheoli SHARE with Schools, rhaglen allgymorth dan arweiniad myfyrwyr sy’n chwalu rhwystrau at brifysgol mewn ysgolion uwchradd mewn cymunedau lle mae'r niferoedd sy'n dod i addysg uwch yn isel iawn.

Rydw i'n gwybod o brofiad sut mae addysg uwch yn newid bywydau. Mewn tirwedd newidiol o gynghreiriau addysg uwch a ffioedd israddedigion, rhaid i ni beidio byth ag anghofio bod cenhadaeth gymdeithasol gref wedi bod gan brifysgolion erioed. Dyma'r genhadaeth sy'n gwneud i mi godi o'r gwely bob bore.

Gwylio’r ffilm animeiddiedig CAER HEDZ.