Ewch i’r prif gynnwys

Ein nod yw archwilio'r pwyntiau hanfodol mewn niwroddatblygiad sy'n nodi addasol yn erbyn taflwybrau camaddasol mewn plant.

Rydym yn rhwydwaith o ymchwilwyr amlddisgyblaethol sy'n ceisio mynd i'r afael â'r cwestiynau hanfodol ynghylch taflwybrau addasol (addasiadau cadarnhaol i sefyllfaoedd) yn erbyn taflwybrau camaddasol (addasiadau negyddol i sefyllfaoedd) yn ystod cyfnod cynnar oes dynol.

Mae ein hymchwil hefyd yn ceisio nodi'r heriau i gynnal ymchwil mewn niwroddatblygiad plant a'r glasoed ac adeiladu atebion cynaliadwy sy'n arwain at brosiectau ymchwil arloesol a chydweithrediadau hirdymor.

Mae nodau ychwanegol yn cynnwys datblygu prosiectau ymchwil gyda'n gilydd gan ddefnyddio ein harbenigedd disgyblaethol cyfunol a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol cysylltiedig ym maes iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i ystyried goblygiadau ymarferol, cyseiniant a gwerth ein gwaith.

Ein nod yw bod gwaith y rhwydwaith yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn perthynas â'n hymchwiliadau i'r prosesau cymdeithasol, seicolegol a biolegol sy'n effeithio ar niwroddatblygiad ac iechyd meddwl bywyd cynnar.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am Rwydweithiau Ymchwil eraill Prifysgol Caerdydd a sut gall y rhain gynorthwyo eich diddordeb yn y pedwar maes hyn:

  • Yr Amgylchedd a Phlastigau
  • Iechyd Planedol
  • Dinasoedd Gwydn
  • Deunyddiau

Ymchwil

Rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhwng 2022 a 2024 i drafod ein meysydd diddordeb, nodi heriau ac atebion a datblygu rhaglenni gweithgaredd ymchwil a fydd hefyd yn cyd-fynd â datblygiad gyrfa staff, addysgu ac ymgysylltu â myfyrwyr.

Prosiectau

Mae gweithgareddau blaenorol wedi cynnwys gweithdai hyfforddi ar dechnegau delweddu'r ymennydd sy'n briodol i'w defnyddio gyda phlant a phobl ifanc niwroamrywiol, seminarau, a digwyddiadau cymdeithasol anffurfiol.

Cysylltwch â ni i drafod eich syniadau ar gyfer digwyddiadau.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.