Ewch i’r prif gynnwys

Ymyriadau yn y carchar ar gyfer Troseddwyr Mwslimaidd (PRIMO)

Mae Ymyriadau yn y Carchar ar gyfer Troseddwyr Mwslimaidd (PRIMO) yn dylunio ac yn treialu strategaeth adsefydlu er mwyn gwneud y mwyaf o’r effeithiau adsefydlu mae dilyn Islam yn eu cael yn y carchar, ac i leihau risgiau dirfodol y dewis crefyddol hwnnw.

Manylion

Bydd PRIMO yn mynd i'r afael â phedwar maes sy’n allweddol yn ôl tystiolaeth - fe bennwyd ar y rhain drwy ein rhaglen ymchwil flaenorol Understanding Conversion to Islam in Prison (UCIP):

  1. Er mwyn datblygu dealltwriaeth carcharorion o grefydd mewn ffordd sy'n berthnasol i fywyd carchar ac sydd wedi'i anelu at osgoi troseddu yn y dyfodol, mae PRIMO yn dylunio a threialu cwrs Addysg Grefyddol chwe wythnos ar gyfer carcharorion.
  2. Er mwyn gwella dealltwriaeth Caplaniaid Mwslimaidd Carchardai, o garchardai, gan gynnwys eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus, mae PRIMO yn datblygu Diploma achrededig sef Caplaniaeth Mwslimaidd Carchardai.
  3. Er mwyn gwella dealltwriaeth Swyddogion Carchardai o grefydd, gan gynnwys mynd i’r afael â bylchau amlwg yn eu hyfforddiant sylfaenol i Swyddogion Carchardai, mae PRIMO yn dylunio a threialu modiwl o Hyfforddiant Lefel Mynediad Swyddogion Carchar HMPPS (POELT).
  4. Er mwyn gwella'r broses weinyddol o newid crefydd yn y carchar, ar hyn o bryd mae carcharorion yn agored i gael eu gorfodi i newid crefydd a chael eu cam-drin gan garcharorion eraill, mae PRIMO yn datblygu Cyfarwyddyd y Gwasanaeth Carchardai (PSI) addas i'r diben er mwyn i garcharorion newid ffydd yn y carchar.

Mae PRIMO yn cael ei gefnogi a'i arwain gan dîm o'r radd flaenaf o ymarferwyr cyfiawnder troseddol, ffigurau o’r gymuned Mwslimaidd, diwinyddion blaenllaw a throseddegwyr. Ariennir PRIMO yn annibynnol gan Ymddiriedolaeth Dawes.

Nod PRIMO yw sicrhau gwelliant parhaus a phrofedig yn y ffordd y mae Islam yn effeithio ar fywyd yn y carchar er lles cynaliadwy bywydau carcharorion ac ar gyfer gwybodaeth a lles gweithwyr proffesiynol ym maes cyfiawnder troseddol.

Tîm y prosiect

Project Director

Lucy Wilkinson

Lucy Wilkinson

PRIMO Project Director

Email
wilkinsonl7@caerdydd.ac.uk
Telephone
+ 44 (0) 7930 413 841

Principal Investigator

Yr Athro Matthew Wilkinson

Yr Athro Matthew Wilkinson

Professor of Religion in Public Life

Email
wilkinsonm8@caerdydd.ac.uk
Telephone
+ 44 (0) 7930 413 841