Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Imiwnoleg Niwroseiciatrig Hodge

microscope research
A scientist examines a sample in a microscope.

Mae Canolfan Imiwnoleg Niwroseiciatrig Hodge yn dod ag ymchwilwyr arbenigol ym meysydd niwrowyddoniaeth ac imiwnoleg ynghyd i ganolbwyntio ar brosesau imiwnedd anhwylderau iechyd megis clefyd Alzheimer a sgitsoffrenia.

Mae datblygiadau ymchwil cyffrous, llawer ohonynt dan arweiniad ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, wedi dangos pwysigrwydd system imiwnedd yr ymennydd o ran datblygiad cyflyrau megis clefyd Alzheimer a sgitsoffrenia. Bellach, gall y darganfyddiadau hyn roi ffyrdd newydd inni ddeall achosion yr anhwylderau hyn a braenaru’r tir i ddatblygu triniaethau newydd ar eu cyfer.

Mae astudio rôl y system imiwnedd o ran swyddogaethau'r ymennydd megis y cof ac o ran afiechydon yn faes ymchwil cyffrous ond heriol. Nod Canolfan Hodge yw:

  • hyfforddi carfan o wyddonwyr ym maes niwrowyddoniaeth ac imiwnoleg
  • creu rhagor o ymchwil draws-ddisgyblaethol fydd yn dod â niwrowyddonwyr ac imiwnolegwyr ynghyd
  • codi diddordeb ymchwilwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol yn y ffordd newydd hon o feddwl am glefydau'r ymennydd.

Mae'r Ganolfan yn dwyn ymchwilwyr ar draws meysydd gwahanol niwrowyddoniaeth ac imiwnoleg, ynghyd, mewn rhaglen gysylltiedig o hyfforddiant, ymchwil ac ymgysylltu.

Ymholiadau

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch ysgoloriaethau PhD Canolfan Hodge, prosiectau sbarduno, astudiaethau grantiau peilot a lleoliadau haf ar gyfer myfyrwyr israddedig, cysylltwch â:

Julie Cleaver

Julie Cleaver

Administrative Officer, Neurosciences & Mental Health Research Institute

Email
cleaverj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8341

Academyddion cysylltiedig

Yr Athro Jeremy Hall

Yr Athro Jeremy Hall

Director, Neurosciences & Mental Health Research Institute

Email
hallj10@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0) 29 20 688 342
Yr Athro Paul Morgan

Yr Athro Paul Morgan

Professor

Email
morganbp@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7096