Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig

29 Tachwedd 2016

Image of brain scan

Bydd buddsoddiad o £1m gan Sefydliad Hodge yn galluogi arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd i gydweithio i ymchwilio i'r rôl sydd gan system imiwnedd yr ymennydd mewn rhai o anhwylderau mwyaf cyffredin yr ymennydd, megis clefyd Alzheimer, sgitsoffrenia ac epilepsi.

Bydd y bartneriaeth bum mlynedd newydd yn sefydlu Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig ac yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ym meysydd niwrowyddoniaeth ac imiwnoleg ynghyd.

Bydd y Ganolfan yn hwyluso cydweithio rhwng Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl a'r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau ym Mhrifysgol Caerdydd, dan arweiniad eu cyfarwyddwyr, yr Athro Jeremy Hall a'r Athro Paul Morgan.

Disgwylir y bydd gwaith y Ganolfan rithwir, a fydd yn canolbwyntio ar y system imiwnedd, yn ein helpu i gael dealltwriaeth well o pam mae cyflyrau sy'n analluogi, fel clefyd Alzheimer a sgitsoffrenia, yn datblygu, a pha ffactorau sy'n achosi iddynt ddatblygu ymhellach.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Hodge am eu rhodd hael," meddai'r Athro Jeremy Hall, Athro Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd.

"Yn anffodus, ar gyfer llawer o afiechydon fel clefyd Alzheimer, nid yw'r driniaeth wedi gwella llawer yn y cyfnod diweddar ac nid oes unrhyw gyffuriau newydd, ac mae'r triniaethau sy'n bodoli yn gyfyngedig ac yn aml yn arwain at sgîl effeithiau annymunol.

"Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod newidiadau i'n system imiwnedd yn ffactor yn natblygiad anhwylderau i'r ymennydd, ond mae angen rhagor o waith i ymchwilio i hyn yn llawn..."

"Mae Prifysgol Caerdydd mewn sefyllfa unigryw i wneud hyn, oherwydd mae gennym arbenigwyr sy'n arwain y byd ym meysydd niwrowyddoniaeth ac imiwnoleg, ac maen nhw'n awyddus i gydweithio. Drwy greu'r Ganolfan newydd hon, bydd modd i ni gael dealltwriaeth well o'r ffactorau sy'n achosi'r anhwylderau, a fydd o bosibl yn arwain at ddatblygu triniaethau newydd."

Yr Athro Jeremy Hall Director, Neurosciences & Mental Health Research Institute

Mae Sefydliad Hodge yn cefnogi ymchwil feddygol, yn bennaf ym meysydd canser ac iechyd meddwl, drwy roi grantiau i brifysgolion, sefydliadau meddygol ac elusennau ymchwil.

Dywedodd Jonathan Hodge, Cadeirydd Sefydliad Hodge: "Rydyn ni fel sefydliad yn falch iawn o gefnogi'r gwaith ymchwil o'r radd flaenaf a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Rydym eisoes wedi gweld bod ein cefnogaeth wedi dwyn buddiannau pendant mewn meysydd allweddol sy'n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd.  Mae cryfderau Caerdydd ym meysydd niwrowyddoniaeth ac imiwnoleg yn golygu bod y Brifysgol mewn sefyllfa arbennig o dda i wneud cam sylweddol ymlaen yn ei dealltwriaeth o'r maes hwn, ac yn agor y posibilrwydd hynod gyffrous o greu triniaethau newydd i gleifion.

“Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o hwn.”

Bydd y rhodd o £1m gan Sefydliad Hodge yn ariannu Uwch Gymrawd a fydd yn helpu i ddenu rhai o'r ymchwilwyr ifanc gorau sydd eisoes yn gweithio ym maes imiwnoleg niwroseiciatrig i Gymru.

Bydd hefyd yn ariannu chwech PhD Sefydliad Hodge, pum astudiaeth ymchwil beilot, ac arian sbarduno ar gyfer syniadau arloesol newydd. Bydd y Ganolfan hefyd yn cynnal cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus.

Ychwanegodd yr Athro Paul Morgan, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd: "Rydym wedi tybio ers peth amser bod cysylltiad rhwng y system imiwnedd ac anhwylderau'r ymennydd, ac mae hwn yn llwybr newydd posibl at ddatblygu triniaethau ar gyfer pobl sydd mewn perygl o ddatblygu'r cyflyrau hyn.

"Mae'r Ganolfan yn ddatblygiad eithriadol o bwysig oherwydd bydd yn golygu bod gennym gyfle go iawn i sicrhau bod y system imiwnedd yn ganolog i'n dealltwriaeth..."

"Bydd dod ag arbenigwyr ym maes niwrowyddoniaeth ac imiwnoleg ynghyd yn rhoi dealltwriaeth well i ni o'r prosesau imiwnedd yn yr ymennydd fel y gallwn nid yn unig defnyddio cyffuriau sydd eisoes yn bodoli at ddiben newydd, ond hefyd, gyda lwc, dylunio cyffuriau newydd a gwell."

Yr Athro Paul Morgan Professor

Amcangyfrifir bod y prif anhwylderau iechyd meddwl, fel clefyd Alzheimer a sgitsoffrenia, yn costio economi'r DU dros £37bn y flwyddyn.

Maent yn parhau i roi baich sylweddol ar gleifion a'u perthnasau drwy amharu ar eu hansawdd bywyd a chynyddu salwch ac anableddau ffisegol. At hynny, mae'r clefydau'n arwain at golli swydd, rhagfarn ac unigedd.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.