Ewch i’r prif gynnwys

Trydedd rhan o gyfres Gweminarau Gaeaf i Fenywod yn canolbwyntio ar iechyd meddwl mamau gydag Action on Postpartum Psychosis

Y mis hwn, cynhaliodd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl y drydedd rhan o’n cyfres Gweminarau Gaeaf i Fenywod, gan ganolbwyntio ar ddeall seicosis ôl-enedigol.

Yn arwain y sesiwn hon roedd yr Athro Arianna Di Florio, ynghyd ag ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, Jessica Yang, a Chyfarwyddwr yr NCMH, yr Athro Ian Jones, yn ogystal â Dr Sally Wilson o Action on Postpartum Psychosis (APP).

Ymunodd dros hanner cant o gyfranogwyr â’r weminar i glywed gan banelwyr am y diweddaraf mewn seicosis ôl-enedigol, gan gynnwys sesiwn holi ac ateb ddiddorol.

Diffinio seicosis ôl-enedigol

Dechreuodd yr Athro Di Florio trwy roi rhywfaint o gyd-destun byr ynghylch sut y deëllir seicosis ôl-enedigol mewn termau clinigol, nad yw ar hyn o bryd wedi’i ddiffinio mewn llawlyfrau diagnostig a ddefnyddir gan seiciatryddion.

“Mae[’r diffyg eglurder] hyn yn rhwystro ymchwil yn ogystal â thriniaeth glinigol gan nad ydym yn gwybod beth yn union yr ydym yn delio ag ef.”

Yr hyn a nodwyd mewn ymchwil seicosis ôl-enedigol hyd yma yw perthynas benodol rhwng anhwylder deubegynol a genedigaeth plant.

Fodd bynnag, parhaodd yr Athro Di Florio i esbonio bod y ffiniau rhwng diagnosau mewn seiciatreg yn aml yn aneglur a bod seicosis yn symptom o sawl anhwylder seiciatrig gwahanol, nid seicosis ôl-enedigol yn unig.

“Os yw seicosis ôl-enedigol i gael ei gynnwys fel dosbarthiad ar wahân, mae angen i ni sefydlu rhywfaint o fioleg i fod yn sail iddynt felly.”
Yr Athro Arianna Di Florio Athro, Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

Er mwyn ceisio datgysylltu’r berthynas rhwng anhwylder deubegynol a seicosis ôl-enedigol, defnyddiodd yr Athro Di Florio a’i thîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd set ddata a oedd eisoes yn bodoli gan y Rhwydwaith Ymchwil Anhwylder Deubegynol (BDRN) i gynnal astudiaeth enetig sy’n cymharu seicosis ôl-enedigol mewn menywod ag anhwylder deubegynol â menywod nad oes ganddynt hanes blaenorol o salwch meddwl.

Er bod seicosis ôl-enedigol yn dal i fod yn ddigwyddiad prin yn y boblogaeth gyffredinol, gan effeithio ar lai nag 1% o fenywod, mae menywod sydd eisoes â diagnosis o anhwylder deubegynol mewn mwy o berygl o brofi seicosis ôl-enedigol, gan gyfateb i tua 20%.

Rhannodd yr Athro Di Florio fwy o ganlyniadau’r astudiaeth hon gan ddefnyddio’r set ddata fwyaf o seicosis ôl-enedigol o’r BDRN.

Gwyliwch y weminar

Gwyliwch y weminar

Mynd i’r afael â’r bylchau mewn gwybodaeth a chymorth o ran seicosis ôl-enedigol

Rhannodd Dr Sally Wilson, Cydlynydd Hyfforddiant Cenedlaethol APP, ganfyddiadau o’r amrywiol astudiaethau ymchwil a gynhaliwyd gan yr elusen yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi nodi bod angen mwy o wybodaeth ar sail tystiolaeth am seicosis ôl-enedigol a mwy o gymorth adfer.

Dywedodd Dr Wilson: “Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar ddeall profiadau seicosis ôl-enedigol a nodi’r anghenion gwybodaeth a chymorth i bobl a theuluoedd sy’n mynd trwy hyn.”

Trwy’r ymchwil hon, mae APP wedi ysgrifennu nifer o ganllawiau gwybodaeth a ddatblygwyd gyda chlinigwyr ac mae wedi datblygu canllawiau cymorth ar gyfer partneriaidneiniau a theidiau y mae seicosis ôl-enedigol wedi effeithio arnynt hefyd.

“Dywedodd traean o fenywod ei bod yn bosibl na fydden nhw yma heddiw heb gymorth APP.”
Dr Sally Wilson, APP Cydlynydd Hyfforddiant Cenedlaethol

Seicosis ôl-enedigol mewn cymunedau amrywiol

Mae APP hefyd wedi nodi rhwystrau mewn gofal hygyrch ar gyfer seicosis ôl-enedigol mewn menywod o gymunedau Du ac Asiaidd, lle nodwyd stigma a phwysau diwylliannol fel rhwystrau i ofal digonol.

Mae’r canfyddiadau hyn wedi arwain at sefydlu prosiect Allgymorth Cymunedau Amrywiol APPsy’n cynnwys grwpiau cymorth cymheiriaid ar gyfer menywod Mwslimaidd a hyfforddiant pellach i weithwyr iechyd proffesiynol.

Parhaodd Dr Wilson i rannu mwy o ganlyniadau o ymchwil APP a oedd hefyd yn tynnu sylw at fewnwelediad pellach i adferiad a gwella’r gofal a oedd yn cael ei ddarparu.

Seicosis ôl-enedigol ar draws y diwylliannau ledled y byd

Cyflwynodd Jessica Yang, Ymchwilydd yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd, ganfyddiadau consortiwm cyfranogiad y cyhoedd sy’n edrych ar seicosis ôl-enedigol yn y DU, Malawi ac India.

“Mae’r rhan fwyaf o’r hyn rydyn ni’n ei wybod am seicosis ôl-enedigol yn deillio o dystiolaeth a gasglwyd yng ngwledydd y Gorllewin, er bod seicosis ôl-enedigol yn effeithio ar fenywod ledled y byd.”

Gan weithio gyda’r Consortiwm Seicosis Ôl-enedigol Rhyngwladol, mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gweithio gyda chydweithwyr ym Malawi ac India i gynnal grwpiau trafod sy’n cynnwys pobl â phrofiad bywyd, teulu a ffrindiau, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae’r trafodaethau hyn wedi galluogi ymchwilwyr i archwilio sut mae seicosis ôl-enedigol yn cael ei ystyried a’i drin ar draws diwylliannau trwy nodi sut mae gwahanol arwyddion a labeli’n cael eu defnyddio i ddisgrifio episod.

Yng ngrŵp cynnwys y cyhoedd y DU, mae ymchwilwyr wedi sylwi ar ddryswch rhwng seicosis ôl-enedigol ac iselder ôl-enedigol, yn ogystal â phryder ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol ôl-enedigol (OCD), y gellir ei gysylltu â’r stigma uwch ynghylch yr anhwylder.

“Un o’r prif rwystrau y daethon ni ar eu traws hefyd oedd ofn y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn mynd â phlant i ffwrdd.”
Jessica Yang Research Assistant, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Rhannodd Jessica ganfyddiadau pellach o’r grŵp Prydeinig hwn, a oedd yn cynnwys cydnabyddiaeth mai proses o brofi a methu yw meddyginiaeth a bod angen trosi’r ymchwil sy’n cael ei gynnal i seicosis ôl-enedigol yn dermau clinigol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy hyfforddiant.

Agweddau trawsddiwylliannol ar seicosis ôl-enedigol

Wrth gymharu’r trafodaethau hyn gan grwpiau ym Malawi ac India, esboniodd Jessica rai elfennau tebyg, megis symptomau cyffredin seicosis ôl-enedigol ac effaith ddifrifol episod.

Fodd bynnag, roedd gwahaniaethau hefyd yn cynnwys dulliau anfeddygol o driniaeth fel defnyddio iachawyr traddodiadol a thrwy’r ysbryd yn ogystal â labeli sy’n cael eu defnyddio ond sy’n ymwneud yn fwy â symptomau yn hytrach na’r diagnosis cyfan.

Daeth Jessica i’r casgliad: “Er bod seicosis ôl-enedigol yn ymddangos mewn modd tebyg ar draws diwylliannau, y prif beth rydym wedi’i ddysgu o hyn yw bod yna ffactorau diwylliannol pwysig y mae angen eu hystyried ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.”

Cymryd rhan mewn ymchwil iechyd meddwl

Tynnwyd sylw gan Gyfarwyddwr yr NCMH, yr Athro Ian Jones, at y rôl hanfodol y mae’r cyhoedd yn ei chwarae mewn ymchwil iechyd meddwl trwy drafod yr astudiaeth Mamau ac Iechyd Meddwl yn yr NCMH.

“Mae yna lawer rydyn ni wedi’i ddysgu am seicosis ôl-enedigol eisoes trwy ymchwil, ond mae cymaint mwy y mae angen i ni ei ddarganfod o hyd.”

Amlygodd yr Athro Jones gwestiynau pellach ynghylch seicosis ôl-enedigol megis beth sy’n achosi seicosis ôl-enedigol, yn ogystal â’r therapïau gorau sy’n helpu menywod i wella.

Darganfyddwch fwy a chymryd rhan yn yr ymchwil Mamau ac Iechyd Meddwl heddiw

“Yn bwysicaf oll, ni fyddem yn gallu parhau â’n hymchwil heb gymorth amhrisiadwy menywod sydd â phrofiad bywyd o seicosis ôl-enedigol.”
Yr Athro Ian Jones Director, National Centre for Mental Health