Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Iechyd Meddwl Atgenhedlol

Rydym yn rhaglen ymchwil newydd sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl atgenhedlol.

Ein cenhadaeth yw deall yn well sut mae digwyddiadau atgenhedlol fel beichiogrwydd,y cylch mislif a heneiddio atgenhedlol yn effeithio ar iechyd meddwl.

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar wella diagnosis ac atal, a dod o hyd i driniaethau newydd ar gyfer afiechydon meddwl atgenhedlol.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu gydag amrywiaeth o brosiectau ymchwil. Darganfyddwch sut y gallwch gymryd rhan heddiw.