Ewch i’r prif gynnwys

Clinig

Woman talking to another woman at a table

Trwy Wasanaethau Seiciatreg Prifysgol Caerdydd (CUPS) rydym yn cynnig ail farn ar risg, diagnosis a rheolaeth anhwylderau seiciatrig difrifol sy'n gysylltiedig â digwyddiadau atgenhedlu menywod, megis y cylch mislif, beichiogrwydd, perimenopos a therapi hormonau.

Rydym hefyd yn darparu ail farn sy'n ystyriol o rywedd ar ddiagnosis a rheolaeth anhwylder deubegynol mewn menywod.

Mae GSPC yn wasanaeth clinigol cyfeirio yn unig sy'n defnyddio'r arbenigedd clinigol sy'n arwain y byd yn y brifysgol. Darperir y gwasanaeth hwn ar y cyd drwy Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Cysylltu â'n gwasanaethau

Dim ond atgyfeiriadau gan dimau iechyd meddwl sy'n ymwneud â gofal parhaus y person sy'n cael ei atgyfeirio y gallwn ei dderbyn. Nodwch nad ydym yn gallu derbyn hunanatgyfeiriadau.

Os hoffech gael ail farn gan y CUPS, yna bydd angen i chi drafod hyn gyda'ch tîm clinigol.

Rhaid cyfeirio atgyfeiriadau at un o'n clinigwyr unigol a restrir isod.

Ein clinigwyr

Gallwch ddarllen mwy am ein staff academaidd clinigol a'r meysydd lle rydym yn cynnig ail farn.

Mae Ian yn Athro Seiciatreg yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymwneud ag anhwylderau sbectrwm deubegynol ac yn arbennig y berthynas rhwng anhwylderau hwyliau a genedigaeth.

Mae ei ddiddordeb clinigol yn y broses o nodi a rheoli menywod sydd mewn perygl mawr o episodau ôl-partum difrifol.

Mae Arianna Di Florio yn uwch ddarlithydd clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn seiciatrydd ymgynghorol anrhydeddus ym Mhwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae ei hymchwil yn astudio pam mae rhai menywod mewn mwy o berygl nag eraill o ddatblygu anhwylderau seiciatrig sy’n gysylltiedig â newidiadau mewn hormonau rhyw. Nod cyffredinol ei hymchwil yw gwella’r dull presennol o ymdrin ag iechyd meddwl menywod.

Yn glinigol, mae’n rhoi ail farn ledled y DU ar risg, diagnosis a rheolaeth anhwylderau seiciatrig difrifol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau atgenhedlol fel y cylch mislif, genedigaeth a phontio i’r mislif. Yn fwy cyffredinol, mae’n darparu ail farn sy’n sensitif i ryw ar ddiagnosis a rheolaeth anhwylder deubegynol mewn menywod.

Mae Marisa Casanova Dias yn seiciatrydd academaidd clinigol yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd a seiciatrydd ymgynghorol anrhydeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Mae ei diddordeb ymchwil mewn anhwylder deubegynol yn y cyfnod amenedigol.

Yn glinigol, mae'n rhoi ail farn ledled y DU ar ddiagnosis, a rheoli salwch meddwl difrifol, gan gynnwys cyngor cyn beichiogi.

Cysylltu â ni

Anfonwch atgyfeiriadau at:

CUPS
Cydlynydd Clinig
Adeilad Hadyn Ellis
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i'r gwasanaeth, ewch i'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl neu e-bostiwch psychmedCUPS@cardiff.ac.uk