Ewch i’r prif gynnwys

Melanie Bowden

Mel Bowden

Rwy’n gweithio fel Dadansoddwr Ymchwil Weithrediadol ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ar ôl gorffen fy ngradd israddedig a’m PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, ymgymerais â dwy flynedd o ymchwil ôl-ddoethurol dramor cyn gwneud cais i Wasanaeth Ymchwil Weithrediadol y Llywodraeth (GORS).

Gyrfa ym maes ymchwil weithrediadol

Mae ymchwil weithrediadol yn golygu cymhwyso technegau mathemategol i broblemau busnes, ac fe’i defnyddir yn helaeth ar draws y llywodraeth i gefnogi’r broses o lunio polisïau a strategaethau. Mae GORS yn recriwtio graddedigion o unrhyw radd sy’n cynnwys elfen datrys problemau neu fathemategol gref.

Mae eithaf tipyn o gystadleuaeth am leoedd ac mae gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr llwyddiannus radd Meistr neu PhD neu o leiaf flwyddyn o brofiad gwaith perthnasol. Argymhellaf y dylai unrhyw un sydd â gradd Baglor yn unig a dim profiad gwaith perthnasol ystyried cael cyllid i wneud MSc mewn Ymchwil Weithrediadol cyn gwneud cais.

Rhoi sgiliau ar waith

Roedd fy swydd gyntaf gyda’r Adran Iechyd, lle y creais fodel cyfrifiadurol gan ddefnyddio VBA (Visual Basic for Applications) i ystyried effeithiau newid strwythur graddfa gyflog y GIG. Ar ôl 18 mis, symudais i’r Adran Gwaith a Phensiynau lle’r wyf yn gweithio ar ddiwygio pensiwn y wladwriaeth.

Mae fy rôl bresennol yn defnyddio model cyfrifiadurol soffistigedig a grëwyd gan ddefnyddio iaith raglennu ystadegol (SAS) i ystyried effaith polisïau i newid system pensiwn y wladwriaeth. Roedd prosiect diweddar yn edrych ar effaith cynyddu oedran pensiwn y wladwriaeth i 66.

Roedd fy ngradd o Brifysgol Caerdydd nid yn unig wedi sicrhau fy mod yn cyflawni’r gofynion mynediad a oedd yn angenrheidiol i fynd trwy’r broses recriwtio graddedigion, ond hefyd wedi rhoi’r sgiliau dadansoddi a strwythuro problemau i mi yr wyf yn eu defnyddio o ddydd i ddydd.  Mae rhan bwysig o’m gwaith yn golygu troi problemau anhrefnus a distrwythur yn broblemau dadansoddol y gellir eu datrys gan ddefnyddio modelu ac efelychu cyfrifiadurol, sef sgìl a oedd yn rhan o lawer o’r modiwlau a gymerais pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig.

Gwelais hefyd, ar ôl astudio Perthnasedd Cyffredinol a Mecaneg Cwantwm, fod y rheolau cynllun pensiwn mwyaf cymhleth, hyd yn oed, yn ymddangos yn rhwydd eu deall o gymharu. Yn ogystal, ni chefais drafferth ymgyfarwyddo â’r ieithoedd rhaglennu a ddefnyddir yn y Llywodraeth ar ôl dysgu nifer o wahanol ieithoedd yn ystod fy ngradd.