Ewch i’r prif gynnwys

Paul Hegarty

Paul Hegarty

Ar hyn o bryd, rwyf yn Rheolwr Prosiectau i Telecom Seland Newydd ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

Rwyf yn rheoli'r gwaith o ddylunio, adeiladu a gweithredu systemau TG ar gyfer seilwaith busnes mewnol a Datrysiadau TG sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Ni fyddwn wedi bod yn gymwys ar gyfer y rôl hon fel arfer, gan fod y rhan fwyaf o gwmnïau yn gofyn am Reolwyr Prosiectau sy'n meddu ar gymhwyster Prince II, pe na byddwn wedi cwblhau fy ngradd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Deall systemau a datrys problemau

Mae hon yn rôl heriol a gwnaeth fy ngradd fy mharatoi ar gyfer cyflawni gwaith cymhleth o’r fath. Er mwyn bod yn Rheolwr Prosiectau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mae angen i chi allu edrych ar ddatrysiad ar lefel uchel ac yn aml ar lefel fanwl iawn. Gwnaeth y modiwlau Rhaglennu Cyfrifiadurol ac electroneg yn ystod fy ngradd fy nghaniatáu i feithrin dealltwriaeth o systemau a'u rhyngweithiadau.

Ochr yn ochr â hyn, roedd y sgiliau datrys problemau a ddysgwyd yn ystod y radd yn amhrisiadwy: mae gallu mynd i'r afael â phroblem, pan fydd yn codi, mewn modd rhesymegol yn hanfodol, a'i datrys yn llwyddiannus.

Mathemateg gymhwysol a sgiliau pobl

Rhaid i reolwyr Prosiectau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu hefyd reoli'r cyllid ar gyfer y prosiectau ac adrodd i'r busnes yn rheolaidd. Er nad oedd cyfrifeg yn rhan o fy ngradd, fe wnaeth fy nealltwriaeth ddatblygedig a chadarn o fathemateg ochr yn ochr â rhywfaint o ddysgu ôl-raddedig fy ngalluogi i gyflawni'r agwedd hon ar y rôl hefyd.

Roedd y sgiliau pobl a'r gweithgareddau tîm yn y brifysgol yn werthfawr iawn ar gyfer bywyd a'r rôl hon, ac rwyf wedi gallu mynd o reoli un neu ddau aelod o staff i reoli tîm o hyd at 50 o bobl, gan gynnwys Penseiri Datrysiadau, dylunwyr, cwmnïau trydydd parti, timau profi a chynrychiolwyr busnes.