Ewch i’r prif gynnwys

Emily Baird

Emily Baird

Ar ôl graddio, enillais i le ar gynllun hyfforddiant gyda Magnox, cwmni datgomisiynu niwclear.

Yn Atomfa’r Wylfa (Ynys Môn) fuodd fy lleoliad cyntaf, lle ces i brofi toriad cyflenwad. Ceir digwyddiadau pan fydd atomfa yn diffodd adweithydd ar gyfer gwaith cadw a chynnal hanfodol. Adeg brysur a chyffrous yw hon gan fod llawer o waith a sawl cant o bobl ar y Safle.

Yna, mudais i i Hinkley Point A (Gwlad yr Haf), lle gweithiais i ar sawl prosiect datgomisiynu ar draws y Safle. Roedd y rhain yn cynnwys rhoi cyngor am ddiogelwch rhag ymbelydredd ar gyfer archwiliadau sifil, gweithgareddau dadlygru a dadblannu.

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar Safle Trawsfynydd (Eryri), lle rwy’n gweithio tuag at gwblhau fy mhortffolio ar gyfer fy nghyfweliad terfynol i ddod yn Ffisegydd Iechyd Achrededig.

Teilwra llwybr eich gyrfa

Rydw i wir wedi mwynhau fy amser gyda Magnox; rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl yn y diwydiant, ac rwyf wedi teithio drwy ran helaeth y wlad yn ystod fy amser yma. Rwy’n hoffi hyblygrwydd y cynllun, ac rwy’n gallu casglu a dewis pa gyfleoedd rwy’n ymgymryd â nhw, y gallaf eu teilwra at lwybr fy ngyrfa fy hun.

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n dechrau yn y diwydiant niwclear, yw ymgymryd â phopeth a gynigir i chi. A rhwydweithiwch, rhwydweithiwch, rhwydweithiwch!