Ewch i’r prif gynnwys

Ymateb i ddefnyddwyr yn effeithlon (ECR - ail brosiect)

ECR

Mae'r Athro Aris Syntetos wedi derbyn cyllid ymchwil ar gyfer y prosiect 'Defnyddio dysgu peirianyddol i reoli gwallau mewn cofnodion stocrestri'.

Mae'r prosiect yn mynd i'r afael â'r anghysondeb rhwng yr hyn yr ydym yn meddwl sydd gennym mewn stoc (yn seiliedig ar ein system gyfrifiadurol) a'r hyn sydd gennym mewn gwirionedd mewn stoc. Mae hyn yn cyfateb i broblem o bwys pan fydd yn cael ei luosi yn achos miloedd o gynnyrch sy'n cael eu storio mewn lleoedd manwerthu fel arfer.

Prifysgol Caerdydd, EM-Lyon (yr Athro Yacine Rekik) a TU Darmstadt (yr Athro Christoph Glock) fydd yn rhoi’r prosiect, a ariennir gan Ymateb i ddefnyddwyr yn effeithiol (ECR), ar waith ar y cyd. Bydd yn edrych ar sut y gall dysgu peirianyddol helpu i wneud penderfyniadau rheoli mwy cadarn o ran stocrestri yng nghyd-destun cofnodion stoc gwallus. Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni yn sgîl cyfranogiad naw o fanwerthwyr mwyaf Ewrop.

Yn un o brosiectau blaenorol ECR, canfu Aris, Yacine a Christoph fod hyd at 60% o gofnodion stocrestri yn wallus, a phan fydd cofnodion y stocrestri yn cael eu cywiro mae modd cynyddu’r gwerthiant 4% i 8%. Gallwch chi ddarllen mwy am y prosiect ar wefan ECR, a thudalennau gwe Sefydliad PARC.