Ymchwil
Rhoddwn bwyslais cytbwys ar gynaliadwyedd ariannol, amgylcheddol, a chymdeithasol, ac fe adlewyrchir hyn yn ein hymchwil.
Rydym yn adeiladu arbenigedd craidd ym meysydd: rhagweld cadwyn gyflenwi, rheoli eiddo, gwyddorau trafnidiaeth, modelu cadwyni cyflenwi, modelu busnesau logisteg, ac economeg gludiant er mwyn gwthio gwybodaeth yn ei mewn meysydd sy’n cynnwys:
- yr economi gylchol a chadwyni cyflenwi dolen gaeedig: rhagweld ac optimeiddio eiddo/cynhyrchu
- effeithiau atebion gweithgynhyrchu ychwanegol (argraffu 3D) ar wneud penderfyniadau cadwyn gyflenwi
- gweithgynhyrchu gwasgaredig a’i oblygiadau i fodelu busnes
- cyflawni’r filltir olaf a’i oblygiadau i optimeiddio cludiant/tradnidiaeth.
Mae'r Ganolfan hefyd ar hyn o bryd yn lletyo swyddfa olygyddol Cyfnodolyn Rheoli Mathemateg yr IMA, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen (OUP).
Cenhadaeth y cyfnodolyn chwarterol hwn yw cyhoeddi ymchwil fathemategol, neu yn fwy cyffredinol, ymchwil feintiol o’r ansawdd, effaith a pherthnasedd uchaf y gellir ei defnyddio’r uniongyrchol, neu sydd â photensial amlwg i’w ddefnyddio gan reolwyr er elw, nid er elw, trydydd parti a sefydliadau llywodraethol/cyhoeddus i wella eu harferion.
CAMSAC
Mae Sefydliad PARC yn cael ei redeg mewn cydweithrediad agos â Chanolfan Systemau Gweithgynhyrchu Uwch Caerdydd (CAMSAC).