Ewch i’r prif gynnwys

Llofnodi i sicrhau clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cynta'r byd

11 Medi 2017

Compound semiconductor product

Mae Bargen Prifddinas Ranbarth Caerdydd, Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cadarnhau datblygu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd (LDC) yn ne ddwyrain Cymru.

Mae'r seremoni ym mhencadlys IQE plc yng Nghaerdydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu ffowndri yng Nghasnewydd, gyda chefnogaeth Prifysgol Caerdydd.

Llofnodwyd y cytundeb yn ffurfiol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith Cymru, Ken Skates, cyfarwyddwyr Ffowndri LDC Bob Greenland (Sir Fynwy) ac Andrew Barry (Merthyr) a phrif weithredwr IQE Dr Drew Nelson.

Wrth groesawu'r cytundeb, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae Prifysgol Caerdydd yn gwbl gefnogol i weledigaeth Ffowndri LDC a Dinas Ranbarth Caerdydd i greu Ffowndri a all ysgogi ffyniant. Mae'r clwstwr LDC ehangach yn cynnwys cwmnïau yn y 10 awdurdod lleol ar draws Dinas Ranbarth Caerdydd, ac mae iddo'r gallu i greu swyddi a chyflogau uchel ar draws y rhanbarth cyfan."

Roedd y seremoni'n dilyn cytundeb ym mis Mai gan Gabinet Rhanbarthol Dinas Ranbarth Caerdydd i gyfrannu £37.9m o Gronfa Buddsoddi Ehangach y Ddinas Ranbarth i sefydlu Ffowndri LDC, gyda'r potensial i godi £375m o fuddsoddiad o'r sector preifat a chreu hyd at 2,000 o swyddi sgiliau uchel.

"Mae gan y Brifysgol ddiddordeb mawr yn llwyddiant y clwstwr LDC yn y dyfodol drwy ein Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a gyllidir gan Lywodraethau Cymru a'r DU, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy'n fenter ar y cyd gyda IQE - a Chanolbwynt Cynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol, a gyllidir gan EPSRC."

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Y Ffowndri LDC yw'r buddsoddiad mawr cyntaf ers i arweinwyr y deg awdurdod lleol lofnodi rhaglen Bargen Dinas Ranbarth Caerdydd werth £1.2bn ym mis Mawrth.

Bydd y cyfleuster yng Nghasnewydd yn eiddo i'r 10 Cyngor yn y Cabinet Rhanbarthol dan y cyfrwng diben arbennig ‘CSC Foundry Limited’ / ‘LDC Ffowndri’ a chaiff y gofod ei brydlesu i IQE plc ar gyfer cynhyrchu a datblygu cymwysiadau LDC.

Yn 2016 cyhoeddodd Innovate UK – asiantaeth arloesedd Llywodraeth y DU – fuddsoddiad gwerth £50m i sefydlu Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne ddwyrain Cymru. Bydd y Catapwlt newydd hwn yn adeiladu ar fuddsoddiad gan Brifysgol Caerdydd, IQE, a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns: "Mae'r cadarnhad hwn heddiw i ddatblygu clwstwr o ragoriaeth yng Nghymru'n atgyfnerthu ein sefyllfa gref ein hunain yn nhwf y dechnoleg bwysig hon sy'n cynyddu. Nid y Llywodraeth sy'n creu arloesedd, ond gall fod yn gatalydd i gael gwyddonwyr a pheirianwyr, dylunwyr ac entrepreneuriaid at ei gilydd i wneud i'r peth ddigwydd.

"Mae'r cydweithio hwn yn bwysig oherwydd ymdrech ar y cyd yw arloesi ac rwyf i'n edrych ymlaen at weld y clwstwr yn ymffurfio ac yn creu gwaddol parhaol ar gyfer peirianneg a gweithgynhyrchu yng Nghymru."

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: "Mae'n galonogol dros ben bod buddsoddiad cychwynnol Llywodraeth Cymru o £12m ar gyfer datblygu'r clwstwr yn ôl yn 2015 wedi bod yn gatalydd ar gyfer y cyhoeddiad hwn heddiw bod IQE yn bwriadu ehangu i gyfleusterau newydd y Fargen Ddinesig..."

"Nid yn unig mae hwn yn newyddion hynod o gyffrous i economi Cymru, sy'n sicrhau swyddi a buddsoddiad ychwanegol, ond mae hefyd yn cadarnhau Cymru fel arweinydd byd yn y dechnoleg hon sydd o'r radd flaenaf."

Ken Skates AC Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Llywodraeth Cymru

Dywedodd Dr Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE plc: "Mae'r fenter yn enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio. Mae Llywodraethau Cymru a'r DU, ynghyd â'r deg cyngor sy'n ffurfio Rhanbarth Dinas Caerdydd, wedi cydweithio’n agos gyda sefydliadau academaidd a diwydiant i adeiladu seilwaith arloesi fydd yn cefnogi ac yn meithrin y rhanbarth fel chwaraewr gwirioneddol fyd-eang mewn technolegau newydd sy'n dod i'r amlwg.

"Bydd y cyfleuster yn ganolfan ar gyfer nifer o weithgareddau yn gysylltiedig â lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan gynnwys IQE, ac rydym ni'n disgwyl ehangu ein gallu i gynhyrchu i gwrdd â'r galw cynyddol am ein technoleg."