Ewch i’r prif gynnwys

£50m ar gyfer Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd

8 Ionawr 2016

George Osbourne looking through a microscope
George Osbourne

Canghellor George Osborne yn cyhoeddi hwb ariannol mawr

Bydd Prifysgol Caerdydd a chwmni IQE o Gaerdydd, sy'n arbenigo mewn Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS), yn arwain Catapwlt cenedlaethol newydd gwerth £50m y DU. Ei nod fydd datblygu ac adeiladu technolegau CS y genhedlaeth nesaf.    

Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad o £50m ar ôl ymweld â Phrifysgol Caerdydd, dywedodd y Canghellor George Osborne y bydd y buddsoddiad yn creu canolfan ragoriaeth newydd ym maes CS yn ne Cymru yn rhan o rwydwaith y DU o Gatapyltiau Ymchwil a Datblygu.

Mewn araith i arweinwyr busnes Caerdydd, dywedodd y Canghellor George Osborne: "Mae Cymru yn wlad arloesol. Bydd canolfan genedlaethol y DU yn ne Cymru yn datblygu lled-ddargludyddion cyfansawdd sydd wrth wraidd technoleg fodern. Bydd yn dod â gwyddonwyr a busnesau sydd ag arbenigedd ynghyd. Bydd yn creu swyddi ac yn denu buddsoddiad."

Mae IQE a Phrifysgol Caerdydd eisoes wedi sefydlu'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd fydd yn ganolbwynt ar gyfer y Catapwlt newydd. Bydd y bartneriaeth yn helpu i drawsnewid ymchwil flaengar i dechnolegau a chynhyrchion yr 21ain ganrif yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd newydd Prifysgol Caerdydd (ICS). Caiff y sefydliad ei adeiladu ar Gampws Arloesedd newydd y Brifysgol a gostiodd £300m.

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae'r cyhoeddiad yn newyddion ardderchog ar gyfer arloesedd, diwydiant a menter yn ne Cymru a thu hwnt. Mae'n cynnig cyfle euraidd i Brifysgol Caerdydd ac IQE sefydlu'r clwstwr cyntaf o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ewrop a chreu canolbwynt o'r radd flaenaf i ddatblygu a masnacheiddio technolegau'r genhedlaeth nesaf."

Yn ôl Dr Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE: "Mae lansio'r catapwlt £50m yn newyddion gwych ar gyfer gweithgynhyrchu lefel uchel yng Nghymru yn ogystal ag economi Cymru. Mae'r buddsoddiad hwn yn gyfle ardderchog i lansio'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gyntaf o'i math yn Ewrop. Mewn modd diffwdan, bydd yn troi ymchwil academaidd ragorol yn broses weithgynhyrchu ar raddfa fawr ac yn cynnig llwyfan fyd-eang ar gyfer Cymru a'r DU ym meysydd diwydiant a gweithgynhyrchu."

Croesawodd Edwina Hart, Gweinidog Economi a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, y buddsoddiad o £50m.

"Lled-ddargludyddion cyfansawdd yw'r dechnoleg hanfodol ar gyfer y dyfodol. Mae'n gyrru datblygiadau ar draws technolegau, gan gynnwys ffonau clyfar, ynni solar, gofal iechyd a thrafnidiaeth. Bydd yr arian yn helpu i greu clwstwr diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd ar raddfa Ewropeaidd yn ne Cymru fydd yn gallu cyrraedd bob cwr o'r byd. Mae hyn oll yn dangos hyder amlwg ym mhrifysgolion Cymru, ei busnesau lled-ddargludyddion a'r sylfaen sgiliau."

Trafodaethau dros gyfnod o ddwy flynedd rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, Innovate UK, IQE a'r sector lled-ddargludyddion yn ne Cymru a Phrifysgol Caerdydd, sydd i'w cyfrif am sefydlu'r Catapwlt.

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n rhoi £12m i helpu'r broses o adeiladu, gosod, a phrynu offer cyfalaf ar gyfer Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd. Mae Cronfa Buddsoddi mewn Partneriaethau Cyngor Ymchwil y DU wedi buddsoddi £17.3m i gefnogi'r sefydliad.

Y llynedd, cafodd un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes technolegau CS, yr Athro Diana Huffaker, ei phenodi i arwain labordy ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd drwy raglen Sêr Cymru £50m Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon