Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn mynd o nerth i nerth

6 Medi 2017

Cabinet Ministers at ICS

Mae'r Prif Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet, y Gwir Anrhydeddus Damian Green AS, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, wedi ymweld â Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd.

Wrth ymweld ag adweithyddion epitacsi pelydr moleciwlaidd newydd y Sefydliad, clywodd gweinidogion y Cabinet sut bydd y cyfleusterau newydd yn hwyluso datblygiad clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru.

Bydd lled-ddargludyddion cyfansawdd, sy'n perfformio 100 gwaith yn gyflymach na silicon, yn arwain at ddatblygiadau technolegol mwyaf y ganrif hon. Bydd y Sefydliad yn cefnogi'r datblygiadau hyn drwy droi ei ddarganfyddiadau newydd ym maes ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd yn gynhyrchion newydd.

Bydd ei gyfarwyddwr, yr Athro Diana Huffaker, a'i thîm ymchwil Sêr Cymru, yn defnyddio'r adweithyddion i archwilio ffyrdd newydd o dyfu crisialau lled-ddargludyddion cyfansawdd â phurdeb uchel.

Gan weithredu dan amgylchiadau gwactod uchel dros ben, mae'r adweithyddion yn galluogi ymchwilwyr i dyfu strwythurau crisial aml-haen cymhleth, a hynny un haen atomig ar y tro. Gellir dylunio un strwythur penodol, a elwir nanogolofn, i wella perfformiad synwyryddion ac allyrwyr golau, megis synwyryddion isgoch, laserau a deuodau allyrru golau.

Y peiriannau epitacsi yw'r pwynt dechrau ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes diwydiant. Byddant yn cynhyrchu'r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer dyfeisiau newydd fydd yn cael eu harchwilio mewn ystafell lân y Sefydliad.

Bydd yr ystafell lân yn cynnig galluoedd cynhyrchu a nodweddu o'r radd flaenaf i'r clwstwr rhanbarthol, ac yn prosesu'r wafferi ansawdd-uchel sydd eu hangen i dreialu cynhyrchion y dyfodol. Bydd hefyd yn cynnal ymchwil sy'n berthnasol o safbwynt masnachol, ac yn agor ei ddrysau i ddefnyddwyr diwydiannol ar gyfer cydweithio uniongyrchol a gwasanaethau.

Dywedodd yr Athro Huffaker: "Bydd yr adweithyddion yn ein galluogi i weithio o'r lefel atomig i fyny, a threialu'r deunyddiau a strwythurau newydd sy'n gallu chwyldroi'r diwydiant technoleg..."

"Wrth gyfuno'r cyfleusterau newydd hyn, rydych chi'n cael teimlad o'r llwybr y mae'r Sefydliad yn ei ddilyn: byddwn yn cymryd darganfyddiadau'r ymchwil ac yn eu defnyddio yn yr ystafell lân ddiwydiannol, gan symud gwybodaeth o'r labordy i'r gymdeithas."

Ychwanegodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae Prifysgol Caerdydd yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan Lywodraethau'r DU a Chymru wrth i ni feithrin partneriaethau â byd diwydiant a helpu i greu'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf yma yng Nghymru. Mae angen y prosiectau arloesol hyn ar raddfa fawr er mwyn sbarduno twf economaidd, a'r ffordd orau o gyflawni hyn yw'r math hwn o gydweithio agos rhwng y byd academaidd, byd busnes a'r llywodraeth."

Mae'r cyfarpar a'r cyfleusterau wedi eu cefnogi drwy fenter Sêr Cymru Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhoi £17.3m a £12m, yn y drefn honno, ar gyfer buddsoddiad pellach, gan gynnwys symud y Sefydliad i Gampws Arloesedd £300m y Brifysgol.