Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn croesawu cytundeb gwerth £38m ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

8 Mai 2017

Mae bron £38m yn cael ei fuddsoddi mewn technolegau Ffowndri ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Buddsoddir yr arian gan y deg cyngor sy'n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn croesawu penderfyniad yr awdurdodau lleol i gefnogi datblygiad clwstwr o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne-ddwyrain Cymru.

Dyma'r buddsoddiad cyntaf ers i'r Fargen Ddinesig gwerth £1.2 biliwn, gael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan y deg awdurdod lleol ym mis Mawrth.

Bydd yr arian yn helpu i greu cyfleuster modern o'r radd flaenaf ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer datblygu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a'u defnyddio wrth wneud gwaith gweithgynhyrchu mawr. Bydd hyn yn creu'r clwstwr cyntaf o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne-ddwyrain Cymru.

Bydd y Ffowndri'n eiddo i'r deg cyngor, ond byddant yn prydlesu mannau i gwmnïau gweithgynhyrchu, datblygu a defnyddio Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae'r trafodaethau ynghylch lleoliad y safle yn parhau. Mae disgwyl i'r prosiect ddenu hyd at £365m o fuddsoddiad gan y sector preifat dros y pum mlynedd nesaf.

"Canolbwynt o'r radd flaenaf"

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wrth wraidd ein bywydau bob dydd, a gellir eu gweld mewn pethau rydym yn eu defnyddio bob dydd o ffonau, llechi, cyfathrebu dros loeren a thechnolegau laser."

"Mewn partneriaeth ag IQE, mae'r Brifysgol wedi buddsoddi miliynau, ac mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion ardderchog i arloesedd, diwydiant a menter yn ne Cymru a thu hwnt."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

"Mae'n cynnig cyfle euraidd i sefydlu'r clwstwr cyntaf o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ewrop a chreu canolbwynt o'r radd flaenaf i ddatblygu a masnacheiddio technolegau'r genhedlaeth nesaf."

Nod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw sefydlu'r rhanbarth fel arweinydd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ewrop. Yn 2016 cyhoeddodd Innovate UK – asiantaeth arloesedd Llywodraeth y DU – fuddsoddiad gwerth £50m i sefydlu Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymru. Mae'n adeiladu ar arbenigedd sy'n bodoli eisoes a buddsoddiad gan Brifysgol Caerdydd, IQE PLC, a Llywodraeth Cymru.

Cadwyn gyflenwi De Cymru

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a Chadeirydd Cabinet Rhanbarthol y Fargen Ddinesig: "Nod yr ymrwymiadau hyn yw creu eco-system Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne Cymru, er mwyn manteisio ar amlygrwydd cynyddol technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. I wneud hyn, mae angen datblygu ac integreiddio Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne Cymru, a nodi'r manteision economaidd a chymdeithasol a ddaw o hyn."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy (y Cyngor sy'n arwain y prosiect), a'r Canghellor Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sy'n cyd-arwain portffolio busnes ac arloesedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Mae clystyrau o Led-ddargludyddion Cyfansawdd ar draws Ewrop, o gwmpas Eindhoven, Dresden, Leuven a Grenoble. Fodd bynnag mae'r rhain yn seiliedig ar dechnolegau silicon, felly mae hwn yn gyfle unigryw i Gymru sefydlu'r clwstwr cyntaf o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn y byd."

Dywedodd Dr Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE plc: "Gwych o beth yw gweld arweinwyr cynghorau sydd â'r weledigaeth i fuddsoddi fel hyn."

"Mae gan IQE bresenoldeb cryf yma eisoes, ac rydym am fuddsoddi er mwyn adeiladu'r adnoddau cynhyrchu yn sylweddol fel rhan o'r cytundeb dros y pum mlynedd nesaf. Bydd ein buddsoddiad yn sicrhau bod gwreiddiau cam nesaf ein cynnydd yn gadarn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd."

Dr Drew Nelson Prif Swyddog Gweithredol, IQE plc

Dywedodd Kevin Crofton, Cadeirydd Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd: "Pleser o'r mwyaf yw bod yn gysylltiedig â menter mor fentrus. Anaml iawn y mae'r cyfle'n codi i fod yn rhan o rywbeth sy'n cael ei adnabod yn rhyngwladol; ac rydym yn teimlo bod y prosiect hwn yn gwneud hyn."

Gyda lwc, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn gynnar yn haf 2017.

Find out more about the Institute for Compound Semiconductors.