Ewch i’r prif gynnwys

Clwstwr ar agor ar gyfer busnes

3 Gorffennaf 2017

CS wafer

Cyflwynir enw brand newydd clwstwr lled-ddargludyddion cyntaf y byd ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon.

Mae CS Connected yn uno busnesau rhyngwladol, llunwyr polisïau ac academyddion sy’n creu technoleg y genhedlaeth newydd fydd yn gallu rhoi Cymru ar flaen y gad.

Mae’r digwyddiad yn dod ag elfennau creiddiol y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd ynghyd mewn modd unigryw o dan faner newydd CS Connected.

Galluogi datblygiadau pwysicaf y ganrif hon

Mae technoleg silicon wedi bod yn rym amlwg yn ein cymdeithas wybodaeth heddiw, ond yn amlach fyth, mae galwadau am well perfformiad yn dibynnu ar dechnolegau uwch ar ffurf lled-ddargludyddion cyfansawdd, sy’n cynnig cyflymder peth ganwaith yn gynt, ynghyd ag ystod eang o alluoedd ffotonig.

Lleolir pencadlys gwneuthurwr wafferi lled-ddargludyddion mwyaf blaenllaw y byd, IQW plc, yng Nghaerdydd. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â’u cadwyn gyflenwi, y Brifysgol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i bontio’r bwlch rhwng Ymchwil a Datblygu, a realiti masnachol.

Mae buddsoddiadau economaidd sylweddol yn cefnogi nifer o fentrau sy'n gallu trosi ymchwil ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd yn gynnyrch ac yn wasanaethau masnachol yn gyflym ac yn effeithiol.

Gyda'i gilydd, mae'r grwpiau hyn yn sicrhau bod Cymru’n gartref i’r clwstwr cyntaf o led-ddargludyddion cyfansawdd yn y byd, a all greu hyd at 5,000 o swyddi gwerth uchel.

Cydweithio effeithiol

Mae clwstwr yn gasgliad o fusnesau sefydledig, busnesau newydd, entrepreneuriaid a sefydliadau academaidd sy’n cydweithio mewn sector neu ranbarth penodol. Maent yn annog arloesedd drwy gydweithio hyblyg ac effeithiol.

Mae’r Brifysgol yn cynnal cynrychiolwyr arbenigedd lled-ddargludyddion cyfansawdd y rhanbarth er mwyn dangos i fusnesau ac academyddion beth sydd gan CS Connected i’w gynnig, a sut y gall gwahanol rannau’r clwstwr gefnogi arloesedd, o ymchwil sylfaenol i fàs-gynhyrchu.

Mae'r siaradwyr yn cynnwys:

  • Dr Drew Nelson, Prif Swyddog Gweithredol IQE plc
  • Yr Athro Diana Huffaker, Cyfarwyddwr. Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
  • Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr, Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyf
  • Yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr, Hwb Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC
  • Dr Andy Sellars, Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Diddordeb rhyngwladol

Cyn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Huffaker: “Mae gan bopeth a wnawn yn y sefydliad nod masnachol. Bwriedir mynd ati i gyflwyno ein hymchwil i led-ddargludyddion cyfansawdd i’r amgylchedd cynhyrchu, ac rydym yn ceisio cydweithio’n fwy uniongyrchol o fewn y diwydiant trwy ddatblygu cynnyrch a phrototeipio.

“Mae’r clwstwr rhagoriaeth rhanbarthol yn sicrhau bod nifer o ddulliau trosi ar gael ar gyfer ein gwaith..."

"Ni allwch gael effaith ar eich pen dy hun - mae angen partneriaid arnoch. Mae digwyddiadau fel hwn yn helpu i annog hynny."

Ychwanegodd yr Athro Peter Smowton: “Mae lled-ddargludyddion yn greiddiol ac yn sylfaenol i dechnoleg alluogi’r ganrif hon. Drwy ddatrys heriau gwyddonol wrth ddatblygu strwythurau lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd, a chyfuno lled-ddargludyddion cyfansawdd â silicon, byddwn yn adeiladu ar ddegawdau o fuddsoddiad ac yn ymagor i ragor byth o gymwysiadau cyffrous.

"Mae’r diddordeb rhyngwladol yn y digwyddiad hwn yn dangos bod blas am gyflymu trosi ymchwil ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd."

Yr Athro Peter Smowton Deputy Head of School and Director of Research

Dr Sellars: "Mae catapyltiau yn hyrwyddo cydweithio dan arweiniad busnes, gan helpu i droi syniadau newydd yn realiti masnachol. Fel aelod annatod o CS Connected, mae’r Catapult yn ategu'r cyfleusterau eraill o fewn clwstwr De Cymru. Bydd ein gweithgarwch yn debygol o sicrhau bod technoleg arloesol wedi'i chynllunio a ddatblygir yn y clwstwr, ac ar draws y DU, yn cyrraedd marchnadoedd a rhaglenni newydd."

Trefnir y prynhawn gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, sydd wedi hyrwyddo rhyngweithio rhwng busnes a’r Brifysgol am dros ddau ddegawd. Dechreua ‘Clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd -  ar agor i fusnes’ am 18:00 yn Adeilad Optometreg Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4LU. Mae cofrestru’n agor am 17:30.