Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn elwa ar fentora gyda busnesau Arloesedd Caerdydd

25 Ebrill 2024

A group of students and mentors gathered around a conference table
Myfyriwr yn cyfarfod eu mentoriaid yn sbarc|spark.

Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cael mewnwelediad gwerthfawr i fyd gwaith trwy gynllun 'Cwrdd â'ch Mentor' llwyddiannus.

Mae Rhaglen Mentora Gyrfaol Prifysgol Caerdydd wedi dod â myfyrwyr y Brifysgol ac arbenigwyr busnes at ei gilydd am bedwaredd flwyddyn lwyddiannus. Eleni, parwyd 221 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig â mentor yn eu dewis o sector/diwydiant. Rhoddodd y rhaglen gyfle iddynt gael gwybodaeth werthfawr, cyngor a mewnwelediad i'w dewisiadau o ran gyrfa yn y dyfodol, yn ogystal â rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu eu rhwydwaith a magu hyder gyda chefnogaeth gan weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn eu dewis sector.

Eleni, cymerodd saith busnes o Arloesedd Caerdydd, gan gynnwys Sotic, SimplyDo, Empirisys, Taith, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Bak, a Bipsync, ran, gydag 11 o fentoriaid yn cynnig eu hamser a'u harbenigedd yn hael i'r cynllun. Roedd y fenter yn galluogi'r myfyrwyr i elwa ar sesiynau mentora wyneb yn wyneb ac ar-lein wedi'u teilwra i'w cefnogi i gyflawni eu nodau gyrfaol, yn ogystal â sesiwn rhwydweithio grŵp 'Cwrdd â'ch Mentor' yn sbarc|spark, cyngor CV, a chyfweliadau ffug.

Dywedodd Jasmine Dodd, un o’r myfyrwyr: “Fe wnaeth y sgyrsiau gyda fy mentor roi hwb mawr i fy hyder. Rwy'n graddio eleni, a dydw i ddim yn gwybod beth ddaw wedi hynny. Fe wnaeth y Rhaglen Mentora fy helpu i ddeall nad yw'r daith bob amser yn un llinol ac mae wedi fy ngwneud yn fwy derbyniol a hyderus am y dyfodol. Mae'n rhaglen wych ac yn rhywbeth rydw i bob amser yn siarad amdani gyda fy ffrindiau, ac rwy'n annog myfyrwyr i gymryd rhan”.

Adleisiwyd amcan Arloesedd Caerdydd o hyrwyddo ethos cynhwysol a chydweithredol o arloesedd yn y teimladau a fynegwyd gan y mentoriaid proffesiynol a gymerodd ran. Mynegodd llawer awydd i feithrin y genhedlaeth nesaf a helpu i gael gwared ar rwystrau posibl i gyfleoedd am yrfa.

Dywedodd Peter Sueref, CTO Empirisys: “Cefais fy mentora yn gynharach yn fy ngyrfa ac roedd yn un o’r pethau mwyaf gwerthfawr a wnes i."

Roedd Rhaglen Mentora Gyrfaol Prifysgol Caerdydd yn gyfle i roi rhywbeth yn ôl. Rwy’n teimlo’n eithaf cryf am adeiladu sylfaen dalent yng Nghymru, ac mae hyn yn ffordd uniongyrchol y gallaf gael rhywfaint o effaith.
Peter Sueref CTO, Empirisys

Dywedodd Alice Burke, Swyddog Cymorth Busnes, Arloesedd Caerdydd: “Mae gwylio’r rhaglen hon yn esblygu ac yn ffynnu flwyddyn ar ôl blwyddyn yn dangos y gwerth aruthrol y mae’n ei roi i fentoriaid a’r sawl sy’n cael eu mentora fel ei gilydd. Rydym wrth ein bodd bod cymaint o denantiaid Arloesedd Caerdydd wedi cymryd rhan yn rhaglen eleni, ac roedd yn wych hwyluso agwedd mor ganolog ar y daith fentora yn sbarc|spark."

Cynhelir sesiynau Mentora Gyrfaol Prifysgol Caerdydd rhwng mis Rhagfyr a mis Ebrill bob blwyddyn academaidd gyda chymorth ac arweiniad llawn ar gael gan dîm Profiad Gwaith Dyfodol Myfyrwyr trwy gydol y rhaglen.

Dywedodd Linda Smith, Swyddog Prosiect Profiad Gwaith: “Hwyluso'r sesiynau 'Cwrdd â’ch Mentor' sydd bellach yn cael eu cynnal bob blwyddyn ar gyfer tenantiaid sbarc|spark sy'n mentora myfyrwyr ar y Rhaglen Mentora Gyrfaol yw uchafbwynt y flwyddyn."

Mae rhoi’r cyfle i fyfyrwyr dreulio amser mewn amgylchedd proffesiynol yn amhrisiadwy i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r hyn i’w ddisgwyl mewn gweithle. Mae clywed cyfranogwyr yn siarad am effaith eu teithiau unigol drwy’r rhaglen yn dyst i natur rymusol mentora.
Linda Smith Swyddog Prosiect Profiad Gwaith

Parhaodd hi: "Diolch yn fawr iawn i  denantiaid Arloesedd Caerdydd a wirfoddolodd i gefnogi myfyrwyr eleni.”

Os hoffech chi gofrestru diddordeb yn rhaglen Mentora Gyrfaol 2024/25, llenwch y ffurflen hon neu ebostio workexperience@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.