Ewch i’r prif gynnwys

Lansiad sbarc|spark yn dathlu arloesedd

16 Mehefin 2022

Daeth ffigyrau amlwg o fyd ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, y llywodraeth, byd diwydiant a'r sector gwirfoddol ynghyd i ddathlu dyfodiad sbarc|spark – Cartref Arloesedd Prifysgol Caerdydd.

Mae’r adeilad, sydd wedi cael ei ddisgrifio’n 'uwch-labordy’r gymdeithas', yn gartref i grwpiau ymchwil a phartneriaid allanol SBARC – parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd – ochr yn ochr â chwmnïau deillio, busnesau newydd ac entrepreneuriaid sy'n fyfyrwyr i greu atebion ar y cyd ar gyfer problemau astrus y gymdeithas.

Cefnogwyd neges ewyllys da Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price ac arbenigwyr allweddol ym maes arloesedd, yr Athro Julia Black, Llywydd yr Academi Brydeinig, a Syr Geoff Mulgan, yr oedd ei gymorth gwreiddiol wedi helpu wrth lunio'r ganolfan.

[Ffilm]

Wrth groesawu sbarc|spark, dyma a ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Drwy ddod â busnesau, llywodraethau, y sector gwirfoddol a'r byd academaidd at ei gilydd, a defnyddio gwybodaeth a rennir, gweithio ar yr un safle a gweithio’n rhyngddisgyblaethol, bydd sbarc|spark yn cyfrannu'n sylweddol at ein nod cyffredin o hyrwyddo diwylliant o arloesedd. Bydd yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau mor amrywiol â gwell gofal iechyd a lleihau ein hôl troed carbon, a bydd yn hyrwyddo sgiliau busnes campus, yn denu ymchwilwyr ac yn annog busnesau newydd. Bydd sbarc|spark yn arwain at gydweithio mwy naturiol ac yn dod â manteision gwirioneddol i bob math o sectorau ym mhob rhan o Gymru."

Ac yntau’n arfer bod yn Uwch-reolwr Rhaglenni yn Labordy Arloesedd NESTA, ac un sydd wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad SBARC, dyma a ddywedodd Adam Price: "Mae adeiladu parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd yma yng Nghymru yn gyfle anhygoel inni: nid yn unig er mwyn creu newid yng Nghymru, ond er mwyn creu platfform newydd i ymchwilwyr yn y gwyddorau cymdeithasol sy'n gweithio ysgwydd wrth ysgwydd gydag ymarferwyr, gan ddysgu gyda'i gilydd mewn amser real – dyma ffordd wahanol iawn o fynd i’r afael ag arloesedd cymdeithasol a pholisïau cyhoeddus."

Dyma a ddywedodd yr Athro Julia Black, Cyfarwyddwr Strategol Arloesedd Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain: “Mae'n anhygoel! Mae iddo botensial enfawr, enfawr. Dyma le ysbrydoledig iawn i ymweld ag ef – mae'n adeilad agored iawn a chydweithio yw’r sail i bopeth yn yr adeilad – mae teimlad o fwrlwm go iawn yn y lle."

Dyma a ddywedodd Syr Geoff Mulgan: "Peth cyffrous iawn yw gweld sbarc|spark yn magu nerth. Roeddwn i’n rhan fechan o’r gwaith flynyddoedd yn ôl yng nghamau cynnar y prosiect; fe wnes i greu Y Lab a gweithio gyda Dinas-Ranbarth Caerdydd ar eu strategaeth, ac yn fy marn i mae’r math hwn o fodel yn hollbwysig ar gyfer yr 20 i 30 mlynedd nesaf ym maes gwyddoniaeth gymdeithasol."

Dathlu’r rhanddeiliaid oedd uchafbwynt lansiad sbarc|spark, a agorodd ar 1 Mawrth. Mae'r adeilad, a ddyluniwyd gan benseiri Hawkins\Brown, yn cynnwys unedau masnachol a labordai ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd, cyfleusterau sy’n rhoi cartref i gwmnïau gan gynnwys ystafell RemakerSpace a chanolfan ddelweddu sy'n helpu'r Brifysgol i gydweithio i ddod â syniadau'n fyw.

Yn y digwyddiad, cafwyd panel VIP i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n ymwneud â strategaethau sy'n seiliedig ar leoedd a dan arweiniad y gymuned er mwyn mynd i'r afael â heriau o bwys yn y gymdeithas. Y cyfranwyr oedd Adam Price, Fozia Irfan, Cyfarwyddwr Plant a Phobl Ifanc Plant mewn Angen y BBC, yr Athro John Goddard, Athro Emeritws Astudiaethau Datblygu Rhanbarthol ym Mhrifysgol Newcastle, a Kellie Beirne, Prif Weithredwr, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Diolchodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Damian Walford Davies, i’r prif areithwyr, y panelwyr a’r gwesteion am eu cyfraniadau.

"Mae wedi bod yn ddiwrnod anhygoel – a chawson ni drafodaeth gysyniadol gyfoethog iawn ynghylch yr hyn mae'r gwyddorau cymdeithasol i fod i'w wneud erbyn hyn mewn byd sy'n llawn argyfyngau a heriau."

Bydd blogiau arwain meddyliau gan pob un o’r pedwar oedd ar y panel yn ymddangos yn y Blog Cartref Arloesedd yn ystod misoedd yr haf.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio yn sbarc|spark, ebostiwch spark@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon