Ewch i’r prif gynnwys

Economi Greadigol

Credwn trwy weithio gydag eraill bod gennym ran allweddol i'w chwarae o ran adeiladu economi gryfach creadigol yn ein Dinas.

Cefnogwn economi greadigol y ddinas ac rydym yn annog pobl i weithio gyda'i gilydd i godi uchelgeisiau'r ddinas. Ein nod yw i alluogi ein staff a'n myfyrwyr i ymgysylltu â'r diwydiannau creadigol. Rydym yn datblygu cynlluniau i greu mannau go iawn a rhithwir sy'n caniatáu i'r cydweithrediadau hyn i gymryd lle.

Creating networking opportunities between co-working spaces for small companies and freelancers in the creative sector.

Rydym yn datblygu rhwydwaith greadigol ledled y ddinas ar gyfer unigolion, sefydliadau a chwmnïau sy'n gweithio yn economi greadigol y ddinas.

Rydym yn cefnogi cyfnewid gwybodaeth arloesol rhwng ein academyddion, myfyrwyr a'r economi greadigol.

Right quote

Mae gan Gaerdydd asedau diwylliannol prifddinas, gyda phoblogaeth ac enw da sy’n cynyddu fel ei gilydd. Trwy gydweithio, gallwn godi uchelgais a phroffil y ddinas i’w chreu’n brifddinas creadigrwydd.

Yr Athro Ian Hargreaves Athro mewn Economi Ddigidol