media.cymru
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae media.cymru yn rhaglen gydweithredol, a’i nod yw cyflymu twf sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Prifysgol Caerdydd sy’n arwain y rhaglen fuddsoddi strategol hon, sy’n dwyn ynghyd 24 o bartneriaid cynhyrchu, darlledu, technoleg, prifysgol ac arweinyddiaeth leol am y tro cyntaf i roi hwb sylweddol i arloesedd yn y cyfryngau.
Gan adeiladu ar sylfeini llwyddiannus, bydd media.cymru yn sbarduno twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy a gwerth ychwanegol gros o £236 miliwn erbyn 2026. Dros gyfnod o bum mlynedd, nod y rhaglen yw creu cannoedd o swyddi a chwmnïau mwy arloesol yn y rhanbarth.
Mae gweithgareddau'r rhaglen wedi'u cynllunio i ymateb i dechnolegau newydd, cynyddu capasiti busnesau bach i arloesi a mynd i'r afael â’r anghenion o ran y sgiliau fydd eu hangen yn y dyfodol.
Bydd media.cymru yn datblygu:
- atebion i heriau a chyfleoedd i sector cyfryngau Cymru mewn meysydd sy’n cynnwys: cynaliadwyedd; cynyrchiadau dwyieithog; amrywiaeth a chynhwysiant; twristiaeth a thechnoleg.
- seilwaith newydd gan gynnwys stiwdio rithwir o'r radd flaenaf.
- cynllun arloesedd/ymchwil a datblygu sy'n galluogi'r syniadau gorau i ddod yn gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd yn barod i'w marchnata.
Bydd y rhaglen gwerth £50 miliwn yn arwain Rhanbarth Prifddinas Caerdydd i fod yn ganolbwynt byd-eang o ran arloesedd a chynhyrchu yn y cyfryngau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â media.cymru@caerdydd.ac.uk.