Arbenigwyr am helpu busnesau bach a chanolig i "dorri drwy’r dwlu" o ddeallusrwydd artiffisial a gwyddorau data i wireddu buddion i fusnesau
14 Mehefin 2023
Bydd busnesau bach a chanolig sy’n gweithredu ym mhrifddinas Cymru a’r ardaloedd cyfagos yn cael cymorth drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnolegau gwyddorau data, a hynny yn rhan o fenter newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Bydd canolfan benodol hygyrch a lleol yn paru arbenigedd academaidd â busnesau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn ardal Porth y Gorllewin sydd am ddeall yn well sut y gall arloesedd digidol drawsnewid cynhyrchiant busnesau bach a chanolig, cryfhau eu cydnerthedd a gwella eu twf.
Wedi'i hariannu gan Hartree Centre y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC), bydd y ganolfan ymgysylltu yn cynnig cyfres o opsiynau cymorth i helpu busnesau bach a chanolig i archwilio a mabwysiadu technolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg mewn ffordd sy'n gweddu i'w hanghenion busnes.
![Yr Athro Alun Preece yn cyflwyno yn lansiad hybiau BBaCh Canolfan Hartree.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=575&ar=16:9)
Bydd y gwasanaethau'n cyd-fynd â meysydd cryfder dau o sefydliadau ymchwil strategol newydd Prifysgol Caerdydd, y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol a'r Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth (SCIII) sydd wedi'u lleoli ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK), sef y cyntaf o’i fath yn y byd.
Dywedodd yr Athro Alun Preece, Cyfarwyddwr Canolfan Busnesau Bach a Chanolig Hartree Centre a Chyd-gyfarwyddwr SCIII ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda busnesau bach a chanolig i’w helpu i roi’r grym yn eu dwylo i fabwysiadu technolegau deallusrwydd artiffisial blaengar. Rhan o hynny fydd eu helpu i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn y ffordd orau bosibl, hyd yn oed pan does dim llawer iawn o ddata ganddynt.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1460570/Alun-Preece-Portrait-Brick-Background-Cropped-Smaller.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
"Mae deallusrwydd artiffisial a gwyddorau data yn feysydd sy’n symud yn gyflym iawn a gall hynny godi ofn ar unrhyw fusnes. Er enghraifft, un mater allweddol ar hyn o bryd yw cael y cydbwysedd cywir rhwng deallusrwydd artiffisial a deallusrwydd dynol. Rydym am helpu busnesau bach a chanolig i dorri drwy'r dwlu ac archwilio ffyrdd o arloesi'n gyfrifol gyda'r technolegau trawsnewidiol hyn."
![Adeilad sbarc|spark](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2725659/sbarc-spark-exterior.jpg?w=575&ar=16:9)
Bydd y ganolfan yn helpu busnesau gyda deallusrwydd artiffisial sy’n canolbwyntio ar bobl, gan gynnwys datblygiadau diweddar mewn prosesu iaith naturiol fel ChatGPT, a chymhwyso deallusrwydd artiffisial i feysydd megis seiberddiogelwch, atal gwybodaeth anghywir, optimeiddio a delweddu.
Gan fanteisio ar fuddsoddiad diweddar yng Nghampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd, bydd y ganolfan yn defnyddio mannau cydweithio a chyfleusterau yn adeilad sbarc|spark.
Yn ôl yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ar gyfer Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio’n rhan o bartneriaeth â Hartree Centre, gan sefydlu’r ganolfan ymgysylltu newydd i fusnesau bach a chanolig wrth wraidd mentrau arloesedd y Brifysgol.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2713425/118176-1680294194227.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
"Mae trawsnewid digidol yn sbardun pwysig wrth ddod ag academyddion o ystod o ddisgyblaethau at ei gilydd i fynd i’r afael â materion sy’n wynebu ein cymdeithas. Bydd Canolfan Busnesau Bach a Chanolig Hartree Centre yng Nghaerdydd yn galluogi cwmnïau lleol i drosoli ymchwil arloesol y Brifysgol ym maes deallusrwydd artiffisial a gwyddorau data, gan ganolbwyntio ar atebion yn y byd go iawn."
Gan adeiladu ar rwydweithiau busnesau bach a chanolig presennol trwy Cardiff Innovations, Ysgol Busnes Caerdydd a'r Cyflymydd Arloesedd Data a gwblhawyd yn ddiweddar, nod y ganolfan yw darparu 22 o brosiectau dros 3 blynedd gyda busnesau bach a chanolig yn y rhanbarth.
![Peter Sueref, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Empirisys, yn cyflwyno astudiaeth achos BBaCh mewn ystafell seminar.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=575&ar=16:9)
Dywedodd Peter Sueref, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Empirisys - partner arall o Arloesedd Caerdydd: "Gall gwyddoniaeth ddigidol a data fod yn fantais gystadleuol i Gymru gan ei bod eisiau cael hunaniaeth mewn byd digidol sy’n gynyddol gysylltiedig yn fyd-eang. Mae gennym glystyrau technoleg sy’n arwain y byd ym meysydd seiber, technoleg ariannol, data a thechnoleg ac mae gennym sefydliadau gwych megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ogystal â phrifysgolion mawr wedi’u lleoli yma.
"Mae’n gyfle enfawr i fusnesau bach a chanolig megis Empirisys fanteisio ar y dalent ac ymchwil o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn creu cynhyrchion sy'n defnyddio gwyddor data i helpu i gadw gweithwyr yn ddiogel. Felly mae’n hanfodol i ni ein bod yn defnyddio’r syniadau diweddaraf o’r byd academaidd ac ymchwil flaengar i ddarparu’r cynnyrch gorau y gallwn i’n cwsmeriaid. Rwy’n gobeithio y bydd eraill yn manteisio ar y cyfle hwn hefyd gyda lansiad hwb Canolfan Busnesau Bach a Chanolig Hartree Centre ym Mhrifysgol Caerdydd."
Bydd digwyddiad lansio ddydd Llun 12 Mehefin 2023 yn arddangos gwaith sydd eisoes ar y gweill, gydag astudiaethau achos ac arddangosiadau technolegol ynghylch:
- rôl arloesedd digidol mewn cynhyrchiant a chynaliadwyedd busnesau bach a chanolig
- archwilio a mabwysiadu technolegau megis dadansoddeg data a deallusrwydd artiffisial
- Busnesau bach a chanolig sydd eisoes yn arwain y ffordd ym maes mabwysiadu mentrau digidol
![Dr John Barker, Cyfarwyddwr Cyswllt Arloesedd yn SimplyDo, yn cyflwyno astudiaeth achos BBaCh mewn ystafell seminar.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=575&ar=16:9)
Dywedodd Dr John Barker, Cyfarwyddwr Cyswllt Arloesedd yn SimplyDo - partner Arloesedd Caerdydd: "Mae deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio yn ein helpu i ddarparu profiad corfforaethol mawr, heb yr adnoddau a’r gost i’r cwsmer o sefydliadau mwy.
"Mae’r math hwn o drawsnewid digidol yn allweddol i dwf economi Cymru. Bydd sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn cynyddu cynhyrchiant trwy awtomeiddio yn rhoi mantais gystadleuol iddynt mewn marchnad gynyddol heriol.
"I ni, mae lleoli yn sbarc|spark a chydweithio ag arbenigwyr academaidd wedi bod yn wych. O safbwynt busnesau bach a chanolig, mae’r cyfle i dynnu ar y dalent a’r profiad ymchwil yn y Brifysgol yn golygu ei fod yn lleoliad perffaith ar gyfer Canolfan Busnesau Bach a Chanolig Hartree Centre."
Gan weithio’n agos gyda rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol – gan gynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Bartneriaeth SETsquared – nod y ganolfan yw cynyddu capasiti a gallu ym maes trawsnewid digidol, gwella ffyniant a diogelwch, ac arloesi mewn ffordd gynhwysol a chyfrifol.
Dywedodd Colan Mehaffey, Pennaeth Arloesedd Digidol a Data ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o gefnogi Prifysgol Caerdydd i ddarparu’r hwb a ariennir gan Ganolfan Hartree.
"Rydym yn gweithio ar draws nifer o glystyrau diwydiannol â blaenoriaeth sy’n hanfodol i economi’r Rhanbarth ac sy’n agos at rwydwaith o fusnesau bach a chanolig sy’n gallu gwireddu buddion busnes drwy fabwysiadu AI.
"Bydd yr hwb yn lleihau rhwystrau i fabwysiadu ac yn cefnogi’r busnesau bach a chanolig hyn i sicrhau twf a arweinir gan arloesedd."
![Llyfryn Canolfan Genedlaethol Arloesedd Digidol Hartree yng nglin rhywun.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=575&ar=16:9)
Ychwanegodd Karen Brooks, Pennaeth Uwchraddio SETsquared: "Mae’n wych gweld y ganolfan BBaCh newydd hon yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd, un o’n partneriaid prifysgol SETsquared a rhanbarth lle rydym wedi ymrwymo i sbarduno twf economaidd.
"Mae trawsnewid digidol yn ffordd allweddol i fusnesau ddod yn fwy cynaliadwy. Mae cwmnïau sydd â strategaeth amgylcheddol, gymdeithasol a llywodraethu gref ar waith yn fwy llwyddiannus yn economaidd sy'n eu helpu i ddenu buddsoddiad a thalent bellach yn ogystal â helpu i achub y blaned. Felly, mae’r rhaglen gymorth newydd hon yn hollbwysig ar sawl lefel."
Mae’r ganolfan ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o dri ledled y DU i dderbyn cyfran o £4.5 miliwn yn rhan o raglen Canolfan Genedlaethol Arloesedd Digidol Hartree.
Bydd y safleoedd, sydd hefyd ym Mhrifysgol Newcastle a Phrifysgol Ulster, yn cael eu hariannu am dair blynedd i sefydlu rhwydwaith i helpu gyda mabwysiadu digidol a fydd ar gael yn hawdd ac yn lleol i fusnesau bach a chanolig ledled y DU.