Ewch i’r prif gynnwys

Gwella clystyrau ymchwil ac arloesi y DU

6 Hydref 2023

Llun o'r awyr o gymuned De Cymru.
Bydd y prosiectau'n dod â manteision tymor byr a hirdymor i economïau a chymunedau rhanbarthol a lleol gan gynnwys swyddi newydd, datblygu sgiliau, buddsoddiad preifat, twf busnesau bach a chanolig, a mwy.

Bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn derbyn cyfran o £41 miliwn mewn cyllid ar gyfer prosiectau sydd â'r nod o hybu twf economaidd y DU a mynd i'r afael ag anghenion rhanbarthol.

Bydd y deg prosiect yn cyfuno rhai o brif ymchwil peirianneg a gwyddorau ffisegol y wlad ag uchelgeisiau cyrff dinesig a busnesau lleol i wella gallu economaidd rhanbarthol.

Dros y pedair blynedd nesaf, byddant yn helpu clystyrau ymchwil ac arloesi sefydledig i ehangu a chlystyrau sy'n dod i'r amlwg i ddatblygu.

Mae'r prosiectau, dan arweiniad consortia ledled y DU, yn cael eu hariannu drwy gynllun newydd o'r enw Cyfrif Cyflymu Effaith Seiliedig ar Le (PBIAA) gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Yn bartner ar dri o'r deg prosiect i dderbyn cyllid, bydd Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu ei harbenigedd ymchwil i alluogi twf clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru yn ogystal â chwarae rolau allweddol mewn prosiectau carbon isel a fydd yn arwain at hydrogen gwyrdd fel ffynhonnell ynni ac adeiladau sero net.

Arweinir Cyflymydd Effaith Seiliedig ar Le Lled-ddargludyddion De Cymru gan Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd gyda chymorth gan Brifysgol Abertawe.

Bydd y Cyflymydd yn mynd i'r afael â'r prinder staff medrus, y ffactor unigol mwyaf sy'n cyfyngu twf clwstwr lled-ddargludyddion De Cymru, drwy:

  • uwchsgilio staff mewn cwmnïau presennol sydd â sgiliau lefel uchel, arbenigol, ymarferol
  • hyfforddi newydd-ddyfodiaid i'r gweithlu lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • ysbrydoli nifer fwy o ymgeiswyr i'r gweithlu

Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys cynghrair GW4 a chydweithredwyr Cymru, mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o Uwchglwstwr Mawr y Gorllewin o Effaith Hydrogen ar gyfer Technolegau'r Dyfodol (GW-SHIFT).

Dan arweiniad Prifysgol Caerfaddon a'i gefnogi gan arbenigwyr yn Sefydliad Arloesedd Sero Net Prifysgol Caerdydd, bydd GW-SHIFT yn sbarduno uwchglwstwr ar sail lle ar draws De-orllewin Lloegr a De Cymru, gan gyflymu effaith ymchwil ac arloesi mewn hydrogen carbon isel a gweithio tuag at darged Sero Net 2050 y DU.

Bydd yn cyfrannu at strategaethau a thargedau allweddol y llywodraeth ar gyfer dyfodol hydrogen carbon isel, gan gynnwys:

  • cynyddu capasiti cynhyrchu hydrogen y DU erbyn 2030
  • creu 40,000 o swyddi newydd a diogelu 60,000 o swyddi presennol
  • ysgogi twf economaidd drwy werth gros o £13 biliwn erbyn 2050

Bydd arbenigwyr mewn dylunio adeiladau ac ôl-osod ar gyfer effeithlonrwydd ynni o Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru hefyd yn cefnogi prosiect SWITCH i Adeiladau Sero Net.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac yn cynnwys partneriaid dinesig a masnachol, bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar gael gwared ar y rhwystrau i fabwysiadu adeiladau sero net.

Nodau’r prosiect yw:

  • ysgogi twf economaidd, gan greu dros 1,800 o swyddi medrus
  • galluogi £490 miliwn o fuddsoddiad sector cyhoeddus a phreifat dros 15 mlynedd

Dyma a ddywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Rydym yn croesawu'r buddsoddiadau blaenllaw hyn ac yn gyffrous i gael y cyfle i weithio gyda'n partneriaid academaidd, dinesig a diwydiant rhanbarthol i alluogi twf pellach clwstwr lled-ddargludyddion De Cymru yn ogystal â chefnogi dyfodol ynni newydd cynaliadwy ac adeiladau sero net.

“Mae hon yn enghraifft wych o rôl bwysig Prifysgol Caerdydd fel prifysgol ddinesig fyd-eang, gan gyd-greu â phartneriaid er mwyn cael effaith leol ar heriau o ddiddordeb a pherthnasedd rhyngwladol. Rwy'n edrych ymlaen at y prosiectau hyn yn darparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gan gynnwys swyddi newydd, datblygu sgiliau, buddsoddiad preifat, twf busnesau bach a chanolig a mwy i Dde Cymru a'r Gorllewin.”

Yr Athro Roger Whitaker College Dean of Research
Professor of Mobile and Social Computing

Mae'r buddsoddiad yn y prosiectau hyn yn creu cyfle pellach i academyddion ac actorion dinesig gydweithio a chefnogi datblygiad diwydiant a lleoedd lleol.

Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman: “Mae De Cymru yn ganolfan gynyddol ar gyfer sectorau'r dyfodol, gan chwarae rhan ganolog ar ein taith i adeiladau sero net, gan yrru economi hydrogen y DU yn ei blaen a thrwy ei chwmnïau lled-ddargludyddion arloesol.

“Bydd ein buddsoddiad o dros £9m mewn prosiectau dan arweiniad prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cefnogi hyfforddiant cynhwysfawr a miloedd o swyddi newydd, gan osod y sylfeini sy'n dod â buddsoddiad preifat pellach am flynyddoedd i ddod - gan dyfu economïau Cymru a'r DU ehangach.”

Dywedodd yr Athro Miles Padgett, Cadeirydd Gweithredol Dros Dro yn EPSRC: “Rwy'n falch o gyhoeddi ein deg Cyfrifon Cyflymu Effaith Seiliedig ar Le cyntaf a fydd yn chwarae rhan unigryw wrth wella galluoedd clystyrau arloesi ledled y DU. Un o brif flaenoriaethau UKRI yw cryfhau clystyrau a phartneriaethau mewn cydweithrediad â chyrff a busnesau dinesig, a thrwy hynny sbarduno twf economaidd rhanbarthol.”

Rhannu’r stori hon

Dewch i wybod rhagor am ein sefydliadau a'r gwaith y maent yn ei wneud.