Ewch i’r prif gynnwys

Gweinidog Gwyddoniaeth y DU yn ymweld â'r Ganolfan Ymchwil

6 Mehefin 2023

Mae’r Athro Peter Smowton, Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, yn sefyll y tu allan i adeilad sbarc|spark ym Mhrifysgol Caerdydd i groesawu’r Gweinidog Chloe Smith AS a Syr Derek Jones ar daith o amgylch Y Ganolfan Ymchwil Drosi
Mae’r Athro Peter Smowton, Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, yn croesawu’r Gweinidog Chloe Smith AS a Syr Derek Jones

Mae Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, y Gwir Anrhydeddus Chloe Smith AS, wedi ymweld â Chanolfan Ymchwil Drosi (TRH) Prifysgol Caerdydd i helpu i lansio strategaeth lled-ddargludyddion hir-ddisgwyliedig Llywodraeth y DU.

Mae’r Athro Colin Riordan, y Llywydd a'r Is-Ganghellor ymunodd â'r Gweinidog ar gyfer taith o amgylch y TRH, a lansiwyd yn ddiweddar — cyfleuster diwydiant lle mae ymchwilwyr yn datblygu technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) y dyfodol.

Fe’i hagorwyd yn ffurfiol gan yr Athro Donald J. Wuebbles, gwyddonydd ym maes yr hinsawdd ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel, ac mae’r TRH yn dod ag arbenigwyr ynghyd o’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) a Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) i ddod o hyd i atebion ym maes diwydiant Sero Net.

Cynhaliwyd yr ymweliad gyda CSconnected o dan arweiniad Caerdydd — y clwstwr cyntaf yn y byd o alluoedd ymchwil, arloesedd a gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae CSconnected yn gweithredu ar draws llawer o sectorau diwydiant, ac mae'n gweithio'n agos gyda TRH ac ICS.

Wrth groesawu'r Gweinidog i'r Brifysgol, dywedodd yr Athro Riordan: “Mae wedi bod yn wych ac yn serendipaidd lansio TRH, cynnal ymweliad y Gweinidog a chroesawu cyhoeddi Strategaeth Lled-ddargludyddion Cenedlaethol hir-ddisgwyliedig Llywodraeth y DU mewn dau ddiwrnod yn unig. Roeddem yn gallu rhoi cipolwg uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol i’n cyfleusterau sydd newydd eu lansio yn TRH, gan gynnwys ystafell lân ICS. Roeddem yn gallu esbonio sut mae cydweithio agos rhwng y byd academaidd, diwydiant, llywodraeth a chymdeithas ddinesig yn golygu mai TRH yw’r cyfleuster gorau o’i fath yn y DU.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, Chloe Smith: “Mae clwstwr De Cymru yn rhan hanfodol o ecosystem lled-ddargludyddion y DU, ac roedd fy ymweliad â Chanolfan Ymchwil Drosi Prifysgol Caerdydd yn tanlinellu'r cryfderau y gallwn alw arnynt. Bydd swm cychwynnol o £1 biliwn yn sicrhau y gallwn barhau i adeiladu ar y cryfderau hynny yn y degawdau i ddod, gan ddatgloi datblygiadau arloesol newydd a swyddi sgiliau uchel a fydd yn ehangu ein diwydiant lled-ddargludyddion ac yn hybu twf economaidd.”

Ychwanegodd yr Athro Rudolf Allemann, y Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: Mae strategaeth wedi'i diffinio'n dda gan Lywodraeth y DU yn ein galluogi i alinio ymchwil ICS ag anghenion busnes. Mae ymchwilwyr TRH yn cydweithio â phartneriaid yn y diwydiant i bontio’r bwlch i ddiwydiant, gan ddatblygu cynhyrchion a phrosesau CS newydd ar gyfer dyfodol glanach, gwyrddach a chynaliadwy.”

Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cadeirydd CSconnected: “Mae cael strategaeth Lled-ddargludyddion y DU ar waith i ategu Deddfau Sglodion yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn caniatáu i ddiwydiant y DU ffynnu mewn marchnad hynod gystadleuol. Roeddem yn awyddus i ddangos i’r Gweinidog pam fod gan Glwstwr De Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a sefydliadau eraill, yr arbenigedd i helpu’r DU i gyflawni a thyfu ei rôl mewn cadwyni cyflenwi lled-ddargludyddion byd-eang ar draws technolegau cyfredol, newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.”

Mae’r Strategaeth Lled-ddargludyddion Cenedlaethol yn nodi sut y bydd hyd at £1 biliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth yn hybu cryfderau a sgiliau’r DU ym maes dylunio, Ymchwil a Datblygu a lled-ddargludyddion cyfansawdd, tra’n helpu i ddatblygu cwmnïau sglodion domestig ledled y DU.

Mae Caerdydd yn gweithio gyda'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Prifysgol Abertawe a nifer o gwmnïau lled-ddargludyddion blaenllaw yn y diwydiant a gydnabyddir yn fyd-eang yn rhan o CSconnected.

Maent yn cael cefnogaeth gan Llywodraeth y DU drwy eu cynllun Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a'r Gronfa Cryfder mewn Lleoedd. Dechreuodd y prosiect 55 mis ym mis Tachwedd 2020 ac mae ganddo gyfanswm gwerth £43 miliwn, wedi’i gefnogi gan £25 miliwn o gronfeydd UKRI, gyda gweddill y buddsoddiadau yn cael eu darparu gan bartneriaid prosiect.

Mae’n cefnogi 2,600 o swyddi gwerth uchel gyda uchelgais i ddyblu ei allbwn economaidd yn gyfrannwr pwysig i strategaeth lled-ddargludyddion y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae ein hacademyddion ar gael ar gyfer ymgynghoriaeth, prosiectau cydweithredol a mwy.