Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Fyd-eang er Ynni Glân newydd gwerth £10m

18 Medi 2023

Car exhaust fumes/Mygdarth gwacáu car

Mae Prifysgol Caerdydd yn bartner mewn Canolfan Fyd-eang er Ynni Glân newydd gwerth £10m rhwng y DU a UDA.

Bydd y Ganolfan Fyd-eang er Ynni Glân ac Atebion Trafnidiaeth Deg (CLEETS), a ariennir mewn cydweithrediad rhwng Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol UDA, yn canolbwyntio ar leihau allyriadau trafnidiaeth ffordd, gan ddefnyddio tri rhanbarth yn astudiaethau achos: Gorllewin Canolbarth Lloegr a de Cymru yn y DU yn ogystal â rhanbarth mega-ranbarth Llynnoedd Mawr UDA.

Yn rhan o’r prosiect yn y DU bydd Prifysgol Caerdydd yn derbyn £2.8m a bydd Prifysgol Birmingham - fydd yn arwain - yn cael £3.2m o gyllid i sefydlu’r Ganolfan. Bydd y Discovery Partners Institute, sy'n rhan o Brifysgol Illinois System, yn arwain y prosiect yn yr Unol Daleithiau yn sgil dyfarniad gwerth $5m gan Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol UDA.

Mae trafnidiaeth yn rhan hollbwysig o fywyd bob dydd, ac yn hanfodol i'r economi a diwallu anghenion cymunedau. Fodd bynnag, mae allyriadau'r sector yn gyfrifol am 24% o gyfanswm allyriadau'r DU. Bydd CLEETS yn datblygu strategaethau trafnidiaeth cynaliadwy a chyfartal fydd yn gwella effeithlonrwydd teithio ac ynni, yn asesu cyflwr seilwaith ynni trafnidiaeth, ac yn ei optimeiddio i gyflymu'r newid tuag at ynni glân sy’n rhydd o allyriadau a cherbydau cysylltiedig, yn ogystal â modelu effaith y rhain ar newid yn yr hinsawdd.

Dyma a ddywedodd yr Athro Omer Rana, yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, sy'n arwain cyfraniad Prifysgol Caerdydd at CLEETS: "Gwych o beth yw bod yn rhan o ganolfan sy'n cyfuno dulliau cymdeithasol a thechnegol o ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Mae newid ymddygiad a thechnoleg ill dau yn hollbwysig i gefnogi trafnidiaeth gynaliadwy, ac mae'r ganolfan hon yn dod â'r agweddau hyn at ei gilydd ledled y DU ac UDA, ar y cyd a’n gwaith gyda Phartner Strategol y Brifysgol, Prifysgol Illinois. Bydd Prifysgol Caerdydd hefyd yn cyfrannu cryfderau hollbwysig ym maes seiberddiogelwch a gwyddor data/deallusrwydd artiffisial at y ganolfan hon."

Dyma a ddywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Dirprwy Is-ganghellor, Myfyrwyr Rhyngwladol: "Gwych o beth yw gweld y ganolfan ar y cyd hon ym maes Technolegau Ynni Glân yn cael ei lansio rhwng Prifysgol Illinois, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Birmingham a gaiff ei hariannu gan Ymchwil ac Arloesi’r DU a Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau. Mae'n ehangu ar ein gwaith ar y cyd â Phrifysgol Illinois System drwy'r Discovery Partners Institute ers 2018. Bydd technolegau ynni glân a thrafnidiaeth gynaliadwy yn heriau allweddol i bob un ohonom, nid yn unig yn y DU a'r Unol Daleithiau, ond hefyd yn fyd-eang. Mae'n ddefnyddiol gweld mai un agwedd ar y Ganolfan hon yw deall sut y gellir efelychu'r gwersi a ddysgwyd ym Mega-Ranbarth Llynnoedd Mawr yr Unol Daleithiau, sy’n ganolfan logisteg o bwys, a de Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn y DU, hefyd mewn rhannau eraill o'r byd megis India."

Dyma a ddywedodd Dr Jonathan Radcliffe, Darllenydd Systemau a Pholisïau Ynni ym Mhrifysgol Birmingham, a fydd yn arwain y ganolfan yn y DU: "Er mwyn dylunio system drafnidiaeth wedi’i datgarboneiddio sy'n diwallu anghenion yr economi a chymunedau, ac sydd hefyd yn deg ac yn wydn, mae’n rhaid wrth ddull sy'n cyfuno ymchwil ar draws disgyblaethau, yn ogystal â'r sector preifat a llunwyr polisïau. Bydd datgarboneiddio trafnidiaeth yn cael ei gyplysu'n gywrain â'r system ynni, felly mae angen dull cydgysylltiedig arnom. Mae'r Ganolfan Fyd-eang hon yn rhoi’r cyfle inni ddatblygu atebion yn y DU a'r Unol Daleithiau ar raddfa a all drawsnewid ein dinasoedd a'n rhanbarthau."

Dyma a ddywedodd y Fonesig Ottoline Leyser, Prif Swyddog Gweithredol UKRI: "Nod Rhaglen Creu Dyfodol Gwyrdd UKRI yw harneisio pŵer ymchwil ac arloesi i fynd i'r afael â sectorau sy’n anodd eu datgarboneiddio yn ein heconomi. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn bartner gyda'n chwaer sefydliadau yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia i gyflymu’r cynnydd tuag at y nod hollbwysig hwn.

"Yn sgil ein buddsoddiad cyfunol mewn Canolfannau Byd-eang, bydd cydweithredu ac arloesi rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol cyffrous gan ymchwilwyr yn gallu pweru'r newidiadau o ran ynni. Edrychaf ymlaen at weld yr atebion creadigol yn cael eu datblygu yn sgil y prosiectau cyfunol a byd-eang hyn."

Rhannu’r stori hon