Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth argraffu 3D Caerdydd yn cadw'r arian parod yn llifo

27 Medi 2023

tri dyn yn edrych ar gamera ac yn gwenu
O’r chwith i’r dde: Dr Daniel Eyers, Cyd-gyfarwyddwr, RemakerSpace; Mark Fifield, Cyfarwyddwr Ansawdd Grŵp, Glory Global Solutions a'r Athro Aris Syntetos, PARC a Chyfarwyddwr RemakerSpace.

Mae arbenigwyr mewn argraffu 3D blaenllaw wedi ymuno â chwmni rhyngwladol i'w helpu i ddarparu rhannau ar amser ar gyfer peiriannau codi arian.

Mae ymchwilwyr o RemakerSpace Prifysgol Caerdydd wedi cynghori Glory Global Solutions - arweinydd mewn datrysiadau technoleg arian parod - i'w helpu i reoli camau allweddol o gylch bywyd eu cynnyrch mewn modd cost effeithiol ac effeithlon.

Drwy ddefnyddio technegau a methodolegau gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf, nod y cydweithrediad yw cyflwyno argraffu 3D fel proses gynhyrchu hyfyw.

Mae Glory yn datblygu, cynhyrchu, ac yn cyflenwi peiriannau ar gyfer darnau arian ac arian parod ar raddfa fyd-eang.

Ffynnodd y bartneriaeth drwy gydweithrediad hirsefydlog yr Ysgol Busnes â DSV - y cawr trafnidiaeth a logisteg byd-eang - a gyflwynodd Glory i PARC.

Roedd y cwmni o Japan yn cydnabod enw da Ysgol Busnes Caerdydd sydd wedi hen ennill ei blwyf am ragweld rhestr eiddo a rheoli cadwyn gyflenwi, dan arweiniad Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestr PARC

Ceisiodd Glory ymchwilio a allai rhannau cynyrchu cyfaint isel argraffu 3D a sbâr ar alw helpu'r cwmni i leihau stoc, amseroedd arwain a chostau offer, wrth gynnal ansawdd adeiladu cyson, sef y flaenoriaeth llwyr.

Dywedodd Mark Fifield, Cyfarwyddwr Ansawdd Grŵp, Glory Global Solutions: “Mae ein cysylltiad â RemakerSpace wedi gwella ein dealltwriaeth o'r economi gylchol yn sylweddol, ac yn enwedig argraffu 3D fel opsiwn potensial a realistig ar gyfer gweithgynhyrchu rhannau cynhyrchu. Bydd llai o ôl troed byd-eang a gwell effeithlonrwydd gyda gweithgynhyrchu lleol, yn helpu i leihau ein heffaith ar y blaned, ac o fudd i'n cwsmeriaid gyda dosbarthu rhannau dethol yn gyflym.”

Dywedodd yr Athro Mike Wilson, Is-lywydd Gweithredol DSV Solutions a Chyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Diwydiant PARC: “'Roedd DSV yn gallu cysylltu Glory â RemakerSpace trwy ei bartneriaeth hirdymor â Phrifysgol Caerdydd ac mae hon yn strategaeth annatod i wella cynaliadwyedd cadwyni cyflenwi ein cwsmeriaid.”

Rôl RemakerSpace oedd nodi deunyddiau, cydrannau a phrosesau addas a allai helpu'r cwmni i wreiddio argraffu 3D i ddod yn fusnes mwy cynaliadwy trwy leihau stocrestrau warws, costau cludo a gwastraff diangen.

Dywedodd yr Athro Aris Syntetos, Cyfarwyddwr PARC a RemakerSpace: “Mae argraffu 3D yn cynnig cyfle i fynd at broblemau gweithredol o safbwynt gwahanol. Mae'r 'prynu tro diwethaf '(rhagweld nifer y rhannau sbâr y mae angen i ni eu prynu, cyn i'w cynhyrchu gael ei stopio, i gefnogi bywyd rhai offer sy'n weddill) yn broblem anodd i'w datrys, yn ystadegol.

“Ond mae argraffu 3D yn cynnig cyfle i argraffu rhannau ar alw heb fod angen cadw stoc. Mae ein cydweithrediad â Glory eisoes wedi galluogi mewnwelediadau ffres a diddorol i ddod i'r amlwg. Rydym yn falch o gydweithio â sefydliad mor flaenllaw ac edrychwn ymlaen at weld y RemakerSpace yn cynnig hyd yn oed mwy o werth i'n partneriaid diwydiannol.”

Dywedodd yr Athro Mohamed Naim, Pennaeth Rheoli Logisteg a Gweithrediadau, Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae hwn yn barhad o hanes gwych ein cydweithwyr academaidd yn y maes hwn wrth ymgysylltu â'r gymuned fusnes i gefnogi cynaliadwyedd cwmnïau gweithgynhyrchu sy'n gweithredu yn y DU.”

Mae RemakerSpace, sy'n ymroddedig i alluogi'r economi gylchol, mae RemakerSpace yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau a darparwyr addysg i yrru'r economi gylchol yng Nghymru a thu hwnt.

Wedi'i leoli ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, mae RemakerSpace yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd i gynnig cyfuniad unigryw o offer gan gynnwys offer confensiynol hyd at yr argraffwyr 3D diweddaraf a chyfres delweddu.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.