Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau cychwynnol cam cyntaf treial clinigol sgitsoffrenia yn dod i ben yn llwyddiannus

19 Mehefin 2023

A female scientist in a lab undertaking an experiment

Mae triniaeth bosibl newydd ar gyfer sgitsoffrenia a ddatblygwyd gan Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd wedi llwyddo i gwblhau'r cam cyntaf (un dos esgynnol) o dreial clinigol Cam 1.

Modylydd alosterig positif o dderbynnydd yr AMPA yw’r cyffur - MDI-26478 - y tybir ei fod yn chwarae rhan allweddol yn iechyd yr ymennydd.

Mae dirywiad gwybyddol yn rhan greiddiol o sgitsoffrenia, ac mae triniaethau presennol yn methu â thrin hyn yn effeithiol. Mae tîm Prifysgol Caerdydd yn disgwyl i MDI-26478 wella perfformiad gwybyddol, gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar sgitsoffrenia.

Cafodd y cyffur ei ddatblygu gan dîm y Sefydliad, a charreg filltir bwysig yw’r astudiaeth hon, sef diwedd y daith ‘o’r labordy i erchwyn y gwely’.

Dyma a ddywedodd Dr Jennifer Swettenham, sydd wedi arwain y treial clinigol ar ran y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: "Rydyn ni wrth ein boddau bod MDI-26478 wedi cwblhau ein hastudiaethau cychwynnol a dangoswyd bod pob dos yn ddiogel. Rydyn ni’n canolbwyntio ar gwblhau gweddill yr astudiaeth

Dyma a ddywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd: "Dyma’r cam cyntaf yn y daith tuag at ddatblygu'r driniaeth hon. Ein gobaith yw ein bod wedi cychwyn cam cyffrous ymlaen yn y ffordd y byddwn ni’n trin sgitsoffrenia yn y dyfodol."

Mae’r prosiect hwn wedi dwyn ynghyd arbenigedd sy’n bodoli eisoes ym maes gofal iechyd a darganfod cyffuriau yn ne Cymru er mwyn cyflymu’r broses o ymchwilio i’r cyffur hwn. Cynhelir yr astudiaeth glinigol ym Merthyr Tudful, yn Uned Achrededig Cyfnod I MHRA Simbec-Orion.

Bydd astudiaethau niwroddelweddu’n mynd rhagddynt ar yr un pryd yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC). Yn ogystal â hynny, bydd The Science Behind, sef gwasanaeth ymchwil treialon clinigol yng Nghaerdydd, yn gwneud gwaith sgrinio a monitro niwroffisiolegol.

Wellcome sydd wedi ariannu’r ymchwil a’r astudiaeth glinigol. Simbec-Orion fydd yn recriwtio unigolion i gymryd rhan yn y treial.

Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yw'r prif grŵp darganfod cyffuriau mewn prifysgol yn Ewrop o ran clefydau’r system nerfol ganolog (CNS). Mae’n darganfod cyffuriau modern i wella’r ffordd y mae clefydau niwrolegol yn cael eu trin. Mae’r tîm, sy’n drachtio o ragoriaeth academaidd a chlinigol Prifysgol Caerdydd, yn cyfuno gwybodaeth arbenigol hynod o arbenigol â gwaith darganfod cyffuriau sydd o safon byd diwydiant. Ymhlith y gytser o brosiectau darganfod cyffuriau newydd sydd yn yr arfaeth y mae sgrinio cyffuriau’n gynnar a chynnal treialon clinigol dynol, a hynny ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r sefydliad yn cael ei arwain gan yr Athro Simon Ward a’r Athro John Atack.

Canolfan sy’n arwain y byd wrth fesur effeithiau ffarmacolegol â magnetoenceffalograffi (ffarmaco-MEG) a thechnoleg delweddu cyseiniant magnetig (MRI) yw Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd. Yn CUBRIC mae cyfleusterau sganio’r ymennydd o’r radd flaenaf, ac mae’n enwog yn rhyngwladol am fod yn arloesol ym maes dulliau niwroddelweddu ac arferion gorau.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.