Astex a Phrifysgol Caerdydd yn cyhoeddi partneriaeth ym maes darganfod cyffuriau
13 Chwefror 2023
Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau (“MDI”) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi partneriaeth ar y cyd ag Astex Pharmaceuticals (UK) (“Astex”), sef cwmni fferyllol sy'n darganfod ac yn datblygu therapiwteg moleciwlau bach newydd ym maes oncoleg a chlefydau'r system nerfol ganolog.
Mae'r prosiect ymchwil ar y cyd dros nifer o flynyddoedd i ddarganfod cyffuriau, ac sy’n werth miliynau o bunnoedd, yn dwyn ynghyd arbenigedd ymchwil blaenllaw Dr Emyr Lloyd-Evans a Dr Helen Waller-Evans ym maes bioleg lysosomaidd, galluoedd darganfod cyffuriau'r MDI a'r platfform darganfod cyffuriau sy'n seiliedig ar strwythurau yn Astex.
Dyma a ddywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag Astex mewn ffordd sy'n caniatáu i bob partner weithio yn ôl ei gryfderau unigol, gan greu tîm sy'n fwy na chyfanswm ei rannau. Mae hyn yn dilysu'r galluoedd gwyddonol a throsi rydyn ni wedi bod yn eu datblygu ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddarparu allbynnau a fydd hwyrach o fudd i gleifion y mae’r opsiynau triniaeth ar eu cyfer mor gyfyngedig ar hyn o bryd. Dyma enghraifft ardderchog o allu timau academaidd a diwydiannol sy’n gweithio ar y cyd i geisio datrys problemau meddygol sy’n anhydrin ar hyn o bryd.”
Bydd y tîm cyfunol yn canolbwyntio ar ddarganfod cyfansoddion sy'n modiwleiddio gweithgarwch lysosomaidd a bydd hyn yn helpu i ddatblygu triniaethau posibl newydd ar gyfer clefydau niwroddirywiol sydd ag angen meddygol uchel heb ei ddiwallu. Is-set o organynnau sy'n hanfodol ar gyfer swyddogaethau cellog yw lysosomau, ac mae mwtaniadau yn y genynnau sy'n amgodio proteinau lysosomaidd a phroteinau cysylltiedig yn gysylltiedig â nifer o glefydau niwroddirywiol nad oes triniaethau effeithiol ar eu cyfer ar hyn o bryd.
O dan delerau'r cytundeb, bydd gwyddonwyr yn y MDI ac Astex yn cydweithio i gynnal ymchwil darganfod cyffuriau yn unol â tharged lysosomaidd a ddewiswyd, a hynny gyda'r nod o adnabod a gwneud y gorau o gyfansoddion sy'n modiwleiddio ei weithgarwch. Bydd Prifysgol Caerdydd yn derbyn cyllid ymchwil a datblygu ymrwymedig ac mae'n gymwys i dderbyn taliadau datblygu a rheoleiddio os datblygir cyfansoddion cyffuriau a thaliadau breindal o ran gwerthiant cynnyrch cymeradwy. Nid yw manylion ariannol pellach yn cael eu datgelu.
Dyma a ddywedoddDr David Rees, FMedSci, FRSC, Prif Swyddog Gwyddonol Astex, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle hwn i weithio gyda Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd. Mae gan Astex draddodiad hir o gydweithio effeithiol rhwng y byd academaidd a byd diwydiant ac mae hyn, yn ein barn ni, yn hollbwysig i weddnewid gwyddoniaeth sylfaenol yn llwyddiannus. Nod y bartneriaeth hon yw cefnogi ymchwil arloesol sydd â'r gallu i drawsnewid bywydau cleifion â chlefydau niwroddirywiol.”