Ewch i’r prif gynnwys

Cyffur newydd ar gyfer sgitsoffrenia’n destun treial clinigol

27 Chwefror 2023

Professor Simon Ward

Bydd triniaeth newydd bosibl ar gyfer sgitsoffrenia, a ddatblygwyd gan Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd, yn destun treial clinigol ar gam cyntaf.

Mae’r cyffur, sef MDI-26478, wedi’i ddatblygu i dargedu derbynyddion penodol sy’n hollbwysig i iechyd yr ymennydd.

Mae dirywiad gwybyddol yn rhan graidd o sgitsoffrenia, ac mae triniaethau presennol yn methu â thrin hyn yn effeithiol. Mae tîm Prifysgol Caerdydd yn disgwyl i MDI-26478 wella perfformiad gwybyddol, a chanolbwynt ei sylw i ddechrau fydd sgitsoffrenia.

Cafodd y cyffur ei ddatblygu gan dîm y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, ac mae’r astudiaeth hon yn nodi carreg filltir bwysig, sef diwedd y daith ‘o’r labordy i erchwyn y gwely’.

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o gyflawniad tîm Prifysgol Caerdydd. Breuddwyd llawer o ymchwilwyr ym maes y gwyddorau bywyd yw sicrhau bod cyfansawdd yn destun astudiaethau clinigol ar ôl ei ddarganfod.

“Yn y DU, bydd angen ar oddeutu 1 ym mhob 6 o bobl driniaeth ar gyfer salwch meddwl yn ystod eu hoes. Cyflwr sy’n cael ei drin yn wael yw sgitsoffrenia, ac mae tua 1 ym mhob 100 o bobl yn cael episod o sgitsoffrenia. Y gobaith yw, unwaith y bydd y treialon wedi’u cwblhau, y bydd ein cyffur yn helpu cleifion i reoli’r episodau hyn ac yn cynnig triniaeth hollol newydd i’r gymuned hon o bobl nad ydynt wedi cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae cyffuriau datblygiadol yn destun nifer o brofion clinigol cyn iddynt fod ar gael i gleifion, ond y gobaith yw ein bod wedi hwyluso naid gyffrous ymlaen o ran sut y byddwn yn trin sgitsoffrenia yn y dyfodol.”

Mae’r prosiect hwn wedi dwyn ynghyd arbenigedd presennol mewn gofal iechyd a darganfod cyffuriau yn Ne Cymru er mwyn cyflymu’r broses o ymchwilio i’r cyffur hwn. Bydd yr astudiaeth glinigol yn mynd rhagddi ym Merthyr Tudful, a hynny yn uned Simbec-Orion sydd wedi sicrhau achrediad Cam I gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Bydd astudiaethau niwroddelweddu’n mynd rhagddynt ar yr un pryd yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC). Yn ogystal â hynny, bydd The Science Behind, sef gwasanaeth ymchwil treialon clinigol yng Nghaerdydd, yn gwneud gwaith sgrinio a monitro niwroffisiolegol.

Ychwanegodd yr Athro Simon Ward: “Mae’r prosiect hwn yn dangos, drwy ddod â rhagoriaeth academaidd a sefydliadau masnachol yn Ne Cymru ynghyd, ei bod yn bosibl i ddarganfyddiadau gwyddonol yn labordai’r Brifysgol gyrraedd y clinig, lle mae ganddynt y potensial i drawsnewid bywydau cleifion.”

Ymddiriedolaeth Wellcome sydd wedi ariannu’r ymchwil a’r astudiaeth glinigol.  Simbec-Orion fydd yn recriwtio unigolion i gymryd rhan yn y treial.

Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yw'r prif grŵp darganfod cyffuriau mewn prifysgol yn Ewrop ar gyfer clefydau’r system nerfol ganolog. Mae’n darganfod cyffuriau modern i wella sut mae clefydau niwrolegol yn cael eu trin. Mae’r tîm, sydd wedi’i drwytho yn rhagoriaeth academaidd a chlinigol y Brifysgol, yn cyfuno gwybodaeth arbenigol arbennig â gwaith darganfod cyffuriau o safon y diwydiant. Mae diben prosiectau darganfod cyffuriau newydd sydd yn yr arfaeth yn amrywio o sgrinio cyffuriau’n gynnar i gynnal treialon clinigol dynol, a hynny ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r sefydliad yn cael ei arwain gan yr Athro Simon Ward a’r Athro John Atack.

Mae CUBRIC yn ganolfan sy’n arwain y byd wrth fesur effeithiau ffarmacolegol â magnetoenceffalograffi (ffarmaco-MEG) a thechnoleg delweddu cyseiniant magnetig. Mae CUBRIC yn gartref i gyfleusterau sganio’r ymennydd o’r radd flaenaf, ac mae’n safle sy’n enwog yn rhyngwladol am arloesedd mewn perthynas â dulliau niwroddelweddu ac arfer gorau.

Rhannu’r stori hon