Ewch i’r prif gynnwys

SimplyDo yn ymuno â sbarc|spark

16 Mehefin 2022

Mae cwmni meddalwedd sy'n helpu sefydliadau i gydweithio'n fwy effeithiol wedi ymuno â chymuned sbarc|spark Prifysgol Caerdydd.

Mae SimplyDo yn cynnig platfform diogel y gellir ei ddefnyddio i ddal, blaenoriaethu a rhoi syniadau gwych ar waith o'r tu mewn a'r tu allan i sefydliad. Defnyddir y cynnyrch i sbarduno arloesedd ar draws sectorau megis gofal iechyd, plismona ac amddiffyn.

Mae ei fodel o ddefnyddio dealltwriaeth sy’n seiliedig ar ddata i wella perfformiad yn cyd-fynd yn agos â Innovations@sbarc Caerdydd, sy'n rhoi'r cymorth sydd ei angen ar bartneriaid y Brifysgol i wireddu syniadau gwych.

Dyma a ddywedodd Lee Sharma, Prif Swyddog Gweithredol, SimplyDo: "Mae sbarc|spark wrth galon Campws Arloesedd Caerdydd ac yn gartref i bobl arloesol sy'n troi syniadau gwych yn effaith. Felly yn naturiol mae hyn yn cyd-fynd yn dwt â'n nodau ein hunain. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o sbarc|spark sef canolbwynt ar gyfer partneriaethau gyda sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n gweithio gyda'r Brifysgol."

Dyma a ddywedodd Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Gweithrediadau arloesi sbarc|spark: "Rydyn ni’n falch iawn o groesawu SimplyDo i Innovations@sbarc yng Nghaerdydd. Mae gan y cwmni gysylltiadau cryf â'r Brifysgol drwy'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, sydd wedi cydweithio â ni ar brosiectau ar y cyd yn y gorffennol, ac mae wedi recriwtio ein graddedigion talentog.

"Drwy ymuno â Innovations@sbarc yng Nghaerdydd, bellach gall SimplyDo ddefnyddio ein cyfleusterau blaenllaw, gan gynnwys swyddfeydd, lleoedd cyfarfod anffurfiol, cyfleusterau cynadledda ac arddangos o’r radd flaenaf, gwasanaethau proffesiynol, labordai a lleoedd arloesi, yn ogystal â chaffi Milk&Sugar."

Mae gan Innovations@sbarc|spark, ym Mharc Maendy yng nghanol Caerdydd, ystod o gyfleusterau newydd sy'n helpu busnesau i dyfu, gan gynnwys:

  • 17,500 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa y gellir ei roi ar osod, ac mae’r opsiynau’n cynnwys rhwng 226 troedfedd sgwâr a 1163 troedfedd sgwâr
  • 4800 troedfedd sgwâr o le i gydweithio
  • 4240 troedfedd sgwâr o labordai gwlyb (gan gynnwys cypyrddau gwyntyllu unigol a chyffredin)
  • Desgiau poeth a lleoedd i gydweithio

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, cysylltwch â pearcer5@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon