Ewch i’r prif gynnwys

Complete University Guide 2022

9 Awst 2021

Main Building_BlueSky_GreenGrass

Mae Prifysgol Caerdydd wedi dringo pum safle ac yn parhau i fod y brifysgol orau yng Nghymru, yn ôl y rhestr ddiweddaraf gan y Complete University Guide 2022.

Mae'r Guide yn rhestru prifysgolion y DU yn genedlaethol ac mewn 70 o feysydd pwnc gwahanol, gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fesurau gan gynnwys profiad myfyrwyr a pherfformiad academaidd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn y 25ain safle yn rhestr y canllaw gan gyrraedd y brig yng Nghymru o ran chwe mesur: Safon yr Ymchwil, Rhagolygon Graddedigion - Deilliannau, Rhagolygon Graddedigion - Ar y Trywydd Iawn, Cymhareb Myfyrwyr-Staff, Cwblhau Gradd, a Safonau Mynediad.

Caerdydd ar y brig yn y DU mewn dau bwnc sef Cwnsela, Seicotherapi a Therapi Galwedigaethol, ac Optometreg, Offthalmoleg ac Orthopteg.

Mae’r Brifysgol wedi codi yn y canllaw mewn pynciau gan gynnwys Pensaernïaeth (codi un lle i 5ed ), Ffarmacoleg a Fferylliaeth (codi pedwar lle i 6ed ), Cynllunio Tref a Gwlad a Thirlunio (codi pedwar lle i 6ed) a Seicoleg, sydd wedi codi wyth lle i fod yn 7fed. Cododd safle Caerdydd mewn tri phwnc ar hugain.

Gosodwyd Caerdydd ymysg y deg uchaf mewn 13 pwnc gan gynnwys Astudiaethau Celtaidd ( 2il safle), Nyrsio ( 6ed safle ), Ffisiotherapi ( 8fed safle ), Technoleg Feddygol a Biobeirianneg ( 8fed safle), a Deintyddiaeth ( 9fed safle). Cododd Eidaleg wyth lle i’r 10fed safle a chododd Peirianneg Gyffredinol saith lle i’r 10fed safle.

Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Rwy’n falch ein bod wedi cadw ein statws fel y brifysgol fwyaf blaenllaw yng Nghymru a’n bod wedi codi pum safle ers y llynedd. Er gwaethaf yr heriau yr ydyn ni wedi'u hwynebu eleni, bu perfformiad a gwelliannau parhaus mewn sawl maes pwnc. Mae hyn yn dyst i ymrwymiad ac arbenigedd ein staff ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am eu hymdrechion.

“Fodd bynnag, er ei bod yn bwysig inni ddeall sut rydyn ni’n perfformio yn y tablau cynghrair, nid ydyn ni’n caniatáu inni ein hunain gael ein dylanwadu ganddyn nhw."

Rhannu’r stori hon