Ewch i’r prif gynnwys

Nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd gyda charreg filltir i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr

9 Hydref 2020

Centre for Student Life from the Main Building

Mae fideo newydd i nodi rhoi to ar Ganolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhithwir, yn dangos pa mor bell mae’r gwaith adeiladu ar yr adeilad hwn, fydd yn trawsnewid canolfan ddinesig Caerdydd, wedi dod.

Mae Canolfan newydd Bywyd y Myfyrwyr yn fwy nag ychwanegiad trawiadol at y brifddinas: Bydd yn chwyldroi profiad y myfyrwyr pan fydd yn agor yn 2021, gan gynnig cartref integredig ar gyfer gwasanaethau cefnogi a lles y Brifysgol. Bydd lles myfyrwyr wrth galon y campws.

Gyda phandemig byd-eang parhaus yn effeithio ar iechyd meddwl llawer o bobl, ac arolwg* NUS diweddar yn canfod mai dim ond 42% o’r ymatebwyr oedd yn teimlo’n dda am eu hunain, mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r diffyg hunan-barch ymhlith myfyrwyr a adroddwyd. Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cynnig amgylchedd newydd er mwyn i’r gwaith hwnnw barhau.

Meddai Luke Morgan, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd a Hyrwyddwr Lles: “Gall materion iechyd meddwl effeithio ar unrhyw fyfyriwr, unrhyw bryd, mewn nifer o ffyrdd. Oherwydd amrywiaeth problemau iechyd meddwl, mae’n rhaid i’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig fod yr un mor amrywiol. Fel Hyrwyddwyr Lles, rydym yma i gynnig empathi a chefnogaeth, gan fod llawer ohonom ni wedi bod drwy brofiadau tebyg."

Bydd Canolfan newydd Bywyd y Myfyrwyr yn ein galluogi i ymgysylltu â mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen ac mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Mae’n dangos angerdd pawb gymerodd ran dros iechyd meddwl ac yn galluogi i les fod yn garreg glo i fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Luke Morgan

Ochr yn ochr â’r adeiladu, mae buddsoddi mewn meddalwedd newydd wedi dechrau eisoes i wella’r gwasanaethau cefnogi myfyrwyr. Lansiwyd gwasanaeth newydd o’r enw Cyswllt Myfyrwyr dros yr haf. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i gael atebion i gwestiynau cyffredin ar-lein 24/7, a bydd ein tîm Cyswllt Myfyrwyr ar reng flaen Canolfan Bywyd y Myfyrwyr pan fydd yn agor. Bydd gwelliannau pellach i’r gwasanaeth hwn yn ei gwneud hi’n haws fyth i ofyn cwestiynau am wasanaethau cefnogi, a threfnu apwyntiadau gyda’r timau hynny fydd yn eu helpu i wneud y mwyaf o fywyd yn y Brifysgol.

Mae’r Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn goruchwylio darpariaeth Canolfan Bywyd y Myfyrwyr. Dywedodd: “Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cynrychioli ein hymrwymiad i roi lles ein myfyrwyr o flaen pob dim arall. Mae’r prosiect yn llawer mwy na’r adeilad ei hun sydd i’w weld yn trawsffurfio Plas y Parc. Bydd y bobl a’r systemau fydd yn gweithio yn yr adeilad yn cynnig cefnogaeth gysylltiedig, ymatebol a chlyfar ar gyfer taith y myfyriwr – i gyd o fewn amgylchedd cyfoes, diogel, cymdeithasol a hygyrch.”

Darlithfa newydd yn yr adeilad, wedi’i henwi ar ôl dyn busnes a dyngarwr o Gymru, Syr Stanley Thomas OBE, fydd un fwyaf Prifysgol Caerdydd, ac iddi 550 sedd, a bydd yn darparu man addysgu modern a phwrpasol. Bydd yr adeilad hefyd yn ychwanegu dros 600 o fannau astudio hyblyg dros bum llawr.

Meddai Syr Stanley Thomas: “Ymwelais i â safle Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ddiwethaf ym mis Ionawr, ac rwyf wrth fy modd yn gweld faint mae’r gwaith adeiladu wedi dod yn ei flaen ers hynny, er gwaethaf pandemig y coronafeirws. Gyda’r adeilad trawiadol hwn, mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymo i’w holl fyfyrwyr, gan roi eu lles wrth galon eu profiad yn y Brifysgol.”

Dywedodd Justin Price, Cyfarwyddwr Adeiladu BAM: “Mae BAM wedi ymrwymo i wella a chynnal lles ein pobl, gan gynnwys ein cadwyn gyflenwi, felly rydym yn cael boddhad arbennig drwy gefnogi Prifysgol Caerdydd i greu'r adeilad chwyldroadol hwn sy'n gosod lles myfyrwyr wrth galon y campws.”

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cael ei hadeiladu gan BAM mewn partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’r gwaith adeiladu i fod i’w orffen yr haf nesaf.

https://youtu.be/Rflf8Mt7YPk

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.