Ewch i’r prif gynnwys

System gyfrifiadura ar gyfer dadansoddi dilyniannau COVID-19 yn ennill gwobr flaenllaw

17 Tachwedd 2020

CLIMB sequencing

Mae system gyfrifiadura ar gyfer dadansoddi dilyniannau COVID-19 wedi ennill gwobr flaenllaw.

Cafodd y prosiect Seilwaith Cwmwl ar gyfer Biowybodeg Microbaidd (CLIMB) ei gydnabod gan Wobrau Dewis Darllenwyr a Golygyddion HPCwire 2020.

Derbyniodd wobr y Darllenwyr am y prosiect cydweithredol gorau mewn Cyfrifiadura perfformiad uchel am ei rôl mewn cefnogi Consortiwm Genomeg COVID-19 y DU (COG-UK).

Mae’r consortiwm yn bartneriaeth ar draws y DU sy’n gweithio i ddilyniannu genomau feirws SARS-CoV-2 i ddeall sut mae’r feirws yn lledaenu ac i gynghori strategaethau rheoli lleol a chenedlaethol. Mae CLIMB wedi chwarae rhan hanfodol yn hyn, gan ddarparu'r seilwaith cyfrifiadurol a’r gallu dadansoddi biowybodeg sydd hyd yma wedi helpu i ddilyniannu mwy na 100,000 o enynnau firysau.

Lansiwyd CLIMB yn 2014 gyda grant gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i ddiwallu anghenion microbiolegwyr meddygol sy’n ymdrin â'r symiau enfawr o ddata sydd ynghlwm wrth genomeg. Mae'n seilwaith cyfrifiadurol agored ar gwmwl ar gyfer datblygu a rhannu setiau data a meddalwedd, offer a dulliau biowybodeg i ddehongli "data mawr".

Mae'n bartneriaeth rhwng Prifysgolion Caerdydd, Caerfaddon, Birmingham, Caerlŷr, Abertawe a Warwick, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain ac adran Biowyddoniaeth Sefydliad Quadram.

Dr Thomas Connor
Professor Tom Connor

Dywedodd Yr Athro Tom Connor o Brifysgol Caerdydd a phensaer technegol CLIMB: “Pan wnaethom sefydlu CLIMB y syniad oedd y byddai’n lle arloesol ar gyfer dod â data ac ymchwilwyr ynghyd i frwydro yn erbyn clefydau heintus.

"Gyda COVID-19, mae CLIMB wedi profi ei werth, gan roi'r platfform i ni allu datblygu a graddio seilwaith dadansoddi yn gyflym i gefnogi ymateb pandemig COVID-19.

“Mae CLIMB COVID wedi cael effaith enfawr, o gefnogi dadansoddiad yr achosion yn ein ysbytai i ddarparu dadansoddiadau sy’n llywio polisïau’r llywodraeth. Mae effaith CLIMB a’r wobr hon yn dyst i waith caled y tîm a gweledigaeth ehangach prosiectau CLIMB a CLIMB-BIG-DATA."

Sefydlodd CLIMB ei hun fel gallu cenedlaethol i ficrobiolegwyr, gyda chymuned o fwy na 900 o ddefnyddwyr mewn prifysgolion, sefydliadau ymchwil a sefydliadau iechyd cyhoeddus ledled y DU. Ar ddechrau 2020, dyfarnodd UKRI £2m ar gyfer y prosiect dilynol, CLIMB-BIG-DATA – ac roedd hyn yn golygu bod y seilwaith yn barod ac yn gallu cefnogi'r ymateb i bandemig byd-eang COVID-19.

Dywedodd Dr Ewan Harrison, o Sefydliad Wellcome Sanger a Phrifysgol Caergrawnt, a Chyfarwyddwr Strategaeth COG-UK, fod CLIMB-COVID wedi bod “yn un o’r prif resymau dros lwyddiant ymdrechion COG-UK”.

Mae HPCwire yn adnodd newyddion a gwybodaeth sy’n cyflenwi’r cyfrifiaduron cyflymaf yn y byd a’r bobl sy’n eu rhedeg. Ceir rhestr lawn o enillwyr gwobrau 2020 yma.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil