Ewch i’r prif gynnwys

Recriwtio gyda gweledigaeth 20/20

30 Ionawr 2020

Group of people sat in lecture space

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn cyn pandemig COVID-19.

Mae Gweithwyr Proffesiynol Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd o Brifysgol Caerdydd wedi arwain sesiwn ryngweithiol ar y gweithlu graddedigion yn y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd.

Ar ôl cyflwyno'r panel o siaradwyr, agorodd Megan Jenkins, Dirprwy Bennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd, y digwyddiad gyda phleidlais fyw a oedd yn gofyn i’r rhai a oedd yn bresennol asesu sgiliau myfyriwr graddedig nodweddiadol.

Esboniodd y byddai'r data hwn yn cael ei ddefnyddio'n ddiweddarach yn y cyflwyniad.

Yn dilyn cyflwyniad Megan, rhannodd Llinos Carpenter, Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, gyfres o fewnwelediadau ystadegol i'r farchnad lafur i raddedigion.

Chwalu’r chwedlau

Young woman presents in lecture space

Esboniodd fod llawer o dybiaethau am y farchnad lafur i raddedigion yn y DU, a'r hyn y mae graddedigion yn ei wneud pan fyddant yn gadael y brifysgol.

Meddai: “Un o'r tybiaethau mawr hynny yw bod myfyrwyr yn gadael y brifysgol 'en masse' ac yn teithio i Lundain lle mae'r holl swyddi. Er gwaethaf y rhethreg hon bod yr holl gyfleoedd lefel graddedig wedi'u crynhoi ym mhrifddinas Lloegr, y realiti yw nad yw'r rhan fwyaf o raddedigion ac, yn wir, y rhan fwyaf o bobl byth yn gweithio yn Llundain.”

Gyda data ategol a gasglwyd o ddadansoddiad Dr Charlie Ball o arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (HESA) 2016-17, aeth Llinos ymlaen i chwalu camsyniadau eraill gan gynnwys bod graddedigion dim ond eisiau gweithio i fusnesau mawr, yn hytrach na mwynhau'r cyfleoedd sydd ar gael mewn busnesau bach a chanolig.

Ar ôl chwalu’r chwedlau hyn, canolbwyntiodd Llinos ar y farchnad lafur i raddedigion yn Ne Cymru gan amlinellu nifer y graddedigion sydd naill ai'n aros yn yr ardal ar ôl bod yn y brifysgol neu'n teithio i'r rhanbarth o fannau eraill, cyflogau cyfartalog graddedigion fesul sector a'r math o waith sydd ar gael i raddedigion.

“Yr hyn rwy'n gobeithio eich bod yn dechrau ei gydnabod, yw bod cronfa dalent enfawr ar garreg eich drws a all dyfu a diogelu eich busnes yn y dyfodol. Mae’r boblogaeth amrywiol a thalentog o fyfyrwyr sydd yma ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o’r rhai y mae cyflogwyr o'r radd flaenaf yn chwilio amdanynt fwyaf.”

Llinos Carpenter Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr ym Mhrifysgol Caerdydd

Daeth ei chyflwyniad i ben drwy amlinellu rhai o nodweddion a dyheadau'r graddedigion cyfoes, neu’r 'Genhedlaeth Z' fel y cyfeirir atynt erbyn hyn.

Yn dilyn cyflwyniad Llinos, symudodd Kirsty McCaig, Rheolwr Profiad Gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd, ffocws y sesiwn hysbysu i'r gwahanol gyfleoedd allgyrsiol sydd ar gael i fyfyrwyr.

Fel Llinos, soniodd Kirsty am rai o'r camsyniadau ynghylch profiad gwaith myfyrwyr, gan gynnwys swyddi di-dâl ac ymgeiswyr sydd heb gymhelliant.

Y bwlch sgiliau

Young woman presents in lecture space

Ar y pwynt hwn yn ei chyflwyniad, cymharodd Kirsty ymatebion y gynulleidfa i'r bleidlais fyw ar ddechrau'r sesiwn hysbysu gyda data gan y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr(ISE).

Meddai: “Os edrychwn ar eich ymatebion chi, maen nhw wedi dilyn patrwm tebyg i ymatebion ISE. A hynny oherwydd bod pethau fel gwydnwch, rheoli amser, datrys problemau a gwaith tîm i gyd yn sgorio'n eithaf uchel fel sgiliau y byddech yn disgwyl i raddedigion eu cael...”

“Er bod rhinweddau fel delio â gwrthdaro a chyfathrebu sy'n briodol i fusnesau yn is oherwydd efallai na fyddant yn dysgu'r rhain yn y brifysgol. Y ffordd y gallant ennill y sgiliau hyn, a bod yn raddedigion sy'n barod i weithio, yw drwy wneud rhywfaint o brofiad gwaith a dysgu ochr yn ochr â'u hastudiaethau academaidd.”

Kirsty McCaig Rheolwr Profiad Gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd

Daeth Kirsty â’i chyflwyniad i ben drwy rannu rhai llwyddiannau ar y gweill o ran talent sy'n gysylltiedig â Chynllun Interniaeth Santander Prifysgol Caerdydd. Rhannodd adnoddau a chysylltiadau gan Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol, GO Wales, Ysgol Busnes Caerdydd a'r Academi Feddalwedd Genedlaethol gyda’r rheiny a oedd yn bresennol yn y sesiwn hysbysu, a'u hannog i gysylltu i siarad am weithredu'r mathau hyn o gyfleoedd profiad gwaith yn eu sefydliadau nhw.

Gan nodi pwynt olaf Kirsty, rhannodd Elisabeth Rilatt a Ceryn Lawless eu profiadau o bartneriaeth cyflogwr Escentual â Phrifysgol Caerdydd.

Cyflogwr o ddewis

Two young women present in lecture space

Ar ôl cyflwyno eu rolau yn gweithio fel Gweithwyr Cyfathrebu Proffesiynol yn un o e-fanwerthwyr harddwch hynaf y DU, fe wnaeth Ceryn olrhain y berthynas yn ôl i hysbyseb a osododd y sefydliad ar fwrdd swyddi'r Brifysgol.

“Daeth yn eithaf amlwg ein bod yn colli allan ar y boblogaeth myfyrwyr yma yng Nghaerdydd yn ogystal â staff a rhanddeiliaid allweddol eraill.”

Ceryn Lawless Escentual

Cyn bo hir, daeth Escentual yn gyflogwr o ddewis i fyfyrwyr a graddedigion Caerdydd, gan ddod i ffeiriau gyrfaoedd, cynnal gweithdai i fyfyrwyr a chyfleoedd profiad gwaith yn dilyn eu digwyddiad 'y tu ôl i'r llen'.

Meddai Ceryn: “Roedd y digwyddiad tu ôl i'r llen yn llwyddiant ysgubol. Ac o ganlyniad mae gennym ni lawer iawn o fyfyrwyr yn gofyn am gyfleoedd graddedig gydag Escentual, sydd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o’n brand.

“Elfen gadarnhaol arall oedd yr effaith a gafodd ar ein gweithwyr. Roedd yn gyfle i'n rheolwyr a'n timau ddod ynghyd a gweiddi mewn balchder am yr hyn sydd gennym i'w gynnig a'r pethau rydym ni’n eu gwneud i wthio'r ffiniau yn y farchnad fanwerthu ar-lein.”

Daeth Elisabeth â'r sesiwn i ben drwy rannu dwy ffilm a oedd yn arddangos myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Katie Goddard a Lily Cai, a ymunodd â'r cwmni o ganlyniad i'r bartneriaeth cyflogwr.

Dysgwch ragor am Wasanaethau Gyrfa a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd i fyfyrwyr ac i sefydliadau.

Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which we will support you career aspirations.