Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr ymchwil yn creu ‘geiriadur bach’ o dermau Cymraeg newydd wrth gynnal ymchwil arloesol

17 Gorffennaf 2020

Bedwyr Ab Ion Thomas
Bedwyr Ab Ion Thomas

Mae myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd nid yn unig yn arwain y ffordd o ran ei ymchwil wyddonol - mae hefyd yn troedio tir newydd yn yr iaith Gymraeg.

Mae Bedwyr Ab Ion Thomas yn cynnal ei ymchwil i glefydau angheuol yn gyfan gwbl yn Gymraeg - ac weithiau mae hyn yn golygu creu geiriau Cymraeg newydd sbon.

“Mae’n hollol naturiol i mi fod yn astudio ac yn ymchwilio yn fy mamiaith - ond mae yna heriau ychwanegol,” meddai.

“Mae’r unig derminoleg - neu hyd yn oed jargon - sy'n bodoli ar gyfer rhai o'r meysydd gwyddonol rydw i'n edrych arnyn nhw yn Saesneg  neu Ladin felly mae'n rhaid i mi fathu fy ngeiriau fy hun yn Gymraeg. Fy nod yw cael geiriadur bach gyda thermau newydd i’w hychwanegu at y Gymraeg erbyn diwedd fy PhD.”

Mae Bedwyr, 23, o Gaerdydd, yn credu ei fod ymhlith “llond llaw” o fyfyrwyr ledled Cymru sy’n cyflawni eu PhDs gwyddonol yn Gymraeg ar hyn o bryd. Ariennir ei brosiect ymchwil yn rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Siaradodd am ei brofiadau wrth i Brifysgol Caerdydd baratoi i gynnal diwrnod agored ôl-raddedig rhithwir ar gyfer darpar fyfyrwyr heddiw.

I Bedwyr, mae gallu cynnal ei ymchwil yn Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau’r Brifysgol yn Gymraeg yn hanfodol - ac mae’n gobeithio y bydd myfyrwyr eraill yn dilyn yr un trywydd.

“Mae'n gyfle hyfyw, gwerthfawr a chyffrous i unrhyw un. Dylai gallu byw, astudio a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru fod yn norm a fy ngobaith yw y bydd llawer o bobl eraill hefyd yn gweld hyn fel dechrau gwych i’w gyrfa,” meddai cyn ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.

Astudiodd Bedwyr Cemeg ym Mhrifysgol Rhydychen, a dechreuodd ei PhD mewn Cemeg Feddyginiaethol y llynedd.

Mae'n ceisio datblygu therapïau ar gyfer trin clefydau prion prin, sy'n glefydau niwro-ddirywiol trosglwyddadwy sydd bob amser yn angheuol. Maent yn cynnwys Mad Cow Disease, Kuru a chlefyd Creutzfeldt-Jakob.

Yn wahanol i'r ffordd y mae afiechydon fel arfer yn cael eu lledaenu trwy barasitiaid, bacteria a firysau, mae afiechydon prion yn deillio o gamblygu'r protein prion ei hun sydd eisoes yn bresennol yn ein cyrff.

“Ar hyn o bryd does dim triniaeth i’r rhai sy’n dioddef o’r mathau hyn o afiechydon,” meddai.

“Rwy’n defnyddio cemeg gyfrifiadurol a synthetig i dargedu proteinau prion yn y gobaith y bydd hyn yn arwain at greu therapïau llwyddiannus yn y dyfodol.”

Mae Bedwyr hefyd yn torri tir newydd yn yr iaith Gymraeg - a dyma lle mae'n mynd ychydig yn fwy cymhleth.

“Mae agwedd ddiddorol a braidd yn anarferol ar fy ymchwil yn cynnwys bathu geiriau newydd a mireinio termau gwyddonol yn Gymraeg,” meddai.

“Er enghraifft, ‘poced feindio’ mewn protein fydda’r man lle mae’r cyffur yn beindio. Ar hyn o bryd, nid oes cytundeb ynglŷn â pha air ddylai gael ei ddefnyddio’n swyddogol i ddisgrifio hyn yn Gymraeg. Rydw i’n defnyddio ‘poced feindio’, ond mae modd defnyddio nifer o eiriau eraill i gyfleu hyn: twll, safle yn lle poced, neu rwymo, clymu yn lle beindio.

Mae’r anghysondebau hyn yn pwysleisio’r angen i safoni termau gwyddonol yn Gymraeg er mwyn osgoi dryswch. Gobeithiaf hefyd y gallaf gyfrannu nid yn unig at wyddoniaeth ond hefyd at yr iaith Gymraeg - mae hynny’n eithaf cyffrous.

Bedwyr Ab Ion Thomas

Mae Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, yr Athro Simon Ward, hefyd yn siaradwr Cymraeg ac yn angerddol am ddefnyddio'r iaith mewn gwaith academaidd.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni ddangos, os ydych chi am astudio neu ymchwilio i unrhyw bwnc yn Gymraeg, gallwch ei wneud. Does dim rhaid i chi fod yn astudio barddoniaeth Gymraeg yn yr Oesoedd Canol - gallwch chi hefyd wneud ymchwil wyddonol flaengar,” meddai.

“Mae’n bwysig i ni ymrwymo i’r Gymraeg fel rhan o’n hymchwil a’i defnyddio yn y darganfyddiadau a wnawn.

“Rydym yn hynod falch o roi Cymru wrth wraidd arloesedd meddygol a’r Gymraeg wrth galon ein hymchwil.”

Dywedodd Dr Dylan Phillips, uwch reolwr academaidd yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r Coleg yn credu’n gryf yn yr angen i ddatblygu arbenigedd cyfrwng Cymraeg yn y gwyddorau. Mae 60 o’r 150 o PhDs a noddwyd gan y Coleg dros y degawd diwethaf wedi bod yn y gwyddorau.

“Mae’r Coleg yn gweithio’n agos gyda’r prifysgolion ar draws Cymru i sicrhau fod modd i fyfyrwyr astudio ystod eang iawn o bynciau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y pynciau gwyddonol ac mae meithrin a chefnogi unigolion talentog fel Bedwyr ar hyd llwybr PhD yn ffordd o ddatblygu arbenigedd yn y pynciau hyn gan greu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a darlithwyr cyfrwng Cymraeg.”

Mae'r Coleg newydd gyhoeddi PhD arall wedi’i hariannu’n llawn mewn cemeg feddyginiaethol yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, yn edrych ar ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau echddygol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais yma.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil