Ewch i’r prif gynnwys

Ehangu’r ddarpariaeth ôl-raddedig â llwybrau newydd

17 Chwefror 2019

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi creu llwybrau MPhil a PhD newydd sy’n derbyn ceisiadau ar gyfer 2020.

Mae’r rhaglenni  Iaith, Polisi a Chynllunio yn seiliedig ar arbenigedd cymuned academaidd yr Ysgol, sydd ag enw da rhyngwladol am ragoriaeth ac effaith ei hymchwil ym meysydd iaith ac ieithyddiaeth.

Bydd yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio yn arwain ar y rhaglenni newydd.  Mae ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yr Uned yn gweithio ar brosiectau sy’n ymwneud â pholisïau a chynllunio ieithyddol, hawliau a gwleidyddiaeth ieithyddol, amrywio a newid ieithyddol, sosioieithyddiaeth dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, a chymdeithaseg iaith. Mae’r arbenigedd hwn hefyd yn llywio ein darpariaeth, gan gynnwys modiwlau israddedig ar bynciau megis sosioieithyddiaeth a dwyieithrwydd ynghyd â darpariaeth lefel Meistr.

Dywedodd Dr Jonathan Morris, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol: “Mae’r Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio wedi denu nifer o fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n gweithio ar agweddau sosioieithyddol ar y Gymraeg ac ieithoedd eraill. Rydym yn falch ein bod yn gallu ffurfioli’r ddarpariaeth er mwyn cynnig llwybr penodol sy’n ystyried y pwnc amlweddog a phwysig hwn ar lefelau MPhil a PhD.”

Ychwanegodd yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol: "Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr PhD hwn yn cael y cyfle i fod yn rhan o gymuned o ymchwilwyr blaenllaw, gan greu gwaith fydd â'r potensial i gael effaith ar gyfraith iaith a pholisi cyhoeddus yng Nghymru neu yn rhyngwladol."

Rhagor am raglenni MPhil a PhD Ysgol y Gymraeg.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.