Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect mentora iaith yn mynd o nerth i nerth

3 March 2020

Modern languages mentoring group
Modern languages mentoring group

Mae menter fentora a ddyluniwyd i gynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio ieithoedd ar gyfer TGAU yn cael ei hehangu ar ôl rhagbrawf llwyddiannus yn Lloegr.

Mae Cynllun Mentora Gorwelion Iaith, dan arweiniad Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, wedi ennill grant £430,000 gan yr Adran Addysg, gyda phosibilrwydd o ehangiad gwerth £1.5 miliwn, yn amodol ar gymeradwyaeth gan weinidogion ar ôl gweld canlyniadau’r cam cyntaf.

Mae myfyrwyr o gyrsiau iaith a phobl eraill o brifysgolion partner wedi’u hyfforddi i gyflwyno sesiynau wyneb-yn-wyneb a digidol i ddisgyblion blwyddyn wyth a naw, gyda’r nod o’u helpu i ystyried y cyfleoedd all dysgu iaith eu cynnig. Mae gwaith ymgysylltu digidol yn cael ei gynnal drwy blatfform ar-lein newydd sydd wedi’i ddatblygu gan asiantaeth yn ne Cymru, Tinint.

Yn ystod peilot diweddar o’r cynllun yn Ne Swydd Efrog oedd yn cynnwys 10 ysgol, aeth 53% o ddisgyblion a gymerodd ran yn y cynllun ymlaen i ddewis iaith dramor fodern ar lefel TGAU. Roedd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr a gymerodd ran yn dweud bod y cwrs yn dda iawn ac wedi newid y ffordd y maent yn meddwl am ieithoedd a’u bywydau yn y dyfodol.

Dechreuwyd cynllun tebyg yn 2015 yng Nghymru, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Yno, mae ysgolion partner wedi adrodd bod nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd ar gyfer TGAU wedi dyblu.

Meddai’r Arweinydd Academaidd, yr Athro Claire Gorrara: “Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno cam nesaf ein cynllun mentora tra llwyddiannus. Mae ein peilot yn Lloegr, yn ogystal â’r gwaith yr ydym wedi’i wneud yng Nghymru, wedi dangos y gall y dull hwn gael effaith gadarnhaol ar agweddau pobl ifanc tuag at amlieithrwydd.

Mae dysgu iaith yn hybu hyder, yn ehangu gwybodaeth am ddiwylliannau gwahanol ac yn rhoi syniad gwell i bobl ifanc ynghylch pa ddewisiadau personol a phroffesiynol sydd ar gael iddynt. Ar adeg pan mae niferoedd pryderus o isel yn dewis cymwysterau ieithoedd, mae’n hanfodol bod prifysgolion ac ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn gwrthdroi’r tueddiad hwn.

Yr Athro Claire Gorrara Head of School and Professor of French Studies

Yn ystod cyfnod un y prosiect sy’n dechrau’r mis hwn, mae mentoriaid myfyrwyr o Brifysgol Sheffield a Phrifysgol Sheffield Hallam yn gweithio gydag ysgolion o Dde Swydd Efrog, tra bydd mentoriaid myfyrwyr o Brifysgol Warwick a Phrifysgol Coventry yn gweithio gydag ysgolion yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y prosiect yn ymgysylltu â thua 40 o ysgolion, 80 o fentoriaid a 1,000 o ddisgyblion yn y rhanbarthau hyn.

Yn amodol ar gymeradwyaeth yr Adran Addysg ar gyfer yr ail gam, bydd y model ac iddi ddwy ganolfan yng ngorllewin canolbarth Lloegr a De Swydd Efrog yn cael ei ehangu ymhellach. Nod y cam nesaf fydd ymgysylltu â thua 130 o ysgolion, 250 o fentoriaid a 6,000 o ddisgyblion. Bydd y prosiect yn gweithio gyda’r Cyngor Prydeinig yn ystod y cyfnod ehangu hwn.

Dywedodd Gweinidog Safonau Ysgolion Nick Gibb: “Mae astudio iaith dramor yn helpu i ehangu gorwelion pobl ifanc a hybu eu huchelgeisiau. Mae potensial mawr i’r prosiect hwn, sy’n ysbrydoli pobl ifanc i feddwl yn wahanol am werth ieithoedd, lenwi disgyblion â brwdfrydedd a chymhelliant.

“Rydym wedi cymryd camau i atal y gostyngiad yn y nifer sy’n dysgu ieithoedd ers i ieithoedd ddod yn ddewisol ar lefel TGAU yn 2004. Cynyddodd cyfran y plant sy’n dewis iaith ar lefel TGAU o 40% yn 2010 i 46% yn 2018 – ac rydym yn benderfynol o weld hyn yn cynyddu ymhellach.

Mae’r rhaglen mentora ieithoedd sy’n cael ei pheilota gan Brifysgol Caerdydd yn ffordd gyffrous o ysbrydoli pobl ifanc i ystyried dewis iaith ar lefel TGAU a newid agweddau at werth ieithoedd ymysg disgyblion ac ysgolion.

Nick Gibb

Dywedodd Mentor o Brifysgol Sheffield, Maddy Blatherwick-Plumb, a gymerodd ran yn yr astudiaeth beilot: “Nid yn unig mae mentora ar gyfer Gorwelion Iaith wedi fy ngalluogi i herio canfyddiadau pobl ifanc am werth ieithoedd, fe heriodd fy nghanfyddiadau fy hun hefyd ac ehangodd fy ngalluoedd personol drwy fy nhynnu y tu allan i’m ffiniau cyfforddus i mewn i sefyllfa gwbl newydd. Yn bwysicaf oll, mae cymryd rhan yn y cynllun wedi ailennyn fy angerdd dros ieithoedd ac wedi fy atgoffa bod cymaint mwy iddynt na geirfa a gramadeg – maent yn borth i ddiwylliant arall a hunaniaeth arall.”

Dywedodd Neve Coward, sydd hefyd yn fentor o Brifysgol Sheffield: “Fy hoff sylw gan un disgybl oedd, ‘gydag ieithoedd, gallwch chi newid y byd os ydych chi am geisio gwneud hynny’.”

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.