Ewch i’r prif gynnwys

Cyfle i fyfyrwyr ieithoedd i ddysgu am ddiwylliannau newydd a chynnal eu sgiliau yn ystod y cyfyngiadau symud

7 Mai 2020

Teenager learning at home on laptop stock image
Bydd disgyblion ieithoedd Blwyddyn 13 yn gallu cael mynediad at ddysgu o bell rhyngweithiol, yn rhan o fenter dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Mewn ymateb i'r cyfyngiadau Covid-19, mae academyddion sy'n gweithio ar fenter Prosiect Mentora Disgyblion Ieithoedd Tramor Modern Llywodraeth Cymru wedi creu rhaglen o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai fydd yn cael eu cynnal ar-lein. Mae'r sesiynau, sy'n cael eu cynnig yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar gyfer disgyblion ieithoedd sy'n bwriadu parhau i astudio ieithoedd yn y Brifysgol.

Mae darlithwyr a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor hefyd ynghlwm wrth y prosiect.

Dywedodd Claire Gorrara, Athro Ffrangeg yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd: "Mae Covid-19 wedi effeithio ar ddysgu yn yr ystafell ddosbarth i fyfyrwyr sydd ar fin cwblhau eu Lefelau A. Mae dysgu o bell mewn unrhyw bwnc yn heriol, ond mae risg wirioneddol i'r rheiny sy'n astudio ieithoedd o golli hyder a sgiliau, gan ei bod hi'n anos ymarfer ac adeiladu sgiliau ieithyddol yn unigol.

"Nid yw'n gyfrinach bod gostyngiad yn nifer y bobl sy'n dewis astudio iaith ar lefel TGAU ac uwch yn y DU. Dyna pam rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod disgyblion sydd am ddechrau gradd sydd ag elfen ieithyddol y flwyddyn academaidd nesaf yn cael y gefnogaeth a'r dechrau gorau posibl."

Dywedodd Lucy Jenkins, sydd hefyd yn aelod staff ym Mhrifysgol Caerdydd ac sy'n cydlynu'r rhaglen 11 wythnos: "Mae gallu rhyngweithio ag eraill yn un o'r pethau gorau am astudio iaith. Gyda lwc, bydd ein sesiynau'n hybu brwdfrydedd disgyblion at ddysgu, ac yn rhoi blas iddynt o beth i'w ddisgwyl pan fyddant yn dechrau yn y Brifysgol ym mis Medi."

Amy Cutler, myfyriwr israddedig Sbaeneg a Llenyddiaeth Saesneg yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd, yw un o’r mentoriaid yn y prosiect. Meddai: “Rwy’n meddwI bydd y prosiect hwn o fudd mawr i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n siŵr beth i’w ddisgwyl yn eu dosbarthiadau ym mis Medi. Mae’r Brifysgol eisoes yn gam mawr newydd i gynifer o fyfyrwyr, felly medraf ddychmygu y bydd rhai’n poeni am addasu i ffordd newydd o ddysgu.

“Mae dysgu iaith mewn ysgolion yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ramadeg a strwythur brawddegau ac amseroedd, a gall mynd ati i gael dosbarthiadau am ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth fod yn newid mawr. Heb os, bydd y prosiect hwn yn cyflwyno’r syniad i fyfyrwyr bod mwy i ddysgu iaith na rhedeg berfau, a bydd yn eu helpu i addasu o seminarau sy’n seiliedig ar sgyrsiau wrth eu pwysau eu hunain, yn barod ar gyfer mis Medi.”

Bydd y prosiect yn aml-ieithog ei naws ac felly'n agored i bob myfyriwr ni waeth beth yw'r iaith y maent yn ei hastudio. Mae'n cefnogi'r broses o astudio diwylliant ac iaith gwledydd eraill.

Bob wythnos byddwn yn gweithio ar thema wahanol, gan gynnwys cerddoriaeth, nofelau graffeg, sinema, astudiaethau cyfieithu a gwleidyddiaeth. Bydd yn cynnwys tair elfen gydgysylltiedig:

  1. Gweithdy/eitem i'w baratoi - dan arweiniad eich hun ond wedi'i ryddhau ar adeg benodol. Gwaith paratoi gofynnol ar gyfer y seminar yn nes ymlaen yn yr wythnos;
  2. Darlith – rhyngweithiol neu wedi'i recordio ymlaen llaw
  3. Seminar dan arweiniad academydd neu fyfyriwr-mentor – disgyblion yn cofrestru ar adeg benodol sy'n adeiladu ar y ddarlith a'r gwaith paratoi.

Bydd dosbarthiadau sgwrsio i safon Lefel A ar gael yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg dan arweiniad mentoriaid ac aelodau o staff Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd. Bydd y sesiynau blasu yn cynnwys ieithoedd eraill fel Eidaleg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Cymraeg, Catalaneg ac Arabeg.

Bydd pob sesiwn yn cael cefnogaeth gan fentoriaid cymwys o'r Prosiect Mentora Disgyblion Ieithoedd Tramor Modern, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r holl fentoriaid yn fyfyrwyr ieithoedd sydd yn y brifysgol ar hyn o bryd, neu'n gyn-fyfyrwyr ieithoedd.

Yn ogystal, bydd gan bob disgybl Blwyddyn 13 fynediad at becyn cymorth sy'n cynnwys amryw weithgareddau i'w cyflawni'n annibynnol. Bydd y rhain yn amrywio o ran lefel anhawster, er mwyn cynrychioli'r lefelau gwahanol yn y grwpiau. Byddant yn bennaf yn seiliedig ar brosiectau.

Geld yr amserlen lawn yma.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.