Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn galw am ymchwil frys i botensial cegolch i leihau trosglwyddiadau o SARS-CoV-2

13 May 2020

Person pouring mouthwash

Mae grŵp o wyddonwyr wedi galw am ymchwil frys i a allai cegolchion hawdd eu cael fod yn effeithiol wrth leihau trosglwyddiadau o SARS-CoV-2.

Cynhaliodd y grŵp adolygiad o ymchwil wyddonol i’r maes hwn, a gyhoeddwyd heddiw yng nghyfnodolyn Function, i asesu a allai cegolch leihau trosglwyddiadau ar gamau cynnar yr haint.

Mae’r ymchwilwyr o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, ynghyd â Phrifysgolion Nottingham, Colorado, Ottawa, Barcelona a Sefydliad Babraham Caergrawnt, yn cynnwys firolegwyr ac arbenigwyr o feysydd lipidau, microb-leiddiaid a gofal iechyd, tra bod partneriaid y diwydiant wedi cynnig gwybodaeth fformwleiddiad byd-eang. Arweiniodd yr Athro Valerie O'Donnell yr adolygiad, a chafodd ei gwneud yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Meddygol ddydd Mercher.

Mae SARS-CoV-2 yn feirws wedi’i amgáu mewn pilen frasterog (lipid) allanol - ond dywedodd yr ymchwilwyr “na fu trafodaeth” hyd yn hyn am rôl bosibl difa’r bilen hon fel ffordd bosibl o analluogi’r feirws yn y gwddf.

Dywedodd fod astudiaethau blaenorol wedi dangos y gallai cyfryngau cyffredin mewn cegolchion, fel crynodiadau isel o ethanol, povidone-iodine a cetylpyridinium, amharu ar bilenni lipid sawl feirws sydd wedi’u hamgáu ganddynt. Nid ydym yn gwybod a allai hyn fod yn berthnasol i’r coronafeirws newydd hwn hefyd.

Gwnaeth yr ymchwilwyr asesu fformiwleiddiadau cegolchion presennol am eu gallu posibl i amharu ar amlen lipid SARS-CoV-2 - ac awgrymu eu bod yn haeddu gwerthusiad clinigol hefyd.

“Rydym yn amlygu bod ymchwil wedi’i chyhoeddi eisoes i feirysau wedi’u hamgáu, gan gynnwys coronafeirysau, syn cefnogi’n uniongyrchol y syniad bod angen ymchwil bellach ynghylch a allai cegolchion fod yn ffordd bosibl o leihau trosglwyddiadau o SARS-CoV-2,” meddai’r awduron.

Dywedon nhw y gallai ymchwil i bennu potensial y gwaith hwn gynnwys gwerthuso fformiwleiddiadau presennol - neu wedi’u teilwra’n benodol - o gegolch yn y lab ac yna mewn treialon clinigol. Gellid ymgymryd â threialon sy’n seiliedig ar boblogaethau wedi’u monitro, gyda brandiau priodol sydd ar gael ar y fasnach.

Dywedodd y prif awdur, yr Athro O'Donnell, sef Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd: “Hyd yn hyn, nid yw’r defnydd diogel o gegolch - fel garglo - wedi’i ystyried gan gyrff iechyd cyhoeddus yn y DU. Mewn arbrofion tiwb profi ac astudiaethau clinigol cyfyngedig, mae rhai cegolchion yn cynnwys digon o gynhwysion feirwsleiddiol hysbys i dargedu’n effeithiol lipidau mewn feirysau tebyg wedi’u hamgáu.

“Beth nad ydym yn ei wybod eto ydy, a yw cegolchion yn effeithiol yn erbyn pilen lipid SARS-CoV-2. Mae ein hadolygiad o’r llenyddiaeth yn awgrymu bod angen ymchwil frys i bennu ei ddefnydd posibl yn erbyn y feirws newydd hwn.

“Mae hwn yn faes o ddirfawr angen clinigol sydd heb ymchwil ddigonol iddo - a gobeithiwn y caiff prosiectau ymchwil eu cynnal yn gyflym i werthuso hyn ymhellach.”

Ychwanegodd yr Athro O’Donnell: “Nid yw cegolch wedi’i brofi yn erbyn y coronafeirws newydd hwn eto. Dylai pobl barhau i ddilyn mesurau ataliol a ddyrannwyd gan lywodraeth y DU, gan gynnwys golchi dwylo’n aml a chadw pellter cymdeithasol. Mae’r astudiaeth hon yn awgrymu y gallai astudiaethau clinigol pellach fod yn werth chweil ar sail y dystiolaeth ddamcaniaethol.”