Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr Caerdydd yn helpu i olrhain lledaeniad y Coronofeirws yn y DU

23 Mawrth 2020

Stock image of coronavirus

Mae gwyddonwyr o Gymru ar fin chwarae rôl flaenllaw wrth fapio lledaeniad y Coronafeirws yn rhan o brosiect £20m a gyhoeddwyd heddiw gan brif gynghorydd gwyddonol y DU.

Mae Consoriwm Genomeg COVID-19 y DU (COG-UK) yn dod ag arbenigwyr ynghyd o’r GIG, y byd academaidd ac asiantaethau iechyd cyhoeddus er mwyn dilyniannu a dadansoddi’r clefyd yn gyflym ac ar raddfa eang.

Bydd modd mynd ati wedi hynny i rannu’r wybodaeth hon yn gyflym ag ysbytai, y GIG a’r llywodraeth er mwyn helpu i lywio eu hymateb i’r pandemig.

Bydd y prosiect £20m yn creu’r unig ganolfan dilyniannu COVID-19 yng Nghymru a bydd yn cynnwys tîm o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Meddai Dr Tom Connor o Brifysgol Caerdydd fydd yn arwain y ganolfan yng Nghaerdydd: “Bydd dilyniannu genomig yn ein helpu i ddeall y Coronafeirws a’i ledaeniad.

“Drwy ddadansoddi samplau gan bobl sydd wedi cael achosion a gadarnhawyd o COVID-19, gall gwyddonwyr fonitro’r newidiadau yn y feirws ar raddfa genedlaethol er mwyn deall sut mae’r feirws yn lledaenu ac a oes mathau newydd ohono yn dod i’r amlwg.

Bydd cael y wybodaeth hon o gymorth wrth rhoi gofal clinigol i gleifion - ac yn helpu i arbed bywydau yn y pen draw. Bydd y ganolfan yng Nghaerdydd yn golygu ein bod yn gallu helpu ymdrech cenedlaethol y DU yn erbyn y feirws.

Yr Athro Thomas Connor Professor

Mae’r tîm yng Nghymru eisoes wedi dilyniannu dros 50 o genomau feirws COVID-19 o Gymru o ganlyniad i gael arian gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gallai’r gwasanaeth ddilyniannu samplau o Gymru o fewn 24 awr er mwyn gallu ymateb i’r canlyniadau mewn amser real.

Dywedodd Dr Catherine Moore, gwyddonydd clinigol ymgynghorol yng Nghanolfan Firoleg Arbenigol Cymru, bod y data sydd eisoes yn cael ei gynhyrchu yn rhoi dealltwriaeth “anhygoel” i wyddonwyr o ddynameg feirws newydd a sut mae’n cael ei drosglwyddo i boblogaeth sydd heb unrhyw imiwnedd.

“Drwy olrhain lledaeniad byd-eang y Coronafeirws ar lefel genomig, gallwn weld sut mae’n trosglwyddo ar lefelau lleol a rhanbarthol. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth hanfodol i ni o sut allwn atal y lledaeniad ac edrych yn fanylach ar effaith cadw pellter synhwyrol oddi wrth ein gilydd o’i chymharu â pholisïau mwy eithafol fel ‘cau’ dinasoedd os nad gwledydd cyfan.
“Yng Nghymru, rydym wedi gallu monitro nid yn unig sut cafodd y feirws ei gyflwyno i’r wlad yn y lle cyntaf, ond hefyd yr adegau hynny pan gafodd ei drosglwyddo’n lleol a phryd y cafodd ei drosglwyddo’n fwy cyffredinol mewn cymunedau.

“Drwy rannu ein data’n eang dros y misoedd nesaf, bydd ymchwilwyr a modelwyr ym maes gofal iechyd yn gallu pennu effaith ymyriadau a pholisïau lliniarol sydd wedi’u mabwysiadu gan lywodraethau gwahanol wledydd. Yn bwysicaf oll, pan gaiff brechlyn ei greu, byddwn yn gallu monitro sut bydd hynny’n effeithio ar leihau’r trosglwyddiad.”

Meddai Dr Conner, darllennydd yn Ysgol y Biowyddorau ac arweinydd biowyddorau ar gyfer genomeg pathogenau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Nid oes consortiwm fel hwn wedi’i greu o’r blaen o ran pa mor gyflym y mae wedi dod ynghyd a’r dyhead i ddilyniannu cynifer o samplau mewn amser real. Drwy ddefnyddio arbenigedd ac adnoddau o bob rhan o’r DU, bydd COG-UK yn cynnig manteision i’r GIG ar draws y DU gan gyflwyno gwasanaeth sydd ar gael i bawb yn yr un modd yn ogystal â chynnig arbenigedd yn lleol ac yn genedlaethol.

“Drwy ddadansoddi genomau COVID-19 gan gleifion o Gymru, byddwn yn gallu olrhain esblygiad y feirws yn fwy cywir yng Nghymru a rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i lywio’r ymateb gan iechyd y cyhoedd yma a ledled y DU.

Mae Cymru mewn sefyllfa dda i gyfrannu at COG-UK oherwydd yr arian sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyrannu ers 2017 mewn cysylltiad â Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl. Mae’r arian wedi’i ddefnyddio i sefydlu Uned Genomeg Pathogenau yn y GIG yng Nghymru er mwyn archwilio genomau pathogenau o ddiddordeb, gan gynnwys feirysau fel HIV a’r Ffliw. Mae’r adnodd hwn wedi galluogi’r tîm yng Nghymru i fynd ati i ddilyniannu’n gyflym. Cafodd yr adnodd ei ddatblygu yn rhan o Bartneriaeth Genomeg Cymru ac mae Dr Connell yn aelod hollbwysig o’r tîm.

Ychwanegodd Dr Connor: “Dyma enghraifft wych o sut mae’r gwaith sydd wedi cael ei gynnal yn y GIG yng Nghymru i gynyddu adnoddau ym maes genomeg yn gallu talu ar ei ganfed pan mae anawsterau annisgwyl yn codi. Mae hefyd yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio rhwng y GIG a’r byd academaidd gynnig manteision go iawn i’r GIG. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r dulliau dilyniannu yr ydym wedi’u datblygu yn y GIG wedi’u dylunio i fod yn fodiwlaidd ac mae modd eu hehangu. Mae hyn wedi ein galluogi i fynd ati i newid ein diben yn ddiymdroi i allu dilyniannu COVID-19.

Yn ogystal ag adeiladu ar bartneriaethau cryf a hirdymor rhwng y GIG a Phrifysgol Caerdydd yng Nghymru, mae COG-UK yn manteisio ar brosiect arall hefyd y mae Caerdydd wedi chwarae rhan allweddol ynddo: prosiect CLIMB y Cyngor Ymchwil Feddygol a gafodd ei ailariannu gan y Cyngor yn ddiweddar. Mae CLIMB, sy’n cael ei arwain yng Nghaerdydd gan Dr Connor a’i gefnogi gan Uwchgyfrifiadura Cymru, yn rhoi’r adnoddau cyfrifiadurol sydd eu hangen ar COG-UK er mwyn rhannu a dadansoddi’r holl ddata am genomeg COVID-19 sy’n cael ei gynhyrchu ar draws y DU ar hyn o bryd.

Yn ogystal â Chaerdydd, bydd y canolfannau dilyniannu eraill yn Belfast, Birmingham, Caergrawnt, Caeredin, Caerwysg, Glasgow, Lerpwl, Llundain, Norwich, Nottingham, Rhydychen a Sheffield.

Bydd Consortiwm y DU, a gefnogir gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y GIG, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a Wellcome, yn galluogi clinigwyr a thimau iechyd cyhoeddus i fynd ati’n gyflym i ymchwilio i glystyrau o achosion mewn ysbytai, cartrefi gofal a’r gymuned. Drwy wneud hyn, bydd modd deall sut mae’r feirws yn lledaenu a rhoi camau priodol ar waith i reoli’r haint.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn monitro'r sefyllfa'n ofalus er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein staff a myfyrwyr.