Ewch i’r prif gynnwys

Peidiwch ag anwybyddu symptomau cynnil o ganser yn ystod y pandemig, mae ymchwilwyr yn argymell

30 Ebrill 2020

Woman having mammogram

Mae angen i bobl fod yn effro i symptomau mwy cynnil o ganser, a pheidio â bod ofn ceisio cyngor gan eu meddyg teulu yn ystod pandemig byd-eang y Coronafeirws, dywed ymchwilwyr meddygol.

Hefyd, maent yn rhybuddio y gallai ffyrdd newydd o weithio o bell ei gwneud hi’n anos i feddygon teulu ganfod symptomau pryderus, mewn erthygl a gyhoeddwyd heddiw yn Lancet Oncology.

Mae’r arbenigwyr, o bedair prifysgol gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, yn ysgrifennu: “Mae’n debygol y bydd cleifion gyda symptomau ‘baner goch’ hen gyfarwydd, fel lwmp newydd neu waedu o’r rhefr yn parhau i gyflwyno eu hunain i ofal sylfaenol.

“Fodd bynnag, gyda COVID-19 ar flaen y meddwl, gallai symptomau cynnil o ganser, fel blinder, newid mewn arferion y perfeddion a cholli pwysau gael eu diystyru gan y claf. Efallai caiff symptomau resbiradol, gan gynnwys peswch parhaus, eu priodoli i COVID-19 heb fynd i’r afael â nhw.”

Mae’r ymchwilwyr yn dweud bod canser mewn gofal sylfaenol - o ddiagnosis i reoli’r rheiny sy’n byw gyda’r clefyd - yn “esblygu’n gyflym” yn wyneb y pandemig byd-eang.

“Mewn hinsawdd o ofn a gorchymyn i osgoi pob gwasanaeth clinigol ar wahân i’r rhai hanfodol, mae oediadau gan gleifion, poblogaethau a systemau gofal iechyd yn ymddangos yn anochel,” dywedan nhw.

Meddai’r Athro Kate Brain, ymchwilydd o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd sy’n ystyried effaith diagnosau oediog o ganser:

“Mae rhaglenni sgrinio canser cenedlaethol y DU - sy’n cyfrif am 5% o’r holl ddiagnosau o ganser bob blwyddyn - wedi’u hatal am y tro. Felly, mae diagnosau cynnar drwy sylwi ar arwyddion cynnar o ganser - a gweithredu arnynt - yn hollbwysig.

Ni allwch fod yn araf gyda chanser - hyd yn oed yng nghanol pandemig. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â symptomau sy’n peri pryder i gysylltu â’u meddyg teulu.

Yr Athro Katherine Brain Reader

Mae’r grŵp o arbenigwyr hefyd yn argymell meddygon teulu i gydnabod y bydd ymgynghoriadau ffôn a fideo’n gweithio ar gyfer rhai cleifion, ond bydd cleifion eraill dan anfantais, a’r rheiny sydd heb fynediad at gyfrifiadur yn arbennig.

Mae’r ymchwilwyr yn dadlau y gallai rhai ffyrdd newydd o weithio ar draws gofal sylfaenol dal rhai meddygon teulu yn ddiarwybod”. Mae ymgynghoriadau o bell yn ei gwneud hi’n anos i feddygon ganfod yr arwyddion eraill allai helpu mewn ymgynghoriad wyneb yn wyneb, fel ymddaliad cyffredinol cleifion.

Efallai na fydd rhai meddygon teulu’n gallu cael gafael ar brofion arferol amserol oherwydd bod ysbytai’n canolbwyntio ar COVID-19 – sy’n ychwanegu at bwysigrwydd sylwi ar symptomau.  

Mae’r ymchwilwyr meddygol yn nodi bod hefyd angen i ofal sylfaenol gefnogi unigolion â chanser sy’n poeni am eu triniaeth yn ystod y pandemig. Gall rhai therapïau canser effeithio ar system imiwnedd unigolion, gan eu rhoi mewn perygl o ddal haint - ac mae pobl eraill wedi profi oediadau yn eu triniaeth.

A dywedan nhw y dylid dechrau cynllunio nawr ar gyfer pan fydd gwasanaethau’n dechrau dychwelyd i sefyllfa arferol ar draws y GIG.

“Bydd ôl-groniad enfawr o gleifion â symptomau posibl o ganser sydd angen cael eu hasesu ar frys. Dylai cynllunio ar gyfer dychwelyd i sefyllfa arferol ddechrau cyn gynted â phosibl,” maent yn argymell.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.