Ewch i’r prif gynnwys

ESPRC yn ariannu Canolfan Hyfforddiant Doethurol Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

4 Chwefror 2019

ICS chip ed

Bydd Canolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) newydd yn helpu i hyfforddi arbenigwyr y dyfodol mewn technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. 

Bydd y Ganolfan hon yn cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd ac yn cynnig hyfforddiant rhagorol ar lefel PhD sy’n cyd-fynd ag anghenion diwydiant y DU.

Mae’n un o’r 75 o Ganolfannau Hyfforddiant Doethurol a gyhoeddwyd heddiw gan y Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) yn rhan o fuddsoddiad gwerth £446m mewn sgiliau gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Cafodd y Ganolfan ei chyd-greu gan IQE Plc, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Newport Wafer Fab a Compound Semiconductor Applications (CSA) Catapult. Mae’n dod â phedair prifysgol (Caerdydd, UCL, Sheffield a Manceinion) a 24 o gwmnïau ynghyd, ac mae llawer o’r rhain eisoes yn cydweithio’n agos â Chanolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r Ganolfan yn meddu ar ragoriaeth sydd wedi ennill ei phlwyf yn y disgyblaethau hyn a gall roi hyfforddiant PhD unigryw sy’n berthnasol i’r diwydiant ac sy’n heriol yn ddeallusol.

Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: “Ein gweledigaeth yw cynhyrchu graddedigion PhD sydd â’r sgiliau angenrheidiol i ddatblygu eu gyrfaoedd yn gyflym, bodloni eu dyheadau personol, a gweddnewid maes Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y DU.

“Bydd hyn yn rhoi hwb sylweddol i’r niferoedd sy’n defnyddio’r dechnoleg hon mewn rhaglenni drwy allu defnyddio dulliau gweithgynhyrchu Silicon mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd. Bydd yn helpu cwmnïau yn y DU a’r cadwyni cyflenwi i fanteisio ar nodweddion electronig, magnetig, optegol a thrin pwerau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Bydd hyn yn eu galluogi i arloesi swyddogaethau newydd ac integredig megis synhwyro, prosesu data a chyfathrebu.

Byddwn yn cynhyrchu’r gwyddonwyr a’r peirianwyr sydd â’r sgiliau perthnasol aer gyfer y DU. Bydd ganddynt hefyd ddealltwriaeth o ecosystem y gadwyn gyflenwi lawn er mwyn i’r diwydiant allu manteisio ar led-ddargludyddion cyfansawdd. Bydd hyn o fudd wrth weithgynhyrchu deunyddiau a dyfeisiau yn ogystal â’r systemau a’r rhaglenni sy’n eu defnyddio.

Yr Athro Peter Smowton Deputy Head of School and Director of Research

Mae UKRI yn ariannu 70 o Ganolfannau Hyfforddiant Doethurol fel bod gan y DU y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr doethurol sydd ei hangen ar draws y sector peirianneg a gwyddorau ffisegol.

Dywedodd yr Athro Mark Walport, Prif Weithredwr UKRI: “Mae angen pobl dalentog dros ben i fynd i’r afael â heriau byd-eang o bwys fel ynni cynaliadwy a seibr-ddiogelwch, yn ogystal â rhoi arweiniad ar draws diwydiannau a’n gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae Canolfannau Hyfforddiant Doethurol yn rhoi’r gefnogaeth, y cyfarpar a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Mae’r ffaith fod 1,400 o bartneriaid prosiect yn dangos cymaint y mae diwydiant a’r sector elusennau yn eu gwerthfawrogi.”

Meddai’r Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Mae ein hymchwil ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd yn arwain y gad ac rydw i wrth fy modd bod yr Athro Smowton wedi cyflwyno cais llwyddiannus am Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a ariennir gan EPSRC. Mae’r buddsoddiad hwn gan EPSRC, a groesewir yn fawr, yn golygu ein bod yn gallu cefnogi addysg a datblygiad gyrfaol y genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn y maes ymchwil hwn sy’n hollbwysig i’r Brifysgol.

Rydym wedi buddsoddi llawer iawn mewn adnoddau ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd dros y 5 mlynedd diwethaf, gan gynnwys penodi 10 aelod staff academaidd newydd. Ar gyfer y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol hon a ariennir gan EPSRC, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gyfrannu dros £1.5m mewn adnoddau ystâd, staff a chostau ysgoloriaethau ychwanegol. Mae hyn yn amlygu ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i roi’r cyfleusterau diweddaraf a’r gefnogaeth angenrheidiol i’n cymuned estynedig o ysgolheigion, partneriaid ym myd diwydiant ac ymchwilwyr ol-raddedig. Ein nod yw cyflymu ymchwil ac arloesedd technolegol yn y maes hwn sy’n datblygu’n gyflym.”

Mae EPSRC wedi cefnogi dros 50,000 o fyfyrwyr doethurol dros y 25 mlynedd diwethaf: Mae 43% o’r myfyrwyr y mae ESPRC wedi buddsoddi ynddynt wedi mynd yn eu blaenau i gael eu cyflogi mewn busnes/gwasanaethau cyhoeddus, tra bod 36% yn mynd i weithio yn y byd academaidd.

https://www.youtube.com/watch?v=y6mhj9Ghydg

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.