Ewch i’r prif gynnwys

Cynrychiolwyr o Tsieina’n ymweld â Sefydliad ICS

5 Tachwedd 2018

Chinese delegates visit ICS

Mae Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd wedi croesawu swyddogion o Lywodraeth Drefol Chongqing yn ne-orllewin Tsieina.

Daeth y grŵp o ddeg cynrychiolydd i ymweld â’r Brifysgol er mwyn dysgu mwy am y cyfleoedd busnes y mae Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd De Cymru yn eu cynnig.

Llywodraeth Cymru a gynhaliodd yr ymweliad a ddaeth â Chyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Peter Smowton, ac Is-Faer Gweithredol Chongqing, Wu Cunrong, ynghyd i drafod syniadau.

Ymysg y cynrychiolwyr oedd llunwyr polisi allweddol fydd yn llywio datblygiad economi Chongqing yn y dyfodol, gan gynnwys arbenigwyr economeg ac ariannu.

Roedd yn gyfle gwych i amlygu ein gwaith a’r cynllun i gyflwyno Cyfleuster Ymchwil Drosiadol ar Gampws Arloesedd Caerdydd, lle byddwn yn gallu datblygu, profi a rhagbrofi teclynnau fydd yn sbarduno technolegau yn yr 21ain ganrif

Yr Athro Peter Smowton Deputy Head of School and Director of Research

Ychwanegodd Charlotte Fundalski, Swyddog Protocol Ymweliadau a Digwyddiadau Rhyngwladol Pwysig gyda Swyddfa Prif Weinidog Llywodraeth Cymru a Swyddfa’r Cabinet: “Rhoddodd yr ymweliad gyfle perffaith i ni amlygu prif gryfderau Cymru a sut gall Cymru a Chongqing greu cysylltiadau economaidd a chydweithio yn y dyfodol.”

Mewn darlith fer, amlinellodd yr Athro Smowton y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau sy’n gweithio gyda’r Sefydliad a CS Connected - sef y clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ehangach.

Esboniodd yr Athro Smowton sut mae’r Sefydliad yn ymrwymo i newid y meddylfryd academaidd i ganolbwyntio ar ymchwil y gellir ei gweithgynhyrchu. Mae’r Sefydliad yn pontio rhwng y labordy ymchwil a’r byd masnachol ar gyfer un o dechnolegau mwyaf defnyddiol y byd.

“Yn y pen draw, rydym eisiau i’r Sefydliad fod yn gyfleuster i gynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd cynaliadwy, lle mae ymchwil a diwydiant yn cydweithio’n agos gyda pheirianwyr proses medrus, a hynny yng nghalon y pumed clwstwr yn Ewrop ar gyfer lled-ddargludyddion - ond y cyntaf yn y byd ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.”

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.